{"id":40034,"date":"2022-04-25T10:00:32","date_gmt":"2022-04-25T10:00:32","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/?p=40034"},"modified":"2022-04-25T10:01:38","modified_gmt":"2022-04-25T10:01:38","slug":"datblygu-ar-y-cyd-creu-perthnasoedd-ar-gyfer-dysgu-ar-draws-system-addysg-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2022\/04\/25\/datblygu-ar-y-cyd-creu-perthnasoedd-ar-gyfer-dysgu-ar-draws-system-addysg-cymru\/","title":{"rendered":"Datblygu ar y cyd: creu perthnasoedd ar gyfer dysgu ar draws system addysg Cymru"},"content":{"rendered":"\n<p><em><strong>Gwneir newidiadau parhaus mewn system addysg Cymru yng nghyd-destun cydweithredu a chyd-ddatblygu polisi. Yn y blog craff hwn, mae Yvonne Roberts-Ablett yn myfyrio ar ei hymwneud ei hun \u00e2 phroses<\/strong> <strong>&#8216;Arloeswyr&#8217;<\/strong> <strong>y cwricwlwm<\/strong> <strong>ac yn galw ar eraill i ymuno yn y mudiad diwygio<\/strong> <strong>addysgol<\/strong>&#8230;<\/em><\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator\"\/>\n\n\n\n<p>Mae &#8216;datblygu ar y cyd&#8217; yn prysur ddod yn ymadrodd allweddol ym myd addysg yng Nghymru. Adolygodd adroddiad diweddar gan y Swyddfa Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD, 2020) yn ffafriol gynnydd datblygu ar y cyd Cymru yn gyfrwng i sicrhau diwygio addysgol. Ond beth yw datblygu ar y cyd a sut mae&#8217;n gweithio&#8217;n ymarferol?<\/p>\n\n\n\n<p>Nid oes diffiniad geiriadur clir o &#8216;ddatblygu ar y cyd.&#8217; &nbsp;Rydym yn edrych ar adeiladu rhywbeth newydd, gyda&#8217;n gilydd. Nodir ei fod yn &#8216;rhannu problemau a chyd-ddatblygu atebion&#8217; (Llywodraeth Cymru, 2021), nodir bod angen y ffordd newydd hon o weithio er mwyn gwireddu cwricwlwm a arweinir gan bwrpas o fewn system addysg Cymru. Yn ymarferydd sy&#8217;n gweithio yng Nghymru, rwy&#8217;n gweld hyn yn un sy&#8217;n gwerthfawrogi r\u00f4l pawb yn system addysg Cymru: cyfuno arbenigedd ac adnoddau i greu polis\u00efau a systemau sy&#8217;n galluogi ein dysgwyr yng Nghymru i wireddu&#8217;r Pedwar Diben (diben cwricwlwm Cymru, sydd bellach wedi&#8217;i ymgorffori mewn deddfwriaeth) gan sicrhau bod pob dysgwr yn datblygu fel:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy\u2019n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau<\/li><li>Cyfranwyr mentrus, creadigol, sy\u2019n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith<\/li><li>Dinasyddion moesegol, gwybodus Cymru a&#8217;r byd<\/li><li>Unigolion iach, hyderus, yn barod i fyw bywydau boddhaus yn aelodau gwerthfawr o gymdeithas<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>(Donaldson, 2015, t.29)<\/p>\n\n\n\n<p>Mae datblygu ar y cyd wedi dod i&#8217;r amlwg mewn ymateb i ganlyniadau addysgol siomedig yng Nghymru a chydnabyddiaeth bod y llywodraeth wedi creu cwricwla blaenorol ar ei phen ei hun, gan adael bwlch yn aml mewn dealltwriaeth a pherchnogaeth o&#8217;r proffesiwn sy&#8217;n gyfrifol am ei lwyddiant. Roedd <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/publications\/2018-03\/successful-futures.pdf\">Dyfodol Llwyddiannus<\/a> (2015), yr adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar effeithiolrwydd addysg yng Nghymru, yn nodi bod y capasiti ar gyfer diwygio addysgiadol yn bodoli yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae hyn wedi galluogi Llywodraeth Cymru i gyfuno