{"id":40450,"date":"2024-01-05T15:04:40","date_gmt":"2024-01-05T15:04:40","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/?p=40450"},"modified":"2024-06-03T13:35:22","modified_gmt":"2024-06-03T13:35:22","slug":"y-gymraeg-ac-anghenion-dysgu-ychwanegol-ffordd-bell-i-fynd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2024\/01\/05\/y-gymraeg-ac-anghenion-dysgu-ychwanegol-ffordd-bell-i-fynd\/","title":{"rendered":"Y Gymraeg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol \u2013 ffordd bell i fynd"},"content":{"rendered":"\n<p><strong><em>Mae&#8217;r dull newydd o weithredu Anghenion Dysgu Ychwanegol sydd wedi&#8217;i ddylunio i fod yn fwy teg a thryloyw o ran cefnogi&#8217;r ddarpariaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru yn treiddio drwy&#8217;r system addysg ar hyn o bryd. Ond fel yr esbonia\u00a0Nanna\u00a0Ryder, nid yw&#8217;r newidiadau mor gyfiawn ag y maent yn ymddangos&#8230;<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae addysg yng Nghymru yn mynd trwy rai newidiadau polisi sylweddol ar hyn o bryd ac mae\u2019r Cwricwlwm i Gymru (CiG) sy\u2019n seiliedig ar gynnydd dysgu wedi derbyn llawer o sylw yn y cyfryngau ac mewn cylchoedd academaidd yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Fodd bynnag, caiff <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/deddf-anghenion-dysgu-ychwanegol-ar-tribiwnlys-addysg-cymru\">Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a\u2019r Tribiwnlys Addysg (Cymru) (Deddf ADY)<\/a> (2018) a\u2019r Cod Ymarfer cysylltiedig (Llywodraeth Cymru, 2021), a ddaeth yn orfodol ym mis Medi 2021 ar gyfer pob lleoliad a gynhelir ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng genedigaeth a phump ar hugain oed, tipyn llai o sylw. Un ddyletswydd benodol a amlinellir yn y Cod, sy\u2019n hyrwyddo ymagwedd mwy plentyn-ganolog o ran y ddarpariaeth na\u2019r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) flaenorol, yw cefnogi ac amddiffyn dysgwyr sydd angen Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma ddatblygiad arwyddocaol o ran cyflwyno system ddwyieithog benodol ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru. Fodd bynnag, mae hyn yn profi\u2019n dipyn o her i ysgolion ac awdurdodau lleol ar hyn o bryd ac mae&#8217;n amheus a fyddwn byth yn sicrhau system gwbl ddwyieithog ar gyfer rhai o&#8217;n dysgwyr mwyaf bregus.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn dilyn trafodaethau gydag athrawon a Chydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY), gwelwyd arwyddion cychwynnol wrth gyflwyno\u2019r system ADY newydd bod diffyg darpariaeth cyfrwng Cymraeg o ansawdd uchel ar gael mewn rhai sefydliadau. Nid yn unig mewn ysgolion prif ffrwd yr amlygwyd hyn ond hefyd mewn lleoliadau arbenigol o ganlyniad i ddiffyg argaeledd asesiadau dwyieithog arbenigol ac adnoddau i&#8217;r ystafell ddosbarth yn ogystal \u00e2 phrinder staffio ac arbenigedd. Os oes angen DDdY yn Gymraeg, yna mae\u2019n rhaid i ymarferwyr gofnodi hyn ar Gynllun Datblygu Unigol (CDU) y dysgwr, cynllun sy\u2019n amlinellu anghenion y dysgwr, y cymorth sydd ei angen a\u2019r targedau er mwyn datblygu ymhellach. Tra bod y CDU wedi hwyluso\u2019r broses i ysgolion o safbwynt dogfennaeth, gan ddisodli\u2019r system dair haen flaenorol o \u2018gweithredu gan yr ysgol\u2019, \u2018gweithredu gan yr ysgol a mwy\u2019 a \u2018datganiadau o AAA\u2019, ceir bwlch o hyd