{"id":40054,"date":"2022-05-13T16:00:20","date_gmt":"2022-05-13T16:00:20","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/?p=40054"},"modified":"2022-05-13T16:05:09","modified_gmt":"2022-05-13T16:05:09","slug":"cariad-proffesiynol-llythrennedd-emosiynol-mewn-arfer-blynyddoedd-cynnar","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2022\/05\/13\/cariad-proffesiynol-llythrennedd-emosiynol-mewn-arfer-blynyddoedd-cynnar\/","title":{"rendered":"Cariad proffesiynol: Llythrennedd emosiynol mewn arfer blynyddoedd cynnar"},"content":{"rendered":"\n<p><strong><em>Mae addysg a gofal cymdeithasol wedi\u2019u hadeiladu ar berthnasoedd gwaith cryf a\u2019r gallu i ymateb i\u2019n hanghenion ein gilydd. Ond mae a wnelo bywyd llawer iawn mwy na hynny. Yma, mae Paul Darby, darlithydd prifysgol a myfyriwr doethurol, yn adfyfyrio ar rym cariad proffesiynol ar ei holl weddau&#8230;<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator\"\/>\n\n\n\n<p>Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn siarad gyda fy myfyrwyr blynyddoedd cynnar ynghylch cysyniad newydd i mi, sef <strong>cariad proffesiynol.<\/strong> Roedd meddwl am drafod y pwnc hwn ym maes gofal ac addysg blynyddoedd cynnar yn teimlo fymryn yn chwithig ac roeddwn yn nerfus wrth feddwl am gyflwyno\u2019r pwnc. Roeddwn yn addysgu gr\u0175p o israddedigion sy\u2019n cael eu hannog yn gyffredinol i ddatblygu dulliau dadansoddi beirniadol ac archwilio a datblygu sail dystiolaeth broffesiynol.<\/p>\n\n\n\n<p>Pendronais hefyd ynghylch beth oedd union ystyr y term hwn; cyn belled ag rwyf i\u2019n ymwybodol mae cariad yn gysyniad gwbl oddrychol, wedi bod mewn cariad mewn llawer o wahanol ffyrdd yn ystod fy oes roedd yn ymddangos i mi y gallai hon fod yn sgwrs letchwith gyda gr\u0175p o fyfyrwyr. Efallai bod hyn yn rhannol oherwydd y bydd rhaid i mi gynnig rhai o\u2019m profiadau goddrychol fy hun, a hefyd oherwydd bod gen i berthynas broffesiynol gyda fy myfyrwyr sy\u2019n wrthrychol ei natur yn y b\u00f4n.<\/p>\n\n\n\n<p>Ystyriais hyn yn ofalus a darllenais y deunydd academaidd perthnasol oedd ar gael, cefais fy synnu i ddarganfod cofnodion cynhadledd, a bod astudio cariad yn ddisgyblaeth academaidd. Roedd y deunydd a ddarllenais yn ysbrydoledig ac yn cynnwys naratifau ansoddol gan ymarferwyr proffesiynol a oedd yn diffinio\u2019n glir pwysigrwydd cysylltiadau emosiynol o fewn eu rhyngweithiadau. Roedd hyn yn ryddhad ac yn torri ar draws gwrthrychedd datgysylltiedig cyffredinol papurau academaidd ac adolygiadau polisi.<\/p>\n\n\n\n<p>Fe\u2019m tarodd i efallai y byddai barddoniaeth yn gyfrwng hyd yn oed mwy cynhyrchiol i archwilio ystyr cariad proffesiynol. Mae gwaith Loris Malaguzzi a\u2019i farddoniaeth, \u2018The Hundred Languages of Children\u2019 yn ein hatgoffa o ymatebolrwydd emosiynol plant (The Hundred Languages of Children: <a href=\"https:\/\/www.reggiochildren.it\/en\/reggio-emilia-approach\/100-linguaggi-en\/\">Reggio Children &#8211; 100 languages<\/a>).<\/p>\n\n\n\n<p>Mae \u2018Welcome to Holland\u2019, gan Emily Perl Kingsley, yn cyfleu\u2019n fendigedig y teimladau chwerwfelys a brofir gan fam y mae ei baban yn cael ei eni gyda Syndrom Down (Welcome to Holland: <a href=\"https:\/\/www.emilyperlkingsley.com\/welcome-to-holland\">Welcome to Holland \u2013 Emily Perl Kingsley<\/a>).<\/p>\n\n\n\n<p>Dros y blynyddoedd, yn gweithio mewn rolau nyrsio a gofal cymdeithasol adfyfyriais ar y ffaith bod rhai o\u2019r profiadau a pherthnasoedd proffesiynol rwyf wedi\u2019u cael, wedi galw am gysylltiadau emosiynol. Oherwydd dwyster y sefyllfaoedd, roedd yna bethau\u2019n gyffredin \u00e2 pherthynas gariadus. Yn ddiddorol, wrth i mi ysgrifennu hwn, rwy\u2019n teimlo ychydig yn anghyfforddus, ac fe all hyn fod oherwydd fy anallu fy hun i fynegi hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Ond o feddwl yn ddyfnach amdano ac adfyfyrio, rwy\u2019n cofio gafael dwylo pobl, a hynny\u2019n gwbl rydd, pan oeddynt yn dioddef gofid llwyr. Roedd hyn yn ymateb naturiol i\u2019w hanghenion, gan wrando\u2019n astud a rhannu teimladau gyda dieithriaid trwy ddealltwriaeth ddieiriau nas yngenir. Darllen wynebau\u2019r rheiny sydd oedd o\u2019m blaen ac ymateb i giwiau emosiynol am gefnogaeth a chadarnhad.