gwybodaeth a sgiliau&#8217;r gweithlu addysg \u00e2&#8217;r ymchwil academaidd a ysgogwyd gan ei phartneriaeth \u00e2 sefydliadau addysg uwch, a&#8217;r OECD, i ddefnyddio dull o ddiwygio sydd wedi&#8217;i wreiddio mewn datblygu ar y cyd. Byddwn yn dadlau y bydd manteisio ar y cyfle i ddatblygu ar y cyd yn ei gwneud yn bosibl gwireddu Cwricwlwm Cymru yn llwyddiannus drwy gyfuniad pwerus o ymchwil addysgol o ansawdd uchel, annibyniaeth broffesiynol a chydberchnogaeth ar gyfer y proffesiwn addysg cyfan yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Dadleua&#8217;r arbenigwr ar theori cwricwlwm, Mark Priestley, bwysigrwydd annibyniaeth athrawon o ran sicrhau bod y polis\u00efau a&#8217;r systemau cyd-ddatblygu hyn yn cael eu gweithredu&#8217;n llwyddiannus ledled Ewrop. A dyma&#8217;r broblem i ni yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid i bob ymarferydd yn y wlad ddeall a meddu ar y sgiliau i ddarparu&#8217;r cwricwlwm hwn, ond nid yw pob un ohonynt wedi bod yn rhan o&#8217;r datblygu ar y cyd nac wedi&#8217;i ennill i\u2019r syniad. Yn 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru restr o Ysgolion Arloesi a oedd wedi cael y dasg o weithio ochr yn ochr \u00e2&#8217;r llywodraeth a&#8217;r haen ganol (partneriaethau rhanbarthol ar gyfer gwella ysgolion, arolygiaeth Cymru, Estyn, ac addysg uwch) i gyd-lunio fframwaith Cwricwlwm i Gymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Wedyn adolygwyd y fframwaith hwn, a gyhoeddwyd i&#8217;w adolygu yn 2019, ei werthuso a&#8217;i fireinio gan ymarferwyr pellach, gydag ymdrechion mewn treialon cynnar gan rai ysgolion yng Nghymru. Mae hyn wedi galluogi cannoedd o ysgolion yng Nghymru i fod yn rhan uniongyrchol o\u2019r gwaith o ddatblygu ar y cyd fframwaith Cwricwlwm i Gymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ymarferydd sydd wedi bod yn rhan o\u2019r gwaith hwn o ddatblygu ar y cyd ers 2017, rwy&#8217;n teimlo\u2019r annibyniaeth hon yn fwy o lawer na fersiynau blaenorol o&#8217;r Cwricwlwm Cenedlaethol yr wyf wedi bod yn gyfrifol am &#8216;gyflawni&#8217; yn unig. Mae ein hysgol ni\u2019n teimlo&#8217;n rhan o&#8217;r broses, bod rhannau eraill o&#8217;r system yn gwrando arni, a\u2019n bod ni\u2019n gallu gweld bod amrywiaeth ein dysgwyr wedi ei chynrychioli yn y fframwaith. A yw hynny&#8217;n golygu y gall pob aelod o staff yn ein hysgol ddweud yr un peth? A dweud y gwir, nac ydy. Er &nbsp;mai ymarferwyr unigol sy&#8217;n cynrychioli eu hysgolion sydd wedi llunio&#8217;r cwricwlwm hwn, rhaid cydnabod nad yw hynny o reidrwydd yn trosi i bob aelod o gymuned ysgol arloesi sydd \u00e2 gwybodaeth ymarferol am y diwygiad. Ond mae hyn hefyd yn wir am y cwricwlwm presennol; mae rhywbeth o hyd y gallem ni ei ddeall yn well.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae manteision datblygu ar y cyd yn arf ar gyfer annibyniaeth broffesiynol yn parhau\u2019n gysyniad sy&#8217;n datblygu yng Nghymru a byddwn yn dadlau mai cyfrifoldeb proffesiynol pob un o&#8217;n hysgolion a&#8217;n lleoliadau yw cymryd fframwaith Cwricwlwm i Gymru a sicrhau bod ein teithiau gwella ysgolion yn adlewyrchu anghenion pob un o\u2019n dysgwyr. Mae fy ysgol yn bwriadu gwneud hyn drwy ddeialog barhaus a phartneriaethau effeithiol sy&#8217;n ymateb i&#8217;n hanghenion dysgu proffesiynol. Dyma ni&#8217;n cyfrannu i\u2019n system hunan-wella, sef