{"id":40045,"date":"2022-05-04T13:51:55","date_gmt":"2022-05-04T13:51:55","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/?p=40045"},"modified":"2022-05-04T13:51:57","modified_gmt":"2022-05-04T13:51:57","slug":"nosweithiau-rhieni-neu-ddathliadau-dysgu-pa-un-byddech-chin-ei-ddewis","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2022\/05\/04\/nosweithiau-rhieni-neu-ddathliadau-dysgu-pa-un-byddech-chin-ei-ddewis\/","title":{"rendered":"Nosweithiau rhieni neu ddathliadau dysgu \u2013 pa un byddech chi&#8217;n ei ddewis?"},"content":{"rendered":"\n<p><strong><em>Mae COVID-19 wedi newid y ffordd rydyn ni&#8217;n meddwl am addysg, ac wedi ein gwneud yn agored i gwestiynu llawer o hen arferion. Nosweithiau rhieni yw un o&#8217;r rhain ond esbonia Janet Hayward, mae dull newydd arloesol ar gael i ysgolion sy&#8217;n barod i roi cynnig ar rywbeth gwahanol&#8230;<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator\"\/>\n\n\n\n<p>Nid yw&#8217;n newyddion torcalonnus bod Pandemig COVID-19 wedi gorfodi ysgolion i weithio&#8217;n wahanol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Yn bersonol, yn bennaeth gweithredol ar ddwy ysgol, mae ystyried asesiadau risg sy&#8217;n newid yn barhaus ynghylch faint o roliau papur glas a chyfarpar diogelu personol a ddylai fod yn y cwpwrdd stoc wedi bod yn ddargyfeiriad blinedig oddi wrth ein busnes craidd.<\/p>\n\n\n\n<p>Wedi dweud hynny, \u00a0mae rhai ffyrdd gwahanol o weithio wedi dod i&#8217;r amlwg a heb os wedi bod o fudd i blant, rhieni ac athrawon. <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/04\/13\/dysgu-ar-lein-pam-nad-yw-myfyrwyr-yn-cymryd-rhan\/\">Un enghraifft wych o hyn yw&#8217;r newid yn y dull o ymdrin \u00e2 nosweithiau rhieni.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod gyrfa addysgu ers dros 30 mlynedd a rhagor, rwy&#8217;n gwybod bod nosweithiau rhieni yn fy ysgol bob amser wedi cael derbyniad da ar y cyfan, fodd bynnag, (a doeddwn i ddim yn gallu rhoi fy mys ar yr union reswm) roeddwn i&#8217;n teimlo bod rhywbeth ar goll&#8230;<\/p>\n\n\n\n<p>&nbsp;Trowch eich meddwl yn \u00f4l i fis Ionawr 2020, wrth i\u2019r sibrydion ddechrau am bandemig Covid-19, es i Gynhadledd Flynyddol Addysg Gyfan yn Llundain.<\/p>\n\n\n\n<p><em>(Sefydlwyd Addysg Gyfan yn rhwydwaith cenedlaethol yn 2010, yn deillio o Siarter yr RSA ar gyfer Addysg yr 21ain Ganrif. Mae&#8217;r rhwydwaith deinamig yn cynnwys dros 500 o ysgolion a phartneriaid sydd wedi ymrwymo i ddysgu oddi wrth a chyda&#8217;i gilydd i ddarparu &#8216;addysg gyfan&#8217;)<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Uchafbwynt y gynhadledd i mi oedd eistedd mewn gweithdy dan arweiniad Ron Berger, Prif Swyddog Academaidd EL Education yn yr Unol Daleithiau. Roedd y gweithdy&#8217;n canolbwyntio ar &nbsp;&#8216;gynadleddau dan arweiniad myfyrwyr&#8217;, eu potensial a sut roedd Berger yntau wedi&#8217;u harwain yn ymarferydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Felly, mewn gair: mae myfyrwyr mor ifanc \u00e2 phump oed yn gwahodd oedolyn o&#8217;u dewis i&#8217;r ysgol i adfyfyrio ar yr hyn y maent yn ei ddysgu. Esboniodd sut yr oeddent wedi gweithio drwy straeon ysbrydoledig am blant unigol a&#8217;u teuluoedd a sut yr oedd y cynadleddau wedi bod yn bwerus ac yn llwyddiannus a theuluoedd yn cael llawer mwy o ddealltwriaeth o beth a sut roedd eu plentyn wedi bod yn dysgu a sut y gallent eu cefnogi orau gartref.