o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Y maen tramgwydd wrth gwrs yw bod y Cod ADY yn nodi y dylai lleoliadau gymryd \u2018pob cam rhesymol\u2019 i sicrhau bod y ddarpariaeth a amlinellir yn y CDU ar gael yn y Gymraeg. Y gwir yw nid yw\u2019r adnoddau ar gyfer asesu ac addysgu ar gael i wireddu\u2019r weledigaeth hon mewn nifer o ysgolion yng Nghymru. Fodd bynnag, mae gan ddysgwr hawl i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ac nid gweledigaeth neu ddyhead yn unig yw hyn. Os yw Cymru am wireddu\u2019r nod o filiwn o siaradwyr <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/sites\/default\/files\/publications\/2019-03\/cymraeg-2050-strategaeth-y-gymraeg-v1-1.pdf\">Cymraeg erbyn 2050<\/a>, yna mae sicrhau darpariaeth cyfiawn o ansawdd uchel ar gyfer pob dysgwr trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Hawl dysgwyr!<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae agenda Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau&#8217;r Plentyn (CCUHP) (1989) wedi&#8217;i gwreiddio&#8217;n gadarn yn nogfennaeth CiG ac yn y Ddeddf ADY. Mae Erthygl 23 o CCUHP yn amlinellu\u2019n benodol hawliau plant a phobl ifanc ag anableddau ac mae Erthygl 30 yn pwysleisio \u2018na wrthodir yr hawl i blentyn sy\u2019n perthyn i gr\u0175p lleiafrifol ieithyddol ddefnyddio ei iaith ei hun\u2019. I&#8217;r rhai sydd dros oedran ysgol gorfodol a hyd at bump ar hugain oed ac sy\u2019n mynychu Addysg Bellach, mae Erthygl 5 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn pwysleisio&#8217;r hawl i brofiad cyfartal ac osgoi gwahaniaethu. Mae gofynion statudol Deddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau tegwch a chydraddoldeb i bawb hefyd yn orfodol wrth ystyried darpariaeth iaith. Mae\u2019r hawliau hyn wedi\u2019u datgan yn y Ddeddf a\u2019r Cod ADY ond mae eu gweithredu mewn rhai rhannau o Gymru yn profi\u2019n hynod o heriol. Deillia hyn o ddiffyg buddsoddiad &nbsp;sylweddol gan Lywodraeth Cymru mewn adnoddau ac asesiadau cyfrwng Cymraeg priodol, diffyg hyfforddiant ADY hygyrch i\u2019r gweithlu addysg yn gyffredinol, yn ogystal \u00e2\u2019r argyfwng recriwtio presennol sy\u2019n wynebu\u2019r system addysg yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ai dyma gynhwysiant?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae rhai dysgwyr cyfrwng Cymraeg ag ADY felly dan anfantais sylweddol o gymharu \u00e2&#8217;u cyfoedion sy&#8217;n siarad Saesneg. Nodwyd yn Natganiad Salamanca ym 1994 (UNESCO, 1994), sy\u2019n sail i gynhwysiant ac a gadarnhawyd gan Lywodraeth y DU a chyn i addysg gael ei ddatganoli i Gymru, \u2018na all newidiadau mewn polis\u00efau a blaenoriaethau fod yn effeithiol oni bai bod gofynion adnoddau digonol yn cael eu bodloni\u2019. Bron i ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae hon yn parhau i fod yn neges berthnasol iawn i Lywodraeth Cymru wrth ddeddfu\u2019r Ddeddf ADYac mae angen blaenoriaethu cynhwysiant a thegwch o safbwynt y Gymraeg ar frys.