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r weithred o ymateb i anghenion emosiynol o fewn cyd-destun proffesiynol yn galw am lythrennedd emosiynol ar lefel uchel. Daw hyn drwy brofiad a hyder, ymateb adfyfyriol i sefyllfaoedd, ac mae adolygu rhyngweithiadau gydag eraill yn helpu i adeiladu hyn. Mae bod mewn \u2018proffesiwn gofalgar\u2019 yn fraint, mae pobl yn ymddiried ynoch chi. Mae\u2019r ymddiriedaeth hon yn haeddu agwedd llawn parch, a chydnabyddiaeth y gallai\u2019r ymateb anghywir gael effaith barhaus yng nghof emosiynol y rheiny sy\u2019n ymddiried ynoch chi.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn dilyn y broses adfyfyrio ddofn hon, penderfynais fynd amdani a chyflwyno\u2019r syniad i\u2019r myfyrwyr. Teimlais mai\u2019r ffordd orau i\u2019w gyflwyno oedd mewn trafodaeth gr\u0175p wedi\u2019i chysylltu ag anghenion emosiynol plant ifanc. Gwnaethom ddechrau siarad am gysyniad ymatebion emosiynol i blant a pha mor bwysig yw creu perthynas gynnes ac ymatebol. Dechreuodd y myfyrwyr ymateb yn bositif gydag enghreifftiau o\u2019u profiadau proffesiynol eu hunain.<\/p>\n\n\n\n<p>Fe enynnodd rhai o\u2019r straeon ymateb emosiynol yn y gr\u0175p, wrth gofio am ymatebion emosiynol ond eto gwbl broffesiynol i blant a\u2019u teuluoedd. Gwnaethom adalw atgofion positif o\u2019n plentyndod ein hunain, delweddau o famau\u2019n taflu cynfasau drosom yn dyner a chofleidiau cynnes. Roedd yna ymdeimlad o gysylltioldeb wrth i ni siarad yn rhydd fel gr\u0175p, cafodd pawb a rannodd eu straeon barch a chefnogaeth lwyr. Fe ddaeth yn gwbl amlwg i mi fod ganddynt, fel gr\u0175p o ymarferwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar, gysylltiad dwfn ac ymrwymiad i anghenion y plant yn eu gofal.<\/p>\n\n\n\n<p>Rwy\u2019n hapus iawn fy mod wedi dewis archwilio natur cariad proffesiynol a\u2019i gynnwys yn fy null addysgu. Mae\u2019n cadarnhau arwyddoc\u00e2d perthnasoedd yn ein bywydau ni i gyd. Mae\u2019r ffaith bod gan y myfyrwyr rwy\u2019n eu haddysgu agwedd mor emosiynol ymatebol ac empathig i\u2019w ganmol ac mae\u2019n cyfoethogi disgyblaeth academaidd addysg a gofal blynyddoedd cynnar.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y dyfodol, rwy\u2019n bwriadu integreiddio\u2019r cysyniad hwn o gariad proffesiynol yn fwy aml wrth ryngweithio gyda myfyrwyr. Gellir rhoi proffesiynoldeb mewn llawer o wahanol gyd-destunau; drwy\u2019r profiad hwn rwyf wedi dysgu bod ymatebolrwydd emosiynol ac ymwybyddiaeth o\u2019r hunan ac eraill yn ganolog i ddatblygiad gwybodaeth a sgiliau proffesiynol blynyddoedd cynnar. Mae\u2019n ein galluogi i ddefnyddio\u2019r gair \u2018cariad\u2019 yn rhydd, gyda bwriad pwrpasol i fodloni anghenion emosiynol dwfn eraill.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator\"\/>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong>Ar hyn o bryd mae Paul Darby yn darlithio ym maes addysg a gofal <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/ba-addysg-a-gofal-blynyddoedd-cynnar\/\">blynyddoedd cynnar ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (Y Drindod)<\/a>. Ar hyn o bryd mae\u2019n ymgymryd \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/doethuriaeth-addysg\/\">doethuriaeth broffesiynol mewn addysg<\/a> gyda\u2019r Athrofa.<\/strong><\/li><\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae addysg a gofal cymdeithasol wedi\u2019u hadeiladu ar berthnasoedd gwaith cryf a\u2019r gallu i ymateb i\u2019n hanghenion ein gilydd. Ond mae a wnelo bywyd llawer iawn mwy na hynny. Yma, mae Paul Darby, darlithydd prifysgol a myfyriwr doethurol, yn adfyfyrio ar rym cariad proffesiynol ar ei holl weddau&#8230; Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn siarad&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":40050,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[291],"tags":[],"class_list":["post-40054","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-blog-cy","category-291","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/40054","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=40054"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/40054\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":40058,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/40054\/revisions\/40058"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/40050"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=40054"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=40054"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=40054"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}