Wrth i Kirsty Williams agosáu at garreg filltir bwysig, mae Gareth Evans yn edrych yn ôl ar flwyddyn gyntaf Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ei swydd…
Mae diwrnod yn amser hir mewn gwleidyddiaeth yn ôl y sôn.
Os felly, rhaid bod blwyddyn yn teimlo fel oes i Kirsty Williams.
Wrth i Ysgrifennydd Cabinet Cymru dros Addysg nodi diwedd ei blwyddyn gyntaf yn ei swydd yn hwyrach yn y mis, bydd hi’n adfyfyrio ar gyfnod o weithgarwch gwyllt.
A hithau’n ychwanegiad annisgwyl i brif fwrdd Llywodraeth Cymru, etifeddodd Ms Williams anghenfil o bortffolio y mae ond ychydig, os oes rhai o gwbl, wedi’i feistroli.
Roedd yr her yn sylweddol gyda’i rhagflaenydd, AC blaenorol Merthyr Tudful a Rhymni Huw Lewis, yn gadael digon o blatiau’n dal i droi.
Y mwyaf nodedig o’r rhain efallai oedd ‘Dyfodol Llwyddiannus’ a chynlluniau radical yr Athro Graham Donaldson ar gyfer cwricwlwm cenedlaethol pwrpasol i Gymru.
Bydd yr hyn y mae plant yn ei ddysgu a sut maen nhw’n dysgu yn ystafelloedd dosbarth Cymru yn newid yn ddirfawr yn y blynyddoedd i ddod a rhoddwyd caniatâd i ysgolion, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, prifysgolion a chonsortia rhanbarthol, i’n harwain drwy’r trawsnewid hwnnw.
Nid yn aml y gwelwn ddiwygio tebyg i hyn; mae’i gwmpas yn anferthol a’i ddylanwad yn bellgyrhaeddol.
Ond nid tasg hawdd mo ailwampio cwricwlwm cenedlaethol Cymru ac wrth reswm, cafwyd rhwystrau ar y ffordd.
Fodd bynnag, gwnaeth Ms Williams ei hymrwymiad i ‘Donaldson’ yn eglur yn gynnar iawn yn ei chyfnod wrth y llyw a rhoddodd sicrwydd y byddai gwaith a oedd eisoes ar y gweill yn derbyn cefnogaeth, a bu croeso i hyn gan y gymuned addysg.
Bu parhad hefyd yn yr addewid o ailwampio addysg gychwynnol athrawon (AGA) a diweddaru’r Safonau Addysgu Proffesiynol.
Bydd y ddau’n paratoi’r gweithlu addysg yn well ar gyfer gofynion y 21ain ganrif ac felly nid oedd yn syndod na chafodd yr un o’r ddau fater ei ystyried yn rhywbeth nad oedd ei angen bellach.
Cyhoeddwyd cronfa £36m i leihau maint dosbarthiadau babanod, er gwaethaf y ffaith fod y dystiolaeth i awgrymu bod gwneud hynny’n cael effaith yn amrywiol, ac rydym yn aros am ymgynghoriad ar gynigion i greu un corff cyllido cyffredinol ar gyfer y sectorau coleg a phrifysgol.
Ym maes addysg uwch, ni tharodd mellt ddwywaith i’r Democratiaid Rhyddfrydol, gan fod Ms Williams wedi osgoi dilema a allai fod yn niweidiol ynghylch ffioedd prifysgol.
Talodd ei phlaid yn hallt am dorri addewid ynghylch cost ffioedd dysgu yn yr etholiad cyffredinol diwethaf ond un, ond bu’r penderfyniad i dderbyn y mwyafrif helaeth o argymhellion yr Athro Syr Ian Diamond yn fodd i ddal y ddysgl yn wastad.
Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, roedd gosod grant cynhaliaeth drwy brawf modd yn lle cymhorthdal hael Llywodraeth Cymru i ffioedd dysgu yn gam gweithredu synhwyrol.
Ond nid oedd popeth yn fêl i gyd, ac nid oedd canlyniadau hir-ddisgwyliedig Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) y llynedd yn waith darllen pleserus.
Wedi perfformiad gwael mewn tair set ddilynol o brofion PISA, methodd Cymru â gwneud unrhyw gamau sylweddol i fyny’r tabl cynghrair dylanwadol, gan aros ar waelod pentwr y Deyrnas Gyfunol.
Wrth ymateb, caeodd Ms Williams yr hatsys yn sownd gan gymryd ymagwedd galonogol o ddiffwdan a phwyllog.
Diystyrodd y math o ymateb cyflym, difeddwl oedd wedi bod yn gysylltiedig â pherfformiad gwael yn y profion PISA, gan ymwrthod â’r temtasiwn i rwygo popeth yn ddarnau a dechrau eto.
