Wrth i ddatblygiad cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru gyrraedd carreg filltir bwysig, mae Elaine Sharpling yn galw ar randdeiliaid i fanteisio ar y cyfle i godi safonau ymhellach ac i fynd i’r afael â’r bwlch cyrhaeddiad…

 

Mae’r sawl ohonom sy’n gweithio ym myd addysg yng Nghymru yn disgwyl yn awyddus lansiad y cwricwlwm yn ddiweddarach yn ystod y mis hwn.

Sut bynnag mae’r ddogfennaeth yn edrych – pe bai hi’n rhy eang, yn rhy fanwl, neu yn rhy ddryslyd, gallwn fod yn hyderus bod sybsidiaredd wedi cael ei gofleidio a bod yr athrawon a wnaeth ei ysgrifennu wedi seilio cynllun y cwricwlwm ar ymchwil, polisi ac arfer proffesiynol.

Mae hon yn wir ymagwedd unigryw, ac mae llygaid addysgwyr agos a phell yn gwylio gyda diddordeb mawr beth fydd canlyniadau’r math ddull o’r gwaelod i fyny.

Efallai ei bod hi’n amser i atgoffa ein hunain pam bod angen cwricwlwm newydd ar Gymru yn y lle cyntaf. Yn Dyfodol Llwyddiannus (2015, t10), mae’r Athro Graham Donaldson yn amlinellu dadl argyhoeddiadol am newid.

Mae’n nodi bod ‘nodweddion hanfodol  cwricwlwm a ddyfeisiwyd ym 1988 yn adlewyrchu byd nad oedd eto wedi gweld y We Fyd-eang a’r cynnydd mewn technoleg a globaleiddio sydd wedi trawsnewid ein ffordd o fyw a gweithio’.

Ychwanega fod y cwricwlwm wedi cael ei orlwytho, ei fod yn gymhleth a bod rhannau ohono wedi dyddio. Dylai’r fath eiriau atal unrhyw feirniaid rhag ei feirniadu yn syth. Rhoddir i ni gyfle oes i drawsnewid addysg plant a phobl ifanc Cymru.

Dywedwyd mai JFK bathodd yr ymadrodd ‘Mae’r llanw, ar lanw, yn codi pob cwch’ sy’n golygu pe bai’r economi cyffredinol yn ffynnu, yna bydd hyn o fudd i bob un ohonom.

Gan adael economeg naill ochr am eiliad, yn sicr dyma ein nod o ran y cwricwlwm – os yw ein system addysg yn un gref a chadarn, yna bydd safonau yn gwella ymhellach ar gyfer pob dysgwr ar draws Cymru.

Wrth gwrs, mewn amser, ein gobaith yw bydd codi safonau yn effeithio’n uniongyrchol ar lwyddiant economaidd ein gwlad wrth i system addysg gref wneud Cymru’n fwy cystadleuol ar lwyfan byd-eang.

Mae Adroddiad y Sutton Trust, Global Gaps (2017), yn dangos bod angen i bob dysgwr elwa oherwydd y cwricwlwm newydd. Wedi’i gynllunio er mwyn cymharu’r bylchau economaidd-gymdeithasol ym mherfformiad rhyngwladol disgyblion galluog iawn y D.U., mae’r adroddiad yn dod at rai casgliadau di-blewyn-ar-dafod:

  • Gwyddoniaeth – mae’r bwlch economaidd-gymdeithasol yn llai yng Ngogledd Iwerddon a Chymru. Er hynny, mae’n adlewyrchu’r perfformiad lled wan ymhlith y grŵp economaidd- gymdeithasol uchaf, yn enwedig yng Nghymru, yn hytrach nag unrhyw lefel o gyrhaeddiad rhagorol ymhlith disgyblion sy’n academaidd alluog ac sy’n dod o gartrefi statws economaidd gymdeithasol isel.
  • Mathemateg – Mae Cymru yn cymharu yn enwedig o wael yn y pwnc hwn, gyda thair gwlad OECD yn unig (Chile, Twrci a Mecsico) yn perfformio yn waeth o lawer o ran cyrhaeddiad y disgyblion mwyaf galluog ym mathemateg. Mae myfyrwyr galluog yn yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd yn perfformio’n waeth na’r rhan fwyaf o wledydd sydd wedi’u diwydianeiddio.
  • Darllen – Mae’r sawl sy’n cyflawni uchaf mewn darllen yn Lloegr tua o gwmpas y canolrif OECD. Er bod Gogledd Iwerddon a’r Alban yn perfformio’n ychydig yn waeth na’r canolrif OECD, mae cyflawnwyr uwch Cymru yn gwneud yn enwedig o wael. Mewn tair gwlad yn unig sydd wedi’u diwydianeiddio (Chile, Twrci a Mecsico) y mae sgiliau darllen y cyflawnwyr uchaf yn is nag yng Nghymru.

