Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chynllun addysg cenedlaethol newydd. Yma, y mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, sy’n ysgrifennu yn arbennig i’r Athrofa, yn cyflwyno ei gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer Addysg yng Nghymru…

 

Ym maes addysg yng Nghymru, rydym yn adeiladu ar sylfeini cadarn. Mae’r arbenigwyr byd-eang ar berfformiad addysg, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, wedi cydnabod yn ddiweddar bod y llywodraeth a’r sector yn gweithio’n agos gyda’i gilydd a bod ymrwymiad i wella sydd i’w weld ar bob lefel o’r system addysg.

Nid yw ein cynllun gweithredu – Addysg yng Nghymru: Ein Cenhadaeth Genedlaethol – yn ddogfen a ddyfeisiwyd mewn swyddfa gefn yn y llywodraeth. Canlyniad bod yn agored i syniadau, adborth ac adolygu ydyw.

Mae’r gymuned ryngwladol o arbenigwyr, gan gynnwys y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, yn helpu i lunio ein gweithgareddau datblygu arweinyddiaeth, ein ffocws ar lesiant a chyfleoedd dysgu proffesiynol. Mae ein hysgolion arloesol yn gweithio mewn partneriaeth ar y cwricwlwm ac yn cymryd camau breision ym maes cymhwysedd digidol.

Mae ein partneriaid yn Estyn, yr Undebau, y Consortia, Cymwysterau Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg yn gwneud cyfraniadau hollbwysig at system hunanwella wirioneddol. Yn bwysicaf oll mae rhieni a dysgwyr eu hunain, ynghyd ag athrawon, yn mynnu’r gorau posibl o’n system addysg. Dyna pam rydym yn disgrifio’r diwygiadau addysg hyn fel cenhadaeth genedlaethol.

Mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd i godi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system sy’n destun balchder cenedlaethol gwirioneddol a hyder y cyhoedd. Mae’n rhaid i ysgolion baratoi pobl ifanc ar gyfer swyddi nad ydynt wedi cael eu creu eto a heriau nad ydym wedi eu hwynebu eto. A dweud y gwir – ar lefel dysgwr, lefel ysgolion ac ar lefel genedlaethol – ni fu addysg erioed mor bwysig.

Mae a wnelo’r genhadaeth hon â phennu a chyflawni’r disgwyliadau uchaf posibl i’n pobl ifanc, i’n proffesiwn addysgu ac i’n gwlad. Eisoes mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo, ond cydnabyddir y gallwn, gyda’n gilydd, fod hyd yn oed yn well. Mae ein cynllun yn nodi pwynt hollbwysig ar y daith honno.

Rydym wedi myfyrio ar y cyngor clir a roddodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i ni. Daliwch ati, ond gwnewch fwy i gyfathrebu ac egluro. Canolbwyntiwch ar arweinyddiaeth a chyflawnwch gwricwlwm newydd mewn ffordd brydlon.
Mae ein cynllun yn nodi’r camau gweithredu y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i’w cymryd i wella’r system addysg gan gynnwys:

  • Lleihau meintiau dosbarthiadau;
  • Diwygio hyfforddiant athrawon;
  • Cryfhau’r gefnogaeth sy’n cael ei rhoi i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol;
  • Sefydlu dull cenedlaethol o ddatblygu gyrfaoedd athrawon yn y tymor hir;
  • Sefydlu Academi Genedlaethol newydd ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol;
  • Lleihau’r fiwrocratiaeth ddiangen ar athrawon;
  • Buddsoddi £1.1 biliwn i uwchraddio ansawdd adeiladau ysgolion.

Gwn o’m hymweliadau ledled Cymru fod llawer o optimistiaeth a rennir a llawer o arfer o’r radd flaenaf. Rydym yn gwneud llawer o’r gwaith yn iawn.

Gwn hefyd fod rhai mythau a chamwybodaeth am y cwricwlwm newydd ond mae ein cynllun gweithredu yn glir ynghylch y ffordd ymlaen. Rwyf wedi cymryd yr amser i fyfyrio ar sgyrsiau gydag athrawon, rhieni, addysgwyr ac undebau, a’r her a’r cyngor gan y pwyllgor craffu yn y Cynulliad.

Mae’n iawn ein bod yn cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn raddol yn hytrach na’i gyflwyno dros nos un mis Medi. Rhaid i ni hefyd sicrhau bod gan ysgolion ac athrawon ddigon o amser paratoi.

