Mae cyfuniad blanllaw o arbenigwyr wedi rhoi eu cynigion ar sut orau i wella arweinyddiaeth addysg yng Nghymru.

Gwnaeth ail gyfarfod Comisiwn Addysg Cymru ystyried yr effaith enfawr sydd gan arweinyddiaeth ar safonau ysgolion, gan adfyfyrio ar yr hyn y mae rhai o systemau addysg y byd sy’n perfformio orau wedi ei wneud er mwyn cynorthwyo arweinwyr ysgolion.

Daw hyn yn sgil ymrwymiad yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, i gryfhau arweinyddiaeth ysgolion drwy sefydlu Academi Genedlaethol newydd a wnaiff sicrhau bod pob arweinydd sydd yn y system addysg yng Nghymru yn gallu cymryd mantais ar gyfleoedd dysgu proffesiynol o safon uchel.

Gwnaeth y Comisiwn, sy’n dod â meddylwyr addysgol at ei gilydd o bob rhan o’r byd, ymateb i agenda arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru drwy gyflwyno nifer o sylwadau ar arfer gorau o bob rhan o’r byd a wnaeth ysgogi’r meddwl.

Ystyriodd strategaethau arweinyddiaeth llwyddiannus Canada, Unol Daleithiau America a’r Alban, a chafodd gipolwg unigryw ar sut yr ysgogwyd prifathrawon yn ystod y rhaglen glodfawr ‘London Challenge’.

Mae’r Comisiwn, a fydd yn cwrdd dair gwaith y flwyddyn i ystyried pob cyfnod o addysg, yn llinyn allweddol yn Athrofa Addysg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sydd newydd gael ei sefydlu.

Pwrpas deublyg y grŵp yw cynorthwyo i arwain gwaith yr Athrofa a’i Phartneriaeth Dysgu Proffesiynol, sy’n cynnwys ysgolion a staff y brifysgol, yn ogystal â chyfrannu yn weithredol at y drafodaeth addysg ehangach yng Nghymru.

Dywedodd yr Athro Dylan Jones, Cyfarwyddwr yr Athrofa ac Ysgrifennydd y Comisiwn, byddai dysgu gan bartneriaid ar draws y byd o fudd enfawr i Gymru.

Meddai: “Mae’r cyfoeth o arbenigedd rhyngwladol yr ydym wedi dod ag ef i Gymru yn ein galluogi ni i adfyfyrio yn feirniadol, mewn ffordd arloesol, ar y datblygiadau a fydd yn briodol ar gyfer ein system addysg ni.

“Rwy wrth fy modd gyda’r gefnogaeth a’r cymorth a ddarperir gan y grŵp hwn o unigolion blaenllaw, pob un ohonynt, drwy ei waith ei hun, wedi ennill parch anferth am ei gyfraniad at wella addysg.

“Wrth symud ymlaen, mae’n allweddol bwysig ein bod ni’n dysgu oddi wrth ein cydweithwyr rhyngwladol ac yn perthnasu’r wybodaeth honno â chyd-destun Cymru er budd ein hysgolion, colegau, ac yn wir, ein prifysgolion.”

Yn ystod y trafodaethau, clywodd  y Comisiwn dystiolaeth gan Gillian Hamilton, Prif Weithredwr y Scottish College for Educational Leadership, a sefydlwyd yn 2014 er mwyn cynorthwyo dysgu proffesiynol athrawon ynglŷn ag arweinyddiaeth ar bob lefel ar draws holl ysgolion yr Alban.

Gofynnwyd wedyn i aelodau’r Comisiwn, pob un ohonynt â’i hanes o lwyddiant rhagorol yn ei faes arbennig, roi eu sylwadau ar y polisi addysg sydd eisoes yn bodoli, a chynnig awgrymiadau ar sail eu profiad a’u harbenigedd rhyngwladol.

Mae’r Comisiwn yn cynnwys Dr Carol Campbell Athro Cysylltiol mewn Arweinyddiaeth a Newid Addysgol ym Mhrifysgol Toronto; Yr Athro Trevor Gale, Pennaeth yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Glasgow; Laura Perille, Prif Weithredwr EdVestors, sydd wedi ei leoli yn Boston; Mick Waters, Athro mewn Addysg  ym Mhrifysgol Wolverhampton; a David Woods, Athro mewn Addysg ym mhrifysgolion Warwig a Llundain.

Meddai Dr Campbell: “Mae’n bleser mawr gennyf fod yn aelod o Gomisiwn Addysg Cymru, lle rydym yn dod at ein gilydd i drafod anghenion disgyblion ar draws Cymru gyfan yn ogystal â’r hyn y gallwn ddysgu ar sail enghreifftiau rhyngwladol.”

Cynhaliwyd ail gyfarfod y Comisiwn yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe a chaiff adroddiad dilynol, ynghyd ag argymhellion ar gyfer Cymru a Llywodraeth Cymru, eu cyhoeddi ar wefan yr Athrofa.

Leave a Reply