dyhead &nbsp;Llywodraeth Cymru dros addysg yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p>O ganlyniad i&#8217;m hymwneud, yr wyf wedi cael y fraint o drafod polisi ac arferion addysg. Rwyf wedi darllen a chyfrannu i ymchwil anhygoel sy&#8217;n ychwanegu gwerth at ein proffesiwn ac, yn y pen draw, wedi dod yn ymarferydd ac yn uwch arweinydd gwell i&#8217;m dysgwyr o ganlyniad. Oedd hi\u2019n aberth i&#8217;n hysgol gymryd rhan? Ar adegau, oedd. Ond mae&#8217;r hyn rydym wedi&#8217;i ennill wedi bod yn fwy buddiol o lawer.<\/p>\n\n\n\n<p>Pan fydd arnom angen cyngor a chefnogaeth gan gydweithwyr ar draws y sector, nid oes arnom ofn gwneud na chymryd yr alwad, oherwydd &nbsp;yr ydym wedi meithrin perthynas agos \u00e2 Llywodraeth Cymru, Estyn neu bartneriaethau rhanbarthol. Yn bersonol, rwyf wedi gwneud ffrindiau gydol oes ledled y wlad, y gallaf eu he-bostio neu eu galw pan fydd angen rhywfaint o arweiniad arnaf neu eisiau trafod syniad. Rwyf wedi elwa o\u2019r amser i feddwl, darllen, trafod a chynhyrchu syniadau arloesol ar gyfer fy nysgwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gennym ni gyfle yng Nghymru i barhau \u00e2&#8217;r ffordd newydd hon o weithio. Dysgwyd llawer o natur gyd-ddatblygol y broses Arloeswr, am yr angen am amser a lle i adfyfyrio a datblygu syniadau newydd gyda&#8217;n gilydd; p\u0175er pob llais yn yr ystafell sy&#8217;n datblygu polisi ac arfer y mae\u2019r proffesiwn cyfan yn eu perchenogi a ph\u0175er y llywodraeth i glywed yn uniongyrchol yr ymarferwyr y mae&#8217;n ceisio eu cefnogi.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae sgyrsiau&#8217;r Rhwydwaith Cenedlaethol yn cael eu rhoi yn rhodd i&#8217;r proffesiwn addysg yng Nghymru yn ddull parhaol lle mae pob ymarferydd yn arwain sgyrsiau cenedlaethol ar faterion allweddol sy&#8217;n ein herio. Cyfle i ymarferwyr a&#8217;r llywodraeth gasglu gwybodaeth, bwydo hyn yn \u00f4l yn uniongyrchol i bolisi ac ymarfer a chreu canfyddiadau newydd gyda&#8217;i gilydd, i werthuso&#8217;n feirniadol yr hyn sy&#8217;n gweithio&#8217;n dda a pham. Mae hwn yn arf pwerus i wireddu&#8217;r annibyniaeth broffesiynol y mae Mark Priestley yn ei hargymell mor huawdl ar gyfer llwyddiant diwygio&#8217;r cwricwlwm. Rwy\u2019n annog fy nghydweithwyr i gymryd rhan mewn sgyrsiau a hwyluso hyn yn eu lleoliadau eu hunain, os nad gwirfoddoli i wneud hynny ledled Cymru a dechrau adeiladu rhwydwaith o&#8217;ch cwmpas. Mae hon yn annibyniaeth sy&#8217;n gweithio&#8217;n ymarferol.<\/p>\n\n\n\n<p>Ydy datblygu ar y cyd wedi ateb popeth i mi? Ddim o bell ffordd. Rwy&#8217;n dal i chwilio am atebion i&#8217;r pethau sy&#8217;n her i mi a&#8217;m hysgol ac yn &#8216;mynd i hwyl&#8217; wrth siarad ag eraill yn y system, mewn ffordd y mae&#8217;n rhaid bod pobl arferol yn ei deimlo mewn cyngerdd bop! Dwy erioed wedi teimlo&#8217;n fwy bodlon fy myd yn broffesiynol. Ond mae angen cydbwysedd. Mae angen i mi hefyd dorchi llewys, dysgu&#8217;r rhai o&#8217;m blaen hyd eithaf fy ngallu a goruchwylio&#8217;r rhes ginio! Mae hyn yn cadw fy nhraed ar y ddaear ac yn fy ngalluogi i gyfrannu i bolisi o lawr dosbarth. Yn aml byddwn ni\u2019n anghofio mewn addysg am y sgiliau trosglwyddadwy eang sydd gennym, ond nid yw&#8217;n golygu bod yn rhaid i bob un ohonom wneud yr un peth, yn yr un modd, i sicrhau gwell system addysg.