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd y cynadleddau wedi cryfhau&#8217;r berthynas rhwng y cartref a&#8217;r ysgol ac roedd myfyrwyr yn eu hystyried eu hunain yn arweinwyr ar eu dysgu eu hunain, yn falch o&#8217;r hyn yr oeddent wedi&#8217;i gyflawni gyda chymhelliad i wella ac adfyfyrio ymhellach ar yr hyn y maent yn ei ddysgu.<\/p>\n\n\n\n<p>Y gwahaniaeth go iawn rhwng hyn a&#8217;n rhieni traddodiadol wedyn yw bod y plentyn yn cymryd perchnogaeth ar ei ddysgu ei hun yn hytrach na&#8217;i fod yn ymwneud \u00e2&#8217;r athro a&#8217;i farn. O safbwynt athrawon, mae hwn yn ganlyniad sydd o fudd i bwv. Llai o lwyth gwaith athrawon a dysgwyr mwy grymus!<\/p>\n\n\n\n<p>O wrando ar hyn dyma fi\u2019n cwestiynu sut y gallem ni fabwysiadu&#8217;r dull hwn yn fy lleoliadau fy hun heb i hynny deimlo fel eitem arall ar y&nbsp; rhestr o bethau &#8216;i&#8217;w gwneud&#8217; i\u2019r rhieni a\u2019r athrawon. Nid oedd hepgor noson rieni draddodiadol ar \u00f4l ysgol &nbsp;i ffwrdd yn teimlo\u2019n opsiwn gan mai <strong>felly y bu hi erioed<\/strong>&#8230;.<\/p>\n\n\n\n<p>Symudwch yn gyflym ymlaen wyth wythnos. Roedd Covid -19 yn golygu bod y byd fel na fu erioed o&#8217;r blaen. Sut roedd pethau wedi bod erioed, bellach wedi eu herio.<\/p>\n\n\n\n<p>Ym mis Mehefin 2020 pan ddychwelon ni i&#8217;r ysgol, cymerodd athrawon amser gyda&#8217;u plant yn unigol i fyfyrio ar eu dysgu dros gyfnod y cyfnod clo:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Beth oedd wedi mynd yn dda?<\/li><li>Beth allai fod wedi bod yn well?<\/li><li>Beth oedden nhw wedi&#8217;i ddysgu amdanyn nhw eu hunain?<\/li><li>Beth hoffen nhw ei gario ymlaen o&#8217;r adeg hon?<\/li><li>Beth oedd eu camau nesaf ar gyfer dysgu?<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Cafodd yr atebion i&#8217;r cwestiynau hyn a llawer rhagor eu mapio gan bob plentyn unigol a&#8217;u rhannu \u00e2 rhieni drwy alwad Zoom gartref, a&#8217;r plentyn a&#8217;r athro yn yr ysgol. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Yn hollbwysig, y plentyn oedd yn arwain y plentyn, fel yr amlinellwyd gan Ron Berger. Cynhaliwyd cynadleddau yn ystod y diwrnod ysgol, gan gymryd 10 munud.<\/p>\n\n\n\n<p><strong><em>Y canlyniad? Llwyddiant ysgubol!<\/em><\/strong><strong><em><\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Adborth o arolwg adborth athrawon:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Roedd presenoldeb rhieni yn ardderchog.<\/li><li>Roedd y plant wrth eu bodd yn paratoi a gweithredu&#8217;r alwad.<\/li><li>Gwellwyd y berthynas ymhellach wrth i rieni&#8217;n weld eu plant yn eu lleoliad ysgol yn siarad am ddysgu mewn ffordd ddilys.<\/li><li>Dwedodd llawer o\u2019r rhieni: &#8220;Rwy&#8217;n falch eich bod chi\u2019n gwneud hyn&#8221;, &#8220;Roeddem ni\u2019n gallu dod oherwydd ei fod yn slot amser byr ac nad oedd angen i ni deithio&#8221;.<\/li><li>Mae&#8217;n rhoi rheswm dros waith y plant \u2013 perfformiad o ddealltwriaeth, sy&#8217;n rhan annatod o&#8217;r profiad dysgu ac addysgu.<\/li><li>Trafod gyda rhieni sut i gefnogi gartref \u2013 dysgu parhaus \u2013 rhieni&#8217;n cymryd cyfrifoldeb, yn ogystal \u00e2&#8217;r plentyn.