BlogPlant ifainc yn defnyddio sialc lliwgar.

Yma, mae Natasha Young yn rhannu ei syniadau ar ddysgu gweithredol a dulliau cyfranogol mewn Addysg Uwch wedi’i seilio ar ei gwaith fel darlithydd blynyddoedd cynnar yn Athrofa Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg PCYDDS. Mae gan Natasha brofiad sylweddol o weithio yn y sector blynyddoedd cynnar sy’n sail i’w haddysgu a’i diddordebau ymchwil yn ei rôl darlithio bresennol.Mae ei diddordebau’n cynnwys datblygiad plant, arwyddocâd chwarae yn nysgu plant, arweinyddiaeth yn y sector blynyddoedd cynnar a datblygiad y cwricwlwm.

Yr addysgeg fwyaf effeithiol ym maes addysg uwch yw cyfuniad o ddulliau a thechnegau a fydd yn gweddu i bob arddull dysgu.

O ganlyniad i bandemig Covid-19 a’r effaith ar ddysgu drwy’r cyfnod hwnnw, mae dod o hyd i ffyrdd arloesol a diddorol o addysgu a dysgu yn fwy pwysig nawr nag erioed o’r blaen i gefnogi dilyniant myfyrwyr.

Mae dulliau addysgu traddodiadol fel darlithio wedi’u defnyddio i rannu gwybodaeth, gyda dysgwyr yn mabwysiadu dull goddefol o ddysgu, a hynny’n aml yn golygu eistedd a gwrando yn hytrach na rhyngweithio a chymryd rhan. Er y gall hyn fod yn ffordd effeithiol i addysgu, mae ymchwil diweddar yn dweud wrthym nid yn unig bod annog dysgwyr i gymryd rhan fwy cyfranogol yn eu dysgu yn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth ond hefyd yn cael effaith bositif ar ymgysylltu, cymhelliant a chynhwysiant (Brame, 2019). 

Mae dulliau addysgu cyfoes yn cynnwys y dull mwy gweithredol a chyfranogol hwn ac yma ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant rydym yn ymrwymo i gofleidio a datblygu’r dulliau hyn trwy ddefnyddio ystod o brofiadau dysgu gweithredol, yn yr ystafell ddosbarth a thu allan iddi. Felly, gellir cefnogi dysgwyr i ymgysylltu â dysgu trwy feddwl, trafod, ymchwilio, creu a chymhwyso. 

Mae’r Tîm Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn frwdfrydig am rymuso eu myfyrwyr trwy ddarparu ystod eang o ddulliau i addysgu a dysgu. Golyga gweithio gyda phlant ifanc yn y blynyddoedd cynnar ddarparu cyfleoedd a phrofiadau gweithgar, ymarferol sy’n hyrwyddo chwilfrydedd, annibyniaeth, datrys problemau a llawer o sgiliau eraill. Felly, pa ffordd well i gefnogi ein myfyrwyr Blynyddoedd Cynnar wrth ddeall y cysyniad hwn na darparu’r un cyfleoedd gweithredol ac ymarferol hynny.  

Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu o fewn modylau ein BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar. Mae ein modylau ‘Cynaliadwyedd’ a ‘Rhyfeddod a Chwilfrydedd’, yn cael eu haddysgu trwy wneud defnydd rhagorol o’r awyr agored, sy’n adnodd rhad ac am ddim. Mae cymryd dysgwyr allan o’r ystafell ddosbarth a’u cymryd nhw allan i’r awyr agored i archwilio a darganfod y posibiliadau, yn rhoi iddynt y cyfle i brofi dull mwy gweithredol o ddysgu. 

Yn rhan o’n modwl ‘Arweinyddiaeth a Gwaith Tîm’ rydym yn defnyddio gweithgareddau ymarferol fel ‘Her Malws Melys’ a ‘rasys arweinyddiaeth’ i gefnogi myfyrwyr i wneud cysylltiadau rhwng y damcaniaethau a drafodwyd mewn darlithoedd a sut y gellid eu rhoi ar waith. 

Yn rhan o’n modwl ‘1000 Diwrnod Cyntaf’, lle byddwn yn addysgu pwysigrwydd symbylu a gwahodd profiadau r gyfer dysgu a datblygiad plant yng nghyfnod cynnar iawn bywyd plentyn, gwnaethom yn ddiweddar sefydlu dull tebyg i ‘hyfforddi cylched’ i archwilio rhai o’r profiadau synhwyraidd y gall babanod a phlant ifanc elwa ohonynt. Trwy roi cyfleoedd i fyfyrwyr archwilio profiadau fel tylino babanod, basgedi trysor, tywod bwytadwy, chwarae blwch golau, Oobleck a jariau arogli, roedd myfyrwyr yn gallu symud o gwmpas y gorsafoedd ac archwilio’r profiadau yn weithredol eu hunain.