Nid amser i sefyll yn stond ydyw, ond amser i roi adborth, ymgysylltu ymhellach â’r cwricwlwm newydd a bod yn hollol barod ar gyfer y dull gweithredu newydd. Bydd y trefniadau newydd ar gyfer y cwricwlwm ac asesu ar gael i ysgolion roi adborth arnynt, eu profi a’u mireinio yn ystod Pasg 2019.

Yn dilyn y cyfnod hwnnw, bydd gan bob ysgol fynediad i’r cwricwlwm terfynol o 2020, a bydd hyn yn galluogi pob ysgol i fod yn hollol barod i’w gyflwyno’n raddol yn statudol ym mis Medi 2022. Caiff ei gyflwyno yn y dosbarthiadau meithrin hyd at Flwyddyn 7 yn 2022, ym Mlwyddyn 8 yn 2023, ym Mlwyddyn 9 yn 2024 ac yn y blaen wrth i bob carfan symud drwy’r ysgol.

Fel y dywedodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ei adolygiad yn ddiweddar: Er mwyn gwireddu ei hamcanion addysg ac, yn y pen draw, ei gweledigaeth ar gyfer y dysgwr yng Nghymru, dylai Cymru barhau i ddiwygio’r cwricwlwm… gan sicrhau bod ei thaith ddiwygio yn gynhwysfawr ac effeithiol.

Gyda’n gilydd, byddwn yn cyflawni ein cwricwlwm newydd, gan gymryd yr amser i sicrhau bod popeth yn iawn. Nid yw cynnwys yr amser ychwanegol hwnnw yn golygu arafu pethau.

Mae ein cynllun yn nodi nodau clir – Sicrhau proffesiwn addysg o ansawdd uchel; Nodi ac ysbrydoli arweinwyr i godi safonau; Ysgolion cynhwysol sy’n ymroddedig i ragoriaeth, cydraddoldeb a llesiant a dulliau asesu, gwerthuso ac atebolrwydd cadarn a gwell o fewn system hunanwella.

Mae sicrhau bod pob dysgwr yn cael yr un cyfle i gyrraedd y safonau uchaf wrth wraidd y genhadaeth hon. Rydym yn helpu ein disgyblion o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig drwy’r Grant Datblygu Disgyblion, yr ydym yn ei gynyddu ac yn ei ymestyn.

Gallwn bob amser wneud mwy, ond rydym yn lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a cheir straeon dirifedi gan rieni ac athrawon ynghylch sut mae’r Grant Datblygu Disgyblion wedi arwain at gyfleoedd a phrofiadau trawsnewidiol. Mae ein cynllun gweithredu yn cynnwys yr un ymrwymiad i godi safonau i bawb.

Mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi proffesiwn addysgu o ansawdd uchel, gan flaenoriaethu dysgu proffesiynol parhaus ac arweinyddiaeth gadarn, sy’n nodi ac yn cyflawni disgwyliadau uchel i’n dysgwyr, ein hysgolion a’r system gyfan.

Rwy’n hyderus ein bod yn gweithio’n gyda’n gilydd i fynd i’r afael â rhai arferion a wnaeth ostwng disgwyliadau a chamddefnyddio’r system. Os ydym bob amser yn ymrwymedig i roi lles y dysgwr yn gyntaf – a sicrhau y gall gyflawni ei botensial – yna byddwn ar y trywydd iawn.

Mae ein cenhadaeth genedlaethol yn perthyn i bob dysgwr, rhiant, athro ac arweinydd yng Nghymru. Mae’n adeg gyffrous i addysg yng Nghymru. Cenhadaeth a rennir i ysbrydoli pobl ifanc iach, mentrus a hyderus sy’n meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt nawr ac yn y dyfodol.

Ni fydd yn hawdd bob amser. Ceir boddhad drwy anelu at safonau hyd yn oed yn uwch, dyfodol gwell i’n pobl ifanc, a chydnabyddiaeth gan rieni, busnesau a’r gymuned ryngwladol fod Cymru yn arwain y ffordd. Mae ein dull arloesol – a pharodrwydd i weithio a dysgu gyda’r gorau yn y byd – eisoes yn denu sylw. Ond gallwn gyflawni hyd yn oed yn fwy.

Rydym yn dysgu gan y gorau fel y gallwn fod hyd yn oed yn well. Ni fu erioed amser gwell i fod yn gysylltiedig ag addysg yng Nghymru. Nawr yw’r amser i wneud gwahaniaeth, gyda’n gilydd gallwn gyflawni ein cenhadaeth genedlaethol.

  • Kirsty Williams yw Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Leave a Reply