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth imi fyfyrio ar yr hyn y mae datblygu ar y cyd wedi&#8217;i roi i mi, anogaf eraill i ymuno \u00e2&#8217;r ffordd newydd hon o weithio a rhoi hwb i&#8217;r bobl ar draws pob sector ym maes addysg yng Nghymru. Dewch i&#8217;w hadnabod fel pobl, oherwydd maen nhw&#8217;n union fel chi ac eisiau&#8217;r gorau i ddysgwyr Cymru. Byddant yn ategu&#8217;r wybodaeth a&#8217;r sgiliau rydych chi wedi&#8217;u rhoi &nbsp;gyda&#8217;ch gilydd, gall datblygu ar y cyd roi&#8217;r eglurder y mae ei angen arnom i wireddu&#8217;r Pedwar Diben ar gyfer dysgwyr Cymru.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong>Mae Yvonne Roberts-Ablett yn Bennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Uwchradd Fitzalan, Caerdydd, ac yn fyfyrwraig ar <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/doethuriaeth-addysg\/\">raglen Doethuriaeth mewn Addysg Yr Athrofa<\/a>.<\/strong><\/li><\/ul>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator\"\/>\n\n\n\n<p><strong><em>Cyfeiriadau<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Bubbins, M. and Martin Thomas, L.&nbsp;(2019) Addysg Cymru [podcast] A new Curriculum for Wales. Available at: <a href=\"https:\/\/podcasts.apple.com\/gb\/podcast\/a-new-curriculum-for-wales\/id1372550367?i=1000497984196\">https:\/\/podcasts.apple.com\/gb\/podcast\/a-new-curriculum-for-wales\/id1372550367?i=1000497984196<\/a> (Accessed 13th November 2019)<\/p>\n\n\n\n<p>Department for Education. (2021) Curriculum and Assessment (Wales) Act 2021. Available at: <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.legislation.gov.uk\/asc\/2021\/4\/contents\/enacted\" target=\"_blank\">https:\/\/www.legislation.gov.uk\/asc\/2021\/4\/contents\/enacted<\/a> (Accessed 21<sup>st<\/sup> April 2021)&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Department for Education. (2019) <em>Curriculum for Wales<\/em>. Available at: <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/hwb.gov.wales\/curriculum-for-wales\" target=\"_blank\">https:\/\/hwb.gov.wales\/curriculum-for-wales<\/a> (Accessed 19th February 2019)&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Department for Education. (2021) National Network for Curriculum Implementation. Available at: <a href=\"https:\/\/hwb.gov.wales\/curriculum-for-wales\/national-network-for-curriculum-implementation\/get-involved\/\">https:\/\/hwb.gov.wales\/curriculum-for-wales\/national-network-for-curriculum-implementation\/get-involved\/<\/a> (Accessed 29<sup>th<\/sup> September 2021)<\/p>\n\n\n\n<p>Department for Education. (2020) Implementation plan. Available at: <a href=\"https:\/\/hwb.gov.wales\/curriculum-for-wales\/curriculum-for-wales-implementation-plan\/#how-do-we-get-there\">https:\/\/hwb.gov.wales\/curriculum-for-wales\/curriculum-for-wales-implementation-plan\/#how-do-we-get-there<\/a>? (Accessed 28<sup>th<\/sup> October 2020)<\/p>\n\n\n\n<p>Department for Education. (2019) <em>Our National Mission: <\/em>A Transformational Curriculum Proposals for a new legislative framework. Available at: <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/consultations\/2019-07\/summary-of-responses-our-national-mission-a-transformational-curriculum_1.pdf\">https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/consultations\/2019-07\/summary-of-responses-our-national-mission-a-transformational-curriculum_1.pdf<\/a> (Accessed 