<\/p>\n\n\n\n<p>Nododd papur ymchwil diweddar (Davies, 2023) fod y diffyg hyn mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg nid yn unig yn effeithio ar ddysgwyr a\u2019u teuluoedd ond hefyd yn cael effaith sylweddol ar ymarferwyr mewn ysgolion a rhanddeiliaid ehangach megis y gwasanaeth iechyd a gweithwyr cymdeithasol. Caiff hyn effaith aruthrol nid yn unig ar eu llwyth gwaith ond hefyd ar eu lles wrth iddynt ymdrechu i gwrdd ag anghenion dysgwyr ag ADY Cymraeg eu hiaith gydag adnoddau dynol cyfyngedig a phrinder adnoddau arbenigol eraill. Mae asesiadau ar gyfer anghenion penodol trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd yn gyfyngedig iawn, gan arwain at lawer o ddysgwyr yn cael eu hasesu yn eu hail iaith. Yn fwy pryderus, mae teuluoedd yr unigolion hynny sy&#8217;n profi caffael iaith yn heriol hefyd yn cael eu gorfodi at yr hyn y mae Davies yn ei alw&#8217;n &#8216;unieithrwydd gorfodol&#8217;, sef defnyddio un iaith yn unig gyda&#8217;u plentyn, ac mewn cyd-destun Cymreig, Saesneg fyddai&#8217;r iaith honno. Mewn llawer o achosion mae diffyg adnoddau a darpariaeth wedi arwain at newid iaith gyntaf a dewis iaith y cartref.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Camu ymlaen<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Er bod enghreifftiau o arfer ragorol mewn nifer o awdurdodau lleol ac ysgolion yng Nghymru, mae ffordd bell i fynd ac mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o\u2019r heriau dan sylw a\u2019r angen i wella. Nododd yr ymgynghoriad ar y papur gwyn ar Addysg Gymraeg, a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023, yn glir bod angen cynyddu addysg cyfrwng Cymraeg i\u2019r rhai ag ADY gan ddynodi hyn fel un o\u2019i nodau allweddol. Mae Estyn ac eraill hefyd wedi beirniadu\u2019r bwlch enfawr hwn mewn darpariaeth briodol ar gyfer rhai o\u2019n dysgwyr mwyaf bregus yng Nghymru. Cyhoeddodd Efa Gruffydd Jones, Comisiynydd y Gymraeg a Rocio Cifuentes, y Comisiynydd Plant presennol, adroddiad beirniadol tu hwnt ar y Gymraeg yn y System ADY yn ystod <a href=\"https:\/\/www.urdd.cymru\/cy\/eisteddfod\/2023\/rhestr-testunau\/darnau-gosod-eisteddfod-2023\/\">Eisteddfod yr Urdd 2023<\/a> (Comisiynydd y Gymraeg a Chomisiynydd Plant Cymru, 2023). Mae&#8217;r adroddiad hwn yn atgyfnerthu\u2019r angen i ddatblygu darpariaeth ar gyfer dysgwyr cyfrwng Cymraeg sy&#8217;n gyfartal \u00e2&#8217;r hyn sydd ar gael i&#8217;w cymheiriaid cyfrwng Saesneg cyn gynted \u00e2 phosib. Maent hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad cenedlaethol o\u2019r ddarpariaeth i sicrhau cysondeb ledled Cymru ac i wneud darpariaeth arbenigol, gweithlu cyfrwng Cymraeg arbenigol ac adnoddau cyfrwng Cymraeg yn flaenoriaeth genedlaethol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Jeremy Miles, Gweinidog Addysg presennol Cymru, wedi buddsoddi\u2019n sylweddol yn y rhaglen Trawsnewid ADY, ond i ba raddau y mae\u2019r cyllid wedi\u2019i fuddsoddi mewn datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg? Er gwaethaf cyhoeddiad y Prif Weinidog o doriadau sylweddol ym mhob sector o fewn Llywodraeth Cymru (Deans, 2023), mae angen buddsoddiad pellach ar frys i wireddu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i\u2019r Gymraeg o fewn y system ADY ac i wella\u2019r ddarpariaeth ar draws Cymru gyfan.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth nesaf?