<\/li><li>Amser fesul un go iawn gyda&#8217;r plentyn, yn trafod cartref a dysgu.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p><strong><em>A dwedodd llawer o\u2019r plant: &#8220;Roedd hi\u2019n braf dros ben rhannu beth rydyn ni\u2019n ei ddysgu gyda&#8217;n rhieni yn y modd hwn, allwn ni wneud hyn eto?&#8221;<\/em><\/strong><strong><em><\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r cynadleddau bellach yn cael eu harwain gan blant bob hanner tymor; y gwersi allweddol i ni ar hyd y ffordd fu:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Sicrhau ymlaen llaw y bydd y rhiant yno; &nbsp;mae gwahoddiadau wedi eu hysgrifennu \u00e2 llaw\u2019r plant yn selio&#8217;r fargen.<\/li><li>Bod y plentyn wedi&#8217;i baratoi&#8217;n dda gyda&#8217;i fap meddwl ac yn barod i arwain a siarad am yr hyn sydd nesaf ar ei gyfer.<strong><u><\/u><\/strong><\/li><li>Mae&#8217;r gynhadledd bob amser yn dechrau gyda&#8217;r hyn a drafodwyd yn y gynhadledd ddiwethaf.<strong><u><\/u><\/strong><\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae rhieni, staff ac athrawon i gyd yn gyt\u00fbn mai cynadleddau dan arweiniad plant, dathlu dysgu yn ystod y diwrnod ysgol ac a welir yn rhan annatod o&#8217;r profiad dysgu yw\u2019r &nbsp;&#8216;norm&#8217; &nbsp;i ni erbyn hyn, tra bydd nosweithiau rhieni ar \u00f4l ysgol yn bendant yn &#8216;beth cyn-COVID&#8217; i raddau helaeth &nbsp;.<\/p>\n\n\n\n<p>Heb os, fel y mae uchelgais ein cwricwlwm newydd yng Nghymru, mae ein &#8216;dathliadau dysgu dan arweiniad&#8217; yn galluogi ein plant i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog \u2013 beth sydd nid i&#8217;w hoffi?<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong>Janet Hayward yw Pennaeth Gweithredol ysgolion cynradd Tregatwg a Maes y Dderwen, y Barri, ac mae&#8217;n fyfyriwr ar raglen <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/doethuriaeth-addysg\/\">Doethuriaeth mewn Addysg Yr Athrofa<\/a>.<\/strong><\/li><\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae COVID-19 wedi newid y ffordd rydyn ni&#8217;n meddwl am addysg, ac wedi ein gwneud yn agored i gwestiynu llawer o hen arferion. Nosweithiau rhieni yw un o&#8217;r rhain ond esbonia Janet Hayward, mae dull newydd arloesol ar gael i ysgolion sy&#8217;n barod i roi cynnig ar rywbeth gwahanol&#8230; Nid yw&#8217;n newyddion torcalonnus bod Pandemig&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":40042,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[291],"tags":[],"class_list":["post-40045","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-blog-cy","category-291","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/40045","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=40045"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/40045\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":40046,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/40045\/revisions\/40046"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/40042"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=40045"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=40045"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=40045"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}