{"id":39964,"date":"2021-05-06T13:58:50","date_gmt":"2021-05-06T13:58:50","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/?p=39964"},"modified":"2021-05-06T13:58:52","modified_gmt":"2021-05-06T13:58:52","slug":"dyfodol-disglair-trwy-ddysgu-gydan-gilydd-gweledigaeth-newydd-ar-gyfer-addysg-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/05\/06\/dyfodol-disglair-trwy-ddysgu-gydan-gilydd-gweledigaeth-newydd-ar-gyfer-addysg-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Dyfodol disglair trwy ddysgu gyda\u2019n gilydd &#8211; gweledigaeth newydd ar gyfer addysg yng Nghymru"},"content":{"rendered":"\n<p><strong><em>Mae\u2019r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i bawb, yn enwedig i addysgwyr sydd wedi gorfod addasu i ffyrdd newydd o weithio ac ymateb i nifer o wahanol rwystrau. Ond daeth cyfleoedd yn sgil y pandemig hefyd, ac wrth i ni ddechrau weld eto haul ar fryn, mae\u2019r Athrofa a&#8217;i hysgolion partner yn bwrw ati i barhau gyda\u2019r gwaith o drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau. Anna Brychan sy\u2019n dweud mwy&#8230;<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Yr Athrofa yw <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/\">Canolfan Addysg Y Drindod Dewi Sant<\/a>, cartref addysg gychwynnol athrawon, dysgu proffesiynol, polisi addysg ac ymchwil. Ym mhob maes o&#8217;n gweithgarwch, rydym yn gweithio&#8217;n agos gyda 150+ o ysgolion partner ac amrywiaeth o bartneriaid a phobl eraill ledled Cymru a\u2019r tu hwnt.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym wedi cael nifer o drafodaethau&#8217;n ddiweddar am bwysigrwydd bod yn gysurus wrth ymdrin ag ansicrwydd yn ein maes. Debyg iawn mai &#8216;ansicrwydd&#8217; yw un o&#8217;r geiriau a ddefnyddiwyd amlaf yn ystod y cyfnod diweddar; wedi&#8217;r cyfan, mae popeth yr oeddem wedi&#8217;i ystyried yn sicr wedi cael cryn ysgytwad.<\/p>\n\n\n\n<p>O safbwynt <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/\">Y Drindod Dewi Sant<\/a>, <em>mae<\/em> mwy o sicrwydd ynghylch llawer o bethau erbyn hyn. Mae mwy o fyfyrwyr wrthi\u2019n dychwelyd i&#8217;r campws, mae dysgu unwaith eto&#8217;n digwydd mewn modd cymunedol, yn y cnawd, ac yn cynnig cyfle am gyfarfyddiadau a chanfyddiadau serendipaidd. \u00a0Rydym hefyd bellach yn gallu gweld yn glir bod dysgu cyfunol yn cynnig cyfleoedd gwych i arloesi: mae cyfarfodydd yn gweithio&#8217;n dda iawn ar-lein pan nad oes rhaid i chi ystyried traffig neu barcio; bellach mae cyfarfyddiadau rhyngwladol ag ymarferwyr, arbenigwyr addysgeg ac athrawon yn fater o &#8216;ar ba ddiwrnod wnawn ni hyn?&#8217; yn hytrach na, \u2018fe rown ni wahoddiad iddyn nhw pan fyddan nhw yn y wlad hon nesaf&#8217;. \u00a0<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym hefyd wedi atgoffa ein hunain bod sicrwydd ym maes dysgu i&#8217;w werthfawrogi. Mae Neil Greshenfeld, cyfarwyddwr Canolfan Dechnoleg Sefydliad Technoleg Massachusetts yn ei fynegi\u2019n well nag y gallwn i: &#8216;Mae ansicrwydd yn rhan annatod o&#8217;r broses o ddarganfod beth nad ydych chi\u2019n ei wybod, nid gwendid i&#8217;w osgoi.&#8217;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r canfyddiad hwn yn allweddol i&#8217;n model o weithio yn yr Athrofa. Anogir ein darpar athrawon i gofleidio amheuon, i brofi, rhannu a mireinio eu harfer. Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar gefnogi ysgolion i weithio ar brosiectau lle nad yw&#8217;r atebion byth yn ddu a gwyn. Pan fyddwn yn datblygu <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/ymchwil\/ganolfan-ar-gyfer-dysgu-ac-arweinyddiaeth\/\">rhaglenni dysgu proffesiynol<\/a>, rydym yn gwneud hynny ar y cyd ag ysgolion, gan ofyn cwestiynau megis &#8216;beth <em>yw<\/em> dilyniant i fyfyriwr unigol?