Dyma’r nodweddion sy’n achosi pryder ac sy’n arwydd o berfformiad gwael, pa beth bynnag yw’r grwpiau economaidd-gymdeithasol. Mae’n debyg bod grwpiau ‘gorau’ Cymru yn tanberfformio i’r un graddau o gymharu â meincnodau rhyngwladol. Yna, mae’r adroddiad yn dweud:

‘Y mae hefyd gwersi pwysig i’w dysgu gan Gymru a’r Alban, y ddwy wlad yn dechrau ar eu hymagweddau eu hunain at ddiwygio addysg. Mae ganddynt hefyd broblemau go iawn ynglŷn â’r nifer a dderbynnir gan brifysgolion, ac felly mae perfformiad gwael Cymru a’r dirywiad ym mathemateg yn yr Alban yn achosi llawer o bryder.’ (t3)

Os nad yw’r fath gasgliadau yn mynd i fod yn rhan o dirwedd addysgol Cymru, bydd angen edrych ar ddiben y cwricwlwm drwy lens ddidwyll. Mae gennym gyfrifoldeb cyfunol i wella safonau ar gyfer pawb ac ar bob lefel addysg – o bolisi hyd at arfer; o addysg gynradd hyd at Addysg Uwch. Ni all neb sy’n rhan o addysg fod yn wyliedydd, yn gwylio wrth i ddiwygio’r cwricwlwm fynd heibio.

Er hynny, mae’r bwlch cyrhaeddiad a achosir gan effaith ddinistriol anfantais yn broblem sylweddol o ran addysg yng Nghymru. Mae Achub y Plant Cymru yn nodi bod ‘1 plentyn o 3 yng Nghymru yn dal i fyw mewn tlodi. Mae’r gyfran hon yn uwch nag mewn unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig ac mae’n cyfateb i bron 200,000 o blant’.

Mae’r gyfran hon yn uwch nag mewn unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig ac mae’n cyfateb i bron 200,000 o blant (LlC, 2016; Achub y Plant, 2017). Ac felly, os yw ‘llanw, ar lanw, yn codi pob cwch’, yn sicr gwnaiff y bwlch rhwng yr iot fwyaf moethus a’r cwch rhwyfo pren barhau i fod union yr un peth pa beth bynnag yw’r pellter maent yn codi.

Sut dylem felly wella’r safonau ymhellach ar draws y system a chau’r bwlch cyrhaeddiad ar yr un pryd – mae’n her y bydd rhaid i’r cwricwlwm newydd fynd i’r afael â hi’n weithredol, os ydym am wireddu’r Genhadaeth Genedlaethol.

 

Gwella safonau a chau bylchau

Yn ei lyfr diweddaraf Making Kids Cleverer (2019), mae David Didau and trafod yr union broblem hon, ac yn bendant, mae’n cydnabod bod ‘plant sydd ganddynt gefndir difreintiedig yn debygol o gael mwy o anawsterau yn yr ysgol’.

Er hynny, mae’n dadlau mai cam cyntaf mynd i’r afael â hyn yw archwilio’r bwlch yn fwy manwl. Nid ffawd yw’r bwlch cyrhaeddiad, ond bydd angen i ni ddeall a chydnabod ein ffordd o ymdrin â’r bwlch er mwyn ein bod ni’n gallu symud ymlaen.

Pe baem yn ystyried mai cynnyrch economeg gymdeithasol yn unig yw’r bwlch cyrhaeddiad, yna cawn farn wyrgam am gyrhaeddiad, gyda rhai plant yn cael eu rhannu’n ddau grŵp polar – y sawl ‘sydd â’ a’r sawl  ‘sydd heb’.

Er gwaethaf hyn, gwyddom y gall cyflawnwyr uwch  fod yn rhan o unrhyw grŵp economaidd-gymdeithasol, o ystyried amrywiaeth gyfoethog a chymhlethdod ystafell ddosbarth.  Â Rosling (2018) ymhellach, gan awgrymu ‘nad oes fwlch’ – ac eithrio yn unig yr un a grëwyd yn artiffisial o fewn system addysg.

Hefyd, awgryma y dylai addysgwyr fod yn wyliadwrus rhag natur ddeniadol meddwl yn nhermau bwlch, a’i heffaith ar arfer ystafell ddosbarth. Mae hon yn ddatganiad cythruddol sy’n herio ein barn sylfaenol ynglŷn â diben addysg a’i pherthynas gynhennus â pholisi.

Pe baem yn rhoi’r gorau i edrych drwy lens grwpio’n economaidd-gymdeithasol ac yn ei le yn canolbwyntio ein hymdrechion ar yr hyn sy’n debygol o weithio ar gyfer pob plentyn, yna daw diben ein system addysg yn gliriach – mae’n ymwneud â chreu dysgwyr uchelgeisiol a galluog drwy roi’r grym a’r wybodaeth i bob plentyn i ddewis.

Yn yr Athrofa, gwnaiff ein hathrawon dan hyfforddiant ymgysylltu â newid cymdeithasol a pharatoi’u disgyblion i fod yn weithredwyr newid mewn cymdeithas. Mae hyn yn golygu mwy na ‘gwybod am’ neu ‘werthfawrogi’ materion sy’n ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol – mae’n golygu mabwysiadu agwedd actifydd sy’n aflonyddu ar y status quo ac yn gwella’r deilliannau ar gyfer pob dysgwr.

Fel yr awgryma Didau, un ffordd o fynd i’r afael â hyn yw ‘dadgyplu’ plant o’u cefndiroedd a rhoi’r gorau i’r farn ei bod hi’n bosibl i rannu plant a phobl ifanc yn ddau grŵp, y sawl ‘sydd â’ a’r sawl ‘sydd heb’. Mae’r syniad bod pob plentyn yn symud ar hyd y cwricwlwm ar daith ddilyniant yn ddefnyddiol o safbwynt disodli’r grwpiau polar hyn.

Cytunaf â’r farn hon, a chredaf yn gryf na ddylai statws economaidd-gymdeithasol teulu plentyn chwarae rhan bendant wrth benderfynu ar debygrwydd llwyddiant neu fethiant yn ein system addysg.

Ni all pawb fod yn gyfartal o ran pob peth, ac felly ni ddylid cydweddu gweithredu’r cwricwlwm i unrhyw grŵp penodol – rwyf wedi dadlau eisoes bod canolbwyntio ein hymdrechion ar yr hyn sy’n debygol o weithio i bob plentyn yn beth da. Er hynny, mae’r ddadl ynghylch hwn – sut, beth a pham y mae plant yn dysgu yn fyw ac yn iach, gyda gwybodaeth wrth galon y ddadl.

O’m safbwynt i, wrth feddwl am wybodaeth, caf fy atgoffa am fy nghwestiwn Iaith Saesneg Lefel A:

           Pwrpas addysg – i drosglwyddo gwybodaeth neu i hyrwyddo newid cymdeithasol. Trafodwch.

Er bod ein rheswm am addysgu yn awr yn llawer cliriach, am ei fod wedi’i fapio’n bedair rhan wahanol, y berthynas rhwng gwybodaeth a newid cymdeithasol sydd angen ei dadlau o hyd. A oes yna gysylltiad rhwng gwybodaeth a newid cymdeithasol, ac os oes, a ydy hi’n bosibl ei ddeall mewn ffordd gynhwysol sy’n galluogi pob dysgwr i elwa o’i herwydd.

Mae’n bosibl mai’r ateb yw aflonyddu ar y lens meddwl yn economaidd-gymdeithasol ac ystyried y cwricwlwm yn gyfle i bob dysgwr. Nid  cynnwys neu ddyluniad y cwricwlwm yn unig fydd yn gyrru’r cyfleoedd hyn ymlaen, ond hefyd, ac efallai yn fwy pwysig, yr addysgeg a ddewisir ac a ddefnyddir gan athrawon.

Mae athrawon yn gwneud gwahaniaeth ac mae addysgu da yn gwneud gwahaniaeth. Mae’n amser bod pob athro yn ystyried yr ymgynghoriad ar y cwricwlwm newydd yn gyfle i fod yn weithredwr newid – gan roi llais i’w brofiadau helaeth a’i arbenigedd wrth lunio cwricwlwm sy’n cynnig yr hyn sydd fwyaf effeithiol i bob plentyn.

Yna, gwnaiff  y llanw, ar lanw, godi pob cwch… a daw cynnig cyfartal o ddyfodol llwyddiannus i ran y ddau ohonynt, yr iot foethus, a’r cwch rhwyfo pren yn ogystal.

  • Elaine Sharpling yw Cyfarwyddwr Addysg Gychwynnol Athrawon, Yr Athrofa: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

clear formPost comment