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>I ddechrau mae angen mwy o adnoddau asesu ac adnoddau i\u2019r ystafell ddosbarth, wedi&#8217;u hysgrifennu\u2019n Gymraeg ac yn darparu&#8217;r cyd-destun Cymreig, i gefnogi anghenion amrywiol ein dysgwyr. Hanfod arall yw gweithlu dwyieithog medrus. Mae Addysg Gychwynnol Athrawon yn darparu\u2019r wybodaeth, y ddealltwriaeth a\u2019r sgiliau sylfaenol o ran arfer dda ystafell ddosbarth gynhwysol ac mae\u2019r cyfnod sefydlu Athrawon Newydd Gymhwyso yn adeiladu ar hynny ond mae angen dysgu proffesiynol mwy penodol i bawb sy\u2019n gweithio o fewn y system addysg. Cyfranna\u2019r llwybr ADY o fewn y rhaglen Meistr Genedlaethol ar gyfer staff addysgu mewn ysgolion ac Addysg Bellach rhywfaint at ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ond mae angen mwy o hyfforddiant ymarferol hefyd yn ogystal \u00e2 chyfleoedd a phlatfform ar gyfer rhwydweithio. Her arall i ysgolion ar hyn o bryd yw cyflogi cynorthwywyr dysgu Cymraeg eu hiaith, yr aelodau hynny o staff sy&#8217;n gweithio agosaf gyda&#8217;n dysgwyr ag ADY. Yn aml iawn disgwylir iddynt gefnogi anghenion cymhleth ac ymdrin \u00e2 sefyllfaoedd heriol iawn gyda chymorth a hyfforddiant cyfyngedig, felly byddai llwybr dysgu proffesiynol dwyieithog yn eu uwchsgilio ac yn eu grymuso ac o bosib yn denu mwy o ddiddordeb yn y proffesiwn. Mae angen gwell cydweithio rhwng arbenigwyr yn y maes \u2013 ar lefel leol, consortia a chenedlaethol i sicrhau bod ein dysgwyr ag ADY cyfrwng Cymraeg\u00a0 yn cael y gefnogaeth, y ddarpariaeth a\u2019r cyfleoedd gorau posib i gyflawni a gwneud cynnydd yn eu dewis iaith.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn olaf, cenedl fach yw Cymru, ond mae\u2019n unigryw yn yr ystyr ei bod yn darparu addysg ddwyieithog i bob dysgwr \u2013 elfen i ni ymhyfrydu ynddi. Mae\u2019r Ddeddf ADY yn nodi\u2019n glir bod ADY yn gyfrifoldeb i bawb felly mae angen i ddysgwyr a theuluoedd godi eu lleisiau, ac mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu nawr yn hytrach na\u2019n hwyrach er mwyn i\u2019r weledigaeth o gefnogaeth a darpariaeth cyfrwng Cymraeg o ansawdd uchel gael ei drawsnewid yn realiti ar gyfer cenedlaethau ein dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong><em>Mae\u00a0Nanna\u00a0Ryder yn uwch ddarlithydd mewn addysg yn y Ganolfan ar gyfer Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth yn PCYDDS.<\/em><\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Cyfeirnodau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Comisiynydd y Gymraeg a Comisiynydd Plant Cymru. (2023) <em>Y Gymraeg yn y Gyfundrefn Anghenion Dysgu Ychwanegol. <\/em>Ar gael yn: <a href=\"https:\/\/www.childcomwales.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Y-Gymraeg-yn-y-Gyfundrefn-Anghenion-Dysgu-Ychwanegol.pdf\">Y <\/a><a href=\"https:\/\/www.childcomwales.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Y-Gymraeg-yn-y-Gyfundrefn-Anghenion-Dysgu-Ychwanegol.pdf\">Gymraeg<\/a><a href=\"https:\/\/www.childcomwales.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Y-Gymraeg-yn-y-Gyfundrefn-Anghenion-Dysgu-Ychwanegol.pdf\"> <\/a><a href=\"https:\/\/www.childcomwales.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Y-Gymraeg-yn-y-Gyfundrefn-Anghenion-Dysgu-Ychwanegol.pdf\">yn<\/a><a href=\"https:\/\/www.childcomwales.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Y-Gymraeg-yn-y-Gyfundrefn-Anghenion-Dysgu-Ychwanegol.pdf\"> y <\/a><a href=\"https:\/\/www.childcomwales.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Y-Gymraeg-yn-y-Gyfundrefn-Anghenion-Dysgu-Ychwanegol.pdf\">Gyfundrefn<\/a><a href=\"https:\/\/www.childcomwales.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Y-Gymraeg-yn-y-Gyfundrefn-Anghenion-Dysgu-Ychwanegol.pdf\"> <\/a><a href=\"https:\/\/www.childcomwales.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Y-Gymraeg-yn-y-Gyfundrefn-Anghenion-Dysgu-Ychwanegol.pdf\">Anghenion<\/a><a href=\"https:\/\/www.childcomwales.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Y-Gymraeg-yn-y-Gyfundrefn-Anghenion-Dysgu-Ychwanegol.pdf\"> <\/a><a href=\"https:\/\/www.childcomwales.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Y-Gymraeg-yn-y-Gyfundrefn-Anghenion-Dysgu-Ychwanegol.pdf\">Dysgu<\/a><a href=\"https:\/\/www.childcomwales.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Y-Gymraeg-yn-y-Gyfundrefn-Anghenion-Dysgu-Ychwanegol.pdf\">\u00a0<\/a><a href=\"https:\/\/www.childcomwales.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Y-Gymraeg-yn-y-Gyfundrefn-Anghenion-Dysgu-Ychwanegol.pdf\">Ychwanegol<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Davies, E.N. (2023) &#8216;Are children and young people with ALN at a systematic disadvantage regarding Welsh Language opportunities? <em>Educational Psychology in Practice, 39:2, pp. 217-234. DOI: <\/em><a href=\"https:\/\/doi.org\/10.1080\/02667363.2023.2186835\"><em>https:\/\/doi.org\/10.1080\/02667363.2023.2186835<\/em><\/a><em><\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Deans, D. (2023) <em>Welsh public services must make cuts, Mark Drakeford says. <\/em>Available at: <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-politics-66438471\">Welsh public services must make cuts, Mark Drakeford says &#8211; BBC News<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Llywodraeth Cymru. (2021) Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru. Ar gael yn: <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/sites\/default\/files\/publications\/2022-06\/220622-cod-anghenion-dysgu-ychwanegol-cymru-2021.pdf\">220622-cod-anghenion-dysgu-ychwanegol-cymru-2021.pdf (llyw.cymru)<\/a>.\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p>UNESCO. (1994) <em>The Salamanca Statement and Framework for Action on Special Needs Education. <\/em>Available at: <a href=\"https:\/\/unesdoc.unesco.org\/ark:\/48223\/pf0000098427\"><em>https:\/\/unesdoc.unesco.org\/ark:\/48223\/pf0000098427<\/em><\/a><em>.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r dull newydd o weithredu Anghenion Dysgu Ychwanegol sydd wedi&#8217;i ddylunio i fod yn fwy teg a thryloyw o ran cefnogi&#8217;r ddarpariaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru yn treiddio drwy&#8217;r system addysg ar hyn o bryd. Ond fel yr esbonia\u00a0Nanna\u00a0Ryder, nid yw&#8217;r newidiadau mor gyfiawn ag y maent yn ymddangos&#8230; Mae addysg yng&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":40444,"comment_status":"open","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[291],"tags":[311,295,325],"class_list":["post-40450","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-blog-cy","tag-athrofa-2","tag-cwricwlwm-2","tag-dwyieithrwydd","category-291","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/40450","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=40450"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/40450\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":40453,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/40450\/revisions\/40453"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/40444"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=40450"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=40450"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=40450"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}