{"id":40558,"date":"2026-02-27T11:43:23","date_gmt":"2026-02-27T11:43:23","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/?p=40558"},"modified":"2026-02-27T11:44:50","modified_gmt":"2026-02-27T11:44:50","slug":"yr-ysgol-a-ddaeth-yn-noddfa","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2026\/02\/27\/yr-ysgol-a-ddaeth-yn-noddfa\/","title":{"rendered":"Yr ysgol a ddaeth yn noddfa"},"content":{"rendered":"\n<p><strong><em>Mae Cai Pughsley yn cyfleu darlun byw o realiti bod dydd yn yr ysgol i lawer o athrawon a phlant yng Nghymru yn y blog pwerus ac effeithiol hwn.\u00a0 <\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Rwy\u2019n cyrraedd y dyffryn, wrth i\u2019r niwl ddisgyn. Mae\u2019n gorchuddio\u2019r hen derasau, gan feddalu\u2019r craciau ac yn creu byd tawel, bron yn gyfrinachol yn y pentref. &nbsp;Ar waelod y bryn, saif ysgol gynradd fach. &nbsp;Mae\u2019n teimlo\u2019n gyfarwydd gydag arogl creonau wedi\u2019u cymysgu \u00e2 diheintydd, mae\u2019r waliau wedi\u2019u gorchuddio \u00e2 pheintiadau plant sy\u2019n cyrlio ychydig ar yr ymylon, a chloch, nad yw\u2019n canu\u2019n iawn rhywsut. &nbsp;Ond y tu mewn, mae\u2019r lle\u2019n llawn bywyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Erbyn hanner awr wedi saith, mae\u2019r gofalwr wedi tanio\u2019r goleuadau. &nbsp;Yn fuan ar \u00f4l hynny, mae\u2019r gegin yn dechrau byrlymu. &nbsp;Mae\u2019r cogydd ar waith yn barod yn paratoi\u2019r tost a\u2019r uwd. &nbsp;Nid oes angen cwestiynau yma. &nbsp;Mae\u2019r drefn yn syml; gwnewch yn si\u0175r bod rhywbeth twym yn barod i\u2019r plant bob amser. &nbsp;\u201cMae\u2019n haws iddyn nhw wrando pan nad yw eu boliau yn canu grwndi,\u201d maen nhw\u2019n dweud yn ddiymhongar. &nbsp;Ac mae\u2019n wir.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid ystadegyn yw tlodi yn y dyffryn hwn. &nbsp;Mae\u2019n rhywbeth go iawn. &nbsp;Mae\u2019n ymwneud ag oergelloedd gwag, esgidiau sy\u2019n rhy fach, cardiau trydan sy\u2019n rhedeg allan cyn i\u2019r wythnos ddod i ben. Mae plant yn dod i\u2019r ysgol yn gwisgo\u2019r un siwmper drwy\u2019r wythnos. Ond, er gwaethaf hyn i gyd, mae \u2018na wydnwch. &nbsp;Gwydnwch, tawel, ystyfnig, bob dydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth gerdded drwy\u2019r ystafelloedd dosbarth, mae arwyddion bach yn ymddangos. &nbsp;Mae plentyn yn celcio bisgedi o amser byrbryd, un arall yn \u201canghofio\u201d eu gwisg ymarfer corff bob wythnos, rhywun yn gofyn am bapur ychwanegol i ddefnyddio adref.&nbsp; &nbsp;Mae\u2019r arwyddion bach hyn yn siarad cyfrolau, ac mae\u2019r staff yn eu darllen fel llyfrau agored.<\/p>\n\n\n\n<p>Mewn un ystafell ddosbarth, mae athro yn cadw dr\u00f4r o sanau sb\u00e2r a menig wrth y rheiddiadur. &nbsp;Dim cyhoeddiadau, dim ffanffer, maen nhw ar gael i unrhyw un sydd eu hangen. &nbsp;\u201cOs ydych chi\u2019n tynnu sylw at y peth, fyddan nhw ddim yn mynd \u00e2 nhw,\u201d maen nhw\u2019n dweud. &nbsp;Mae tosturi yn gweithio\u2019n dawel, yn barchus yma, ac mae arwyddion pwysig yn anweledig&#8230; ond dyna\u2019r bwriad.<\/p>\n\n\n\n<p>Yna, mae\u2019r clwb brecwast. &nbsp;Mae\u2019r ystafell yn fyw gyda chwerthin a thwrw platiau. &nbsp;Mae\u2019r un plant yn cyrraedd yn gynnar bob bore, yn rasio i weld pwy yw\u2019r cyflymaf i fenynu\u2019r tost.&nbsp; &nbsp;Am yr ychydig funudau hynny, nid \u201cdisgyblion o ardal ddifreintiedig\u201d ydyn nhw. &nbsp;Maen nhw\u2019n blant. &nbsp;Ac yn yr ysgol fach, ychydig yn hindreuliedig hon, maen nhw\u2019n dod o hyd i ymdeimlad o ddiogelwch a normalrwydd. &nbsp;Nid yw\u2019n ymwneud \u00e2 dysgu am lythrennau a rhifau yn unig. &nbsp;Mae\u2019n ymwneud \u00e2 sefydlogrwydd, trefn a gofal. &nbsp;Mae dysgu emosiynol yn cario cymaint o bwysau \u00e2 gwersi academaidd. &nbsp;Mae caredigrwydd yn cael ei ddysgu drwy straeon, hyder drwy waith t\u00eem, empathi drwy ymddiriedaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cwtsh yn air rydych chi\u2019n ei glywed llawer yma. &nbsp;Mae\u2019n fwy na chofleidiad, mae\u2019n gynhesrwydd, diogelwch, ymdeimlad o berthyn. &nbsp;Mae\u2019r ysgol hon yn ei gynnig ym mhob ffordd y mae\u2019n gallu; drwy strwythur, drwy gred, drwy fod yn bresennol ddydd ar \u00f4l dydd. &nbsp;Wrth gwrs, nid yw\u2019n hawdd. &nbsp;Mae athrawon yn aros yn yr ysgol yn hwyr, yn llenwi ffurflenni, yn mynd ar drywydd cyllid, yn rhedeg clybiau ar \u00f4l ysgol, galw heibio i weld teuluoedd. &nbsp;Maen nhw\u2019n gweld effaith tlodi a llymder; gorbryder, blinder, plant yn tyfu lan yn rhy gyflym. &nbsp;Ac eto, mae \u2018na obaith. &nbsp;Nid yw addysg yma yn ymwneud \u00e2 phrofion a pholisi. &nbsp;Mae\u2019n ymwneud \u00e2 sylwi, gwrando, a bod yna. Cysylltiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae un eiliad fach dawel wedi aros gyda fi. &nbsp;Un bore, gadawodd plentyn nodyn ar ddesg athro. &nbsp;Dim ond ychydig o eiriau oedd ar y nodyn, ond maen nhw\u2019n cyfleu\u2019r cwbl. &nbsp;Gofal, ymddiriedaeth, gobaith. &nbsp;Nid lleoedd i ddysgu yw ysgolion fel hyn, maen nhw\u2019n llinellau bywyd. &nbsp;Dyma le mae plant yn teimlo\u2019n ddiogel, lle mae athrawon yn ymladd yn dawel yn erbyn ymylon tlodi \u2013 pla cynifer o ysgolion yng Nghymru \u2013 a lle mae gobaith yn parhau i droi i fyny, ddydd ar \u00f4l dydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Rwy\u2019n cerdded drwy\u2019r iard chwarae wrth i haul y bore\u2019n codi o\u2019r diwedd. &nbsp;Mae plant yn rhedeg, gweiddi, chwarae tag, mae eu chwerthin yn atseinio ar waliau\u2019r dyffryn. &nbsp;Ni fyddech chi\u2019n dyfalu o\u2019r tu allan yr hyn mae rhai yn delio ag ef, yr heriau sy\u2019n eu dilyn o gartref. &nbsp;Eto, yn y gofod hwn, am yr oriau hyn, plant ydyn nhw a dim arall. &nbsp;Yn rhydd i fod yn chwilfrydig, yn rhydd i fod yn anniben, yn rhydd i fod yn nhw eu hunain.<\/p>\n\n\n\n<p>Yma, mae addysg yn ymwneud \u00e2 chymaint yn fwy na gwersi ar yr amserlen. &nbsp;Mae\u2019n ymwneud \u00e2 phresenoldeb, y ffordd mae athro yn sylwi ar blentyn yn gwgu, yn betrusgar, neu fod angen tawelwch. &nbsp;Mae\u2019n ymwneud \u00e2 charedigrwydd mewn gweithredoedd bach, ailadroddus; pryd o fwyd twym, p\u00e2r ychwanegol o sanau, gair o anogaeth ar yr adeg iawn. &nbsp;Mae\u2019n ymwneud \u00e2 chreu rhythm sy\u2019n dweud wrth y plant bob dydd: \u201cRydych chi\u2019n perthyn. &nbsp;Rydych chi\u2019n cael eich gweld. &nbsp;Rydych chi\u2019n cael gofal.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Ac efallai mai dyna wir wyrth yr ysgolion hyn yn y cymoedd. &nbsp;Nid ydyn nhw\u2019n esgus eu bod yn gall trwsio popeth. &nbsp;Nid ydyn nhw\u2019n diystyri tlodi nac yn dileu pryder. &nbsp;Ond maen nhw\u2019n meddalu\u2019r ymylon, ac wrth wneud hynny, yn rhoi rhywbeth i\u2019r plant sy\u2019n para llawer hirach na chynllun gwers &#8211; cred. &nbsp;Cred y gall yfory fod yn well, bod rhywun yn gofalu amdanyn nhw, eu bod nhw\u2019n bwysig. Ac yn wir, mae\u2019r ysgolion hyn yn ei wneud.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong><em>Mae Cai Pughsley yn athro cynradd Blwyddyn 1 yng nghymoedd Cymru ac mae hefyd yn fyfyriwr ar <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/rhaglen-chyrsiau\/ol-raddedig\/y-coleg-doethurol\/doethuriaeth-mewn-addysg-rhan-amser-rhan-amser\">Raglen Doethuriaeth mewn Addysg yn yr Athrofa<\/a>. \u00a0Mae\u2019r straeon a gyflwynir yma wedi\u2019u ffugio, ond maent yn seiliedig ar brofiadau go iawn.<\/em><\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Cai Pughsley yn cyfleu darlun byw o realiti bod dydd yn yr ysgol i lawer o athrawon a phlant yng Nghymru yn y blog pwerus ac effeithiol hwn.\u00a0 Rwy\u2019n cyrraedd y dyffryn, wrth i\u2019r niwl ddisgyn. Mae\u2019n gorchuddio\u2019r hen derasau, gan feddalu\u2019r craciau ac yn creu byd tawel, bron yn gyfrinachol yn y pentref.&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":40547,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[291],"tags":[311,316,295,330,331],"class_list":["post-40558","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-blog-cy","tag-athrofa-2","tag-curriculum-cy","tag-cwricwlwm-2","tag-education-cy","tag-schools-cy","category-291","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/40558","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=40558"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/40558\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":40560,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/40558\/revisions\/40560"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/40547"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=40558"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=40558"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=40558"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}