3<sup>rd<\/sup> November 2019)<\/p>\n\n\n\n<p>Department for Education. (2018) Written Statement &#8211; Announcement of Pioneer Schools. Available at: <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/inline-documents\/2018-11\/170109pioneerschoolsen.pdf\">https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/inline-documents\/2018-11\/170109pioneerschoolsen.pdf<\/a> &nbsp;(Accessed 21<sup>st<\/sup> April 2021)&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Donaldson, G. (2015) Successful Futures. Available at: <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/publications\/2018-03\/successful-futures.pdf\">https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/publications\/2018-03\/successful-futures.pdf<\/a> (Accessed 21st April 2015)<\/p>\n\n\n\n<p>Evans, G. (2013) \u2018Pisa results: Wales going backwards in all core subjects\u2019 <em>Wales Online,<\/em> 3<sup>rd<\/sup> December. Available at: <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/pisa-results-alarming-declines-core-6364784\">https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/pisa-results-alarming-declines-core-6364784<\/a> (Accessed 20th November 2021)<\/p>\n\n\n\n<p>OECD. (2020) &#8220;Achieving the new curriculum for Wales&#8221;,&nbsp;<em>OECD Education Policy Perspectives<\/em>, No. 7, OECD Publishing, Paris. Available at <a href=\"https:\/\/www.oecd.org\/education\/achieving-the-new-curriculum-for-wales-4b483953-en.htm\">https:\/\/www.oecd.org\/education\/achieving-the-new-curriculum-for-wales-4b483953-en.htm<\/a> (Accessed 21st October 2020)<\/p>\n\n\n\n<p>Priestley, M. (2021) [Blog] Remaking curriculum making: how should we support curriculum development? Available at: <a href=\"https:\/\/mrpriestley.wordpress.com\/2021\/02\/28\/remaking-curriculum-making-how-should-we-support-curriculum-development\/\">https:\/\/mrpriestley.wordpress.com\/2021\/02\/28\/remaking-curriculum-making-how-should-we-support-curriculum-development\/<\/a> (Accessed 28<sup>th<\/sup> February 2021)<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator\"\/>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gwneir newidiadau parhaus mewn system addysg Cymru yng nghyd-destun cydweithredu a chyd-ddatblygu polisi. Yn y blog craff hwn, mae Yvonne Roberts-Ablett yn myfyrio ar ei hymwneud ei hun \u00e2 phroses &#8216;Arloeswyr&#8217; y cwricwlwm ac yn galw ar eraill i ymuno yn y mudiad diwygio addysgol&#8230; Mae &#8216;datblygu ar y cyd&#8217; yn prysur ddod yn ymadrodd&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":40026,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[291],"tags":[],"class_list":["post-40034","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-blog-cy","category-291","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/40034","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=40034"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/40034\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":40036,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/40034\/revisions\/40036"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/40026"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=40034"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=40034"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=40034"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}