Wedi’r cwbl, mae ein safle simsan yn hanner gwaelod tabl cynghrair y byd ar gyfer addysg yn ganlyniad i’r sefyllfa dros lawer o flynyddoedd, a byddai wedi bod yn hollol anymarferol disgwyl newid ar raddfa eang yn y cyfnod byr o amser ers yr asesiad diwethaf.
Roedd y modd yr oedd Ms Williams wedi sadio’r llong yn union beth yr oedd ei angen; byddai newid cwrs i gyfeiriad arall wedi dadsefydlogi’r cwbl.
Roedd ail-ddatganiad yr OECD wedi hynny ei bod yn werth parhau ag agenda diwygio arfaethedig Cymru yn arwydd o hyder oedd i’w groesawu, a chyfiawnhaodd benderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet i ddal at yr un cyfeiriad.
Felly, i ryw raddau, trowyd y perygl heibio – ond byddai materion dyrys eraill ar y gorwel.
Yn erbyn cefnlen o gyllidebau’n crebachu, pryderon ynghylch atebolrwydd a llif gyson o newyddion negyddol, efallai nad oedd yn syndod bod canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol cyntaf o’r Gweithlu Addysg yng Nghymru yn dipyn o gymysgedd.
Yn ôl yr arolwg o fwy na 10,000 o ymarferwyr cofrestredig, mae traean o athrawon ysgol yn cynllunio i adael y proffesiwn o fewn tair blynedd a 38.6% ohonynt ddim yn gyfarwydd iawn neu ddim yn gyfarwydd o gwbl â Dyfodol Llwyddiannus.
Cyfeiriodd Ms Williams at fynediad athrawon i ddysgu proffesiynol a’u hyder yn y dulliau o gyflwyno TGCh a’r defnydd ohoni fel materion cadarnhaol a ddeilliai o’r arolwg, ond briwsion prin yn unig oedd y rheini.
Roedd y proffesiwn wedi llefaru ac, ar y cyfan, nid dyna fyddai Ysgrifennydd y Cabinet wedi dymuno’i glywed.
Wedi dweud hynny, nid oes byth amser da i fwrw golwg mor llym dros y sefyllfa ac roedd gwir angen cynnal arfarniad gonest ac agored o realiti gweithio o fewn system ysgolion Cymru.
Ychwanegiad arall at y dirwedd addysg yng Nghymru oedd creu’r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol newydd – ymrwymiad o faniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol sydd â’r potensial i lenwi bwlch sylweddol yn y ddarpariaeth.
I ddechrau mae’r academi’n cael ei chadeirio gan y cyn-Brif Arolygydd Ysgolion Ann Keane, a bydd yn gyfrifol am dynnu rhaglenni arweinyddiaeth cyfredol at ei gilydd dan fframwaith cyffredinol a luniwyd er mwyn cynnal ansawdd a rheoleiddio.
Er mai gwaith sy’n mynd rhagddo yw’r academi, mae trafodaethau gydag ysgolion, prifysgolion a chonsortia addysg rhanbarthol wedi hen ddechrau ac mae’r darlun yn dod yn gliriach.
Drwy gyd-ddigwyddiad, ymddengys fod dyfodol y pedwar corff rhanbarthol sy’n gyfrifol am wella ysgolion yng Nghymru yn sicr, gan fod y bygythiad iddynt wedi’i atal yn gyhoeddus.
Er gwaethaf addewid ei phlaid i’w taflu ar y domen cyn etholiad y Cynulliad y llynedd, ers hynny mae Ms Williams wedi talu teyrnged i’r “cyfraniad cryf i ddeilliannau gwell” gan y consortia a mwy o gydweithio ganddynt â swyddogion.
A dweud y gwir mae cydweithio wedi bod yn rhywfaint o arwyddair yn ystod blwyddyn gyntaf Ms Williams yn ei swydd ac mae hi wedi cymryd gofal i chwalu rhwystrau canfyddedig rhwng ei hadran a’r gweithlu addysg ehangach.
Mae ar Ysgrifennydd y Cabinet eisiau i bob rhanddeiliad rannu arbenigedd a dysgu o arfer gorau, ac ar yr un pryd cymryd perchenogaeth ar ei daith wella ei hun.
Mae diwylliant newydd o gydweithio yn gyffredin ar draws pob agwedd ar ddatblygu polisi ac mae’r dulliau cydweithredol yng nghyswllt diwygio’r cwricwlwm, safonau proffesiynol newydd a hyfforddi athrawon yn brawf bod Llywodraeth Cymru yn fodlon gwrando.
Sail agwedd golegol Ms Williams yw’r safbwynt ein bod oll yn bartneriaid yn y “genhadaeth genedlaethol” i godi safonau.
Mae’r cyfarwyddo wedi’i liniaru ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yn llawer mