Bydd datblygiad proffesiynol i’r gweithlu addysg yn hollbwysig er mwyn gweithredu’r cwricwlwm cenedlaethol newydd i Gymru yn llwyddiannus. Ond mae dysgu’n broses raddol nad oes nodd ei rhuthro, yn ôl Catherine Kucia…


Yn ddiamau mae ‘llesiant’ yn un o’r geiriau ffasiynol presennol yn y byd addysg. Roedd sgwrs diweddar ar Twitter (@networkEDcymru) wedi nodi bod gan athrawon o bob cwr o Gymru brofiadau amrywiol o ran eu dealltwriaeth o lesiant a’r modd y caiff ei ddatblygu mewn ysgolion.

Er mwyn darparu man cychwyn i ddiffinio beth sydd, heb amheuaeth, yn gysyniad cymhleth, mae’r Oxford English Dictionary yn disgrifio ‘wellbeing’ fel ‘the state of being comfortable, healthy, or happy’.

Credaf fel addysgwyr ei bod yn ddyletswydd foesol arnom i sicrhau bod y plant dan ein gofal yn hapus a diogel. I mi, mae’r syniad o lesiant ym myd addysg yn fwy na’r diffiniad yn y geiriadur yn unig, dyma hanfod bod yn barod i ddysgu.

Felly os gofynnir i ysgolion ddatblygu a chefnogi llesiant, rhaid mai’r her yw sicrhau bod llesiant ymarferwyr hefyd yn cael ei ystyried. Daw’r cysyniad ‘rhowch eich masg ocsigen eich hun ymlaen yn gyntaf’ i’r meddwl.

Mae’r disgwyliadau o’r proffesiwn addysgu’n uchel, a byth yn fwy nag yn yr hinsawdd cyfredol o ddiwygiadau addysg niferus yma yng Nghymru. Mae’n hollbwysig bod ymarferwyr yn gofalu am eu llesiant eu hun.

Fel pennaeth gallaf weld bod modd mynegi hyn mewn dwy ffordd – yn broffesiynol ac yn bersonol. Yn bersonol, rwy’n gwneud amser i redeg; gwisgo fy sgidiau rhedeg, mynd tu allan a mwynhau heriau newydd. Yn aml caf sylwadau yn gofyn sut mae gen i amser i redeg.

F’ymateb i bob tro yw ‘Rwy’n gwneud yr amser’. Trwy wneud hyn fy ngobaith yw gosod esiampl, er bod honno’n un fach, fy mod yn gwneud rhywbeth rwy’n frwdfrydig amdano, sy’n gwella fy llesiant ac yn cael effaith gadarnhaol ar fy ngwaith proffesiynol.

Yn broffesiynol, mae’n ymwneud â sicrhau mai dysgu yw’r prif ffocws ym mhopeth rwy’n ei wneud a bod amser ar gyfer dysgu’n cael ei werthfawrogi. Yn ein cymdeithas sy’n symud mor gyflym, mae amser yn rhywbeth prin, yn aml rydym yn brin o amser ond yn gyforiog o weithgarwch. Os hoffem yn wir sicrhau lefelau uchel o lesiant, mae angen i ni barchu dysgu wrth eich pwysau.

Yn fy mhrofiad i, er mwyn datblygu dysgu wrth eich pwysau i ymarferwyr a phlant, rhaid iddo ddechrau gyda diwylliant yr ysgol. Mae diwylliant â ffocws ar ddysgu’n gofyn am weledigaeth ac ymddygiadau sy’n gyrru arweinwyr, staff a phlant.

Fodd bynnag gall hyn ddigwydd dim ond os oes perthnasoedd cryf o fewn a thu hwnt i gymuned yr ysgol. Mae hinsawdd cadarnhaol ar gyfer dysgu’n gofyn am gyfathrebu eglur, agored a gonest. Mae hefyd yn gofyn am lefelau uchel o ymddiriedaeth.

Arweinwyr ysgol sy’n gosod yr hinsawdd a’r diwylliant o ymddiriedaeth mewn ysgol. Mae galluogi dysgu wrth eich pwysau yn gofyn am arweinwyr sy’n ystyried yn ofalus systemau a strwythurau sy’n canolbwyntio ar ddysgu.

O brofiad, mae darparu amser i ymarferwyr siarad a chydweithio’n hanfodol. Mae darparu rhyddid i staff ddatblygu syniadau heb deimlo eu bod wedi’u clymu gan hualau traddodiadol addysg yn ganolog i’r ffordd hon o weithio.

Mae’r disgwyliadau cyfredol ynghylch y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru yn cael eu hystyried gan lawer o athrawon yn or-feichus ac yn orlawn. Yn fy marn i, mae’r Cwricwlwm newydd i Gymru, sydd ar gael ar hyn o bryd mewn fersiwn drafft ac a ddaw’n statudol ym mis Medi 2022, yn dileu cyfyngiadau o’r fath ac yn caniatáu lefel o ryddid nas profwyd yn flaenorol.

Nid yw hyn yn golygu bod agwedd laissez faire tuag at ddysgu. I’r gwrthwyneb, mae cwricwlwm â dyluniad eglur a ddatblygwyd gan ac ar y cyd ag athrawon ac sy’n darparu braslun ar gyfer cynllunio cyfleoedd dysgu yn hanfodol.

Fel pennaeth ysgol sydd wedi penderfynu mabwysiadu hanfod y Cwricwlwm newydd i Gymru, rwy’n cael sgyrsiau gydag athrawon sydd bellach yn teimlo bod ganddynt fwy o amser i feddwl a thrafod themâu dysgu. Nid ydynt yn bustachu drwy gynlluniau gwaith o fewn cyfnodau amser penodedig.

Maent yn hyblyg gyda chyfeiriad y dysgu gan sicrhau bod dysgu’n cael ei yrru gan anghenion a galluoedd y plant yn hytrach na phwysau allanol. Mae hyn ond yn bosibl gyda diwylliant sy’n ymddiried ynddynt er mwyn iddynt drefnu’r dysgu mewn ffordd sydd orau i’w plant.

Galluogir hyn drwy ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel. Anogir galluogedd athrawon, disgwylir galluogedd cydweithredol a darperir amser i’r holl staff ymchwilio, siarad a threialu syniadau newydd. Mae pwrpas eglur ac mae hyn ynghyd â dysgu wrth eich pwysau yn effeithio ar staff a phlant. 

Mae plant yn dysgu o bopeth o’u cwmpas – pobl, amgylchedd, awyrgylch, y drefn arferol a phrofiadau. Mae datblygu dysgu wrth eich pwysau yn effeithio ar deimladau plant o fod yn hapus. Nid yw dysgu’n teimlo fel ras.

Mae plant yn cael eu meithrin a’u cefnogi i ddatblygu a rhoddir amser iddynt ymwneud â’r profiadau a gynigir iddynt. Er mwyn galluogi hyn mae angen ymarferwyr sy’n mynd ati’n fwriadol i arfer dysgu wrth eich pwysau.

Mae’r term llesiant yn llawer mwy na diffiniad geiriadur, i mi dyma graidd dysgu. Mae’n ymwneud â’r diwylliant iawn, y perthnasoedd iawn ac amser. Pwrpas a ddylai ei yrru yn ei flaen, nid beth mae pobl yn ei wneud yn yr ysgol, ond pam maen nhw’n ei wneud.

Byddwn yn annog arweinwyr ysgol sy’n cychwyn ar heriau cwricwlwm newydd i ystyried dysgu wrth eich pwysau er mwyn i’r holl ymarferwyr a phlant gael y cyfle i ffynnu.

  • Catherine Kucia yw pennaeth Ysgol Gynradd Parc Jiwbilî, Casnewydd, ac mae’n fyfyriwr ar raglen Doethuriaeth mewn Addysg yr Athrofa Addysg

Gadael Ymateb

Your email address will not be published.

clear formPost comment