&#8217;, &#8216;Sut gallai hynny edrych?&#8217; Rydym yn gwybod na fydd yn edrych yr un peth ar gyfer pob disgybl. Gyda&#8217;n gilydd, rydym yn llywio ffordd trwy ofod sy&#8217;n llawn gwybodaeth a syniadau sy&#8217;n cael eu herio.<\/p>\n\n\n\n<p>Cynhelir y sgyrsiau hyn dros amser hefyd. Mae ein model yn seiliedig ar adeiladu perthynas gydol gyrfa \u00e2&#8217;n myfyrwyr a&#8217;n partneriaid. Rydym yn cynnig cyrsiau i fyfyrwyr ysgol er mwyn rhoi blas iddynt ar astudio yn y brifysgol, rhaglenni i&#8217;r rhai sydd am gymhwyso\u2019n athrawon, cyrsiau arbenigol yn y cwricwlwm, addysgeg, arweinyddiaeth ac anghenion dysgu ychwanegol, i raddau meistr a doethuriaethau. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd cyfoethog i ni ddysgu oddi wrth ein gilydd hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l blwyddyn lle mae pob un ohonom wedi dyheu am fwy o sicrwydd a mwy o batrymau arferol mewn sawl rhan o&#8217;n bywydau, mae ein cydweithwyr mewn ysgolion a&#8217;u partneriaid mewn prifysgolion yn parhau\u2019n argyhoeddedig, pan ddaw&#8217;n fater o ddysgu gyda&#8217;n gilydd, fod lle gwerthfawr i ansicrwydd yn ei holl flerwch creadigol, egn\u00efol.<\/p>\n\n\n\n<p>A dyfynnu\u2019r ymchwilydd Americanaidd, Brene Brown: &#8216;Cawsom ein geni&#8217;n chwilfrydig. Ond dros amser, rydym yn dysgu y gall chwilfrydedd, yn yr un modd \u00e2 breuder, arwain at gael ein brifo. O ganlyniad, rydym yn troi\u2019n hunan amddiffynnol \u2014 gan ddewis sicrwydd yn hytrach na chwilfrydedd, arfwisg yn hytrach na breuder, a gwybod yn hytrach na dysgu.&#8217;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r cyffro a&#8217;r canfyddiadau yn dod o\u2019r <em>broses<\/em> o ddysgu gyda&#8217;ngilydd. Bydd cadw pobl yn ddiogel yn dal i ddylanwadu ar y ffordd yr ydym yn gwneud pethau ond bydd yr egwyddorion sy&#8217;n llywio pam a&#8217;r hyn rydym yn ei ddysgu a&#8217;i addysgu yn ein gyrru o hyd. Rydym yn edrych ymlaen at hynny.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong><em>Mae Anna Brychan yn Ddeon Cynorthwy-ydd dros dro yn Yr Athrofa, <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/ymchwil\/ganolfan-ar-gyfer-dysgu-ac-arweinyddiaeth\/\">Canolfan Addysg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant<\/a><\/em><\/strong><\/li><\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i bawb, yn enwedig i addysgwyr sydd wedi gorfod addasu i ffyrdd newydd o weithio ac ymateb i nifer o wahanol rwystrau. Ond daeth cyfleoedd yn sgil y pandemig hefyd, ac wrth i ni ddechrau weld eto haul ar fryn, mae\u2019r Athrofa a&#8217;i hysgolion partner yn bwrw ati&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":39961,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[291],"tags":[],"class_list":["post-39964","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-blog-cy","category-291","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39964","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39964"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39964\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":39965,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39964\/revisions\/39965"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/39961"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39964"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39964"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39964"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}