Gwnaeth hyn symbylu trafodaethau dwfn ac ystyrlon, roedd myfyrwyr yn gallu gwerthuso a dadansoddi manteision ac anfanteision y rhyngweithio dysgu o’u safbwynt nhw eu hunain ac yn bwysicach, safbwynt y plentyn, ac yn ei dro, gwneud cysylltiadau rhwng damcaniaeth ac arfer. Meddai un myfyriwr ‘roedd hon yn sesiwn ardderchog, nawr, gallaf weld sut gall  gweithgareddau hyn gysylltu i’r ddamcaniaeth rydym yn dysgu amdano’ ac meddai myfyriwr arall ‘Nawr, rwy’n deall pwysigrwydd darparu’r mathau yma o weithgareddau synhwyraidd, i’r babanod ifancaf un, hyd yn oed’.  

Nod y dull dysgu gweithredol hwn yw rhoi dysgwyr yng nghanol eu profiad dysgu eu hunain, gan gymryd rhan weithredol yn hytrach na bod yn ddysgwr goddefol.  Mae’r dull hwn a rhyngweithio ymdrochol yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio’r hyn maent wedi’i ddysgu mewn agweddau ar eu harfer eu hunain, gan eu cefnogi i ddod yn ymarferwyr proffesiynol mwy cyflawn a gwybodus. 

Wrth i ni gofleidio a mabwysiadu’r dulliau dysgu ac addysgu mwy gweithredol hyn fwy a mwy, gallwn ddechrau gweld bod myfyrwyr yn cymryd rheolaeth dros eu dysgu, gan danio brwdfrydedd ynddynt i ddysgu yn y dyfodol a chymhwyso sgiliau yn y byd go iawn. 

Trwy ddefnyddio dulliau cymysg o addysgu a dysgu, nid yn unig rydym yn darparu amrywiaeth, ond hefyd rydym yn darparu ar gyfer dulliau dysgu posibl ein holl fyfyrwyr, gyda’r gobaith bod rhywbeth at ddant pawb. Mae model dysgu VARK Fleming (2006) yn amlygu’r gwahanol ddulliau dysgu; Gweledol, Clywedol, Darllen/Ysgrifennu a Chinesthetig. O fewn unrhyw grŵp o ddysgwyr, bydd cymysgedd o ddysgwyr sy’n dysgu yn y ffyrdd hyn, felly, trwy fabwysiadu a defnyddio addysgu cymysg, bydd pob dysgwr yn elwa. Trwy annog myfyrwyr i ymgysylltu â gweithgareddau cydweithredol ac annibynnol, bydd dysgwyr yn dechrau gwneud y cysylltiadau hollbwysig hynny rhwng damcaniaeth, polisi ac arfer. 

Gall symud oddi wrth ddull mwy traddodiadol darlithio lle bydd athrawon yn ‘trosglwyddo’ gwybodaeth i fyfyrwyr trwy ddarlithoedd wyneb i wyneb mewn ystafell ddosbarth a symud tuag at ddull mwy cydweithredol lle bydd myfyrwyr yn chwarae rhan wrth gyfarwyddo eu dysgu eu hunain gael effaith bositif ar ymgysylltiad a chymhelliant dysgwyr. Yn hanfodol, mae’r dulliau hyn hefyd yn cyd-fynd â syniadau damcaniaethwyr addysg arwyddocaol fel Vygotsky a Piaget, a astudiwyd yn ystod y radd, gan amlygu’r dull lluniadaeth, lle bydd dysgwyr yn adeiladu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth eu hunain. Mae damcaniaeth o’r fath yn cefnogi’r rôl arwyddocaol sydd gan addysgwyr wrth ddarparu amgylchedd symbylol a chefnogol lle gall myfyrwyr adeiladu eu syniadau.  

Wrth i ni gofleidio’r dulliau dysgu gweithredol hyn, gall bod dull gwbl newydd o addysgu a dysgu fod ar y gorwel. Dyfodol sy’n llawn posibilrwydd profiadau dysgu rhithwir ac efelychiadol i gyfoethogi dysgu a’i ddod yn fyw. Bydd y timau Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar ar reng flaen dulliau o’r fath, yn barod i gefnogi ein myfyrwyr i ddod yn ymarferwyr proffesiynol gwybodus, medrus a thrugarog sy’n barod i addysgu a gofalu am ein dysgwyr ieuengaf. 

 

Cyfeiriadau 

 

  • Brame, C. (2019) Active Learning Ar gael yn:https://www.oaa.osu.edu/sites/default/files/uploads/nfo/2019/Active-Learning-article.pdf (Cyrchwyd Chwefror 27ain 2023). 
  • Fleming, N. (2006).Learning styles again: VARKing up the right tree!” (PDF). Educational Developments. 7 (4): 4-7.
  • Piaget J, Inhelder B (1969) The Psychology of the child. Prentice-Hall: Washington DC, USA 
  • Vygotsky L (1978) Mind in Society. Harvard University Press: Cambridge, Massachusetts, UDA. 



  • Ar hyn o bryd mae Natasha Young yn darlithio ym maes addysg a gofal blynyddoedd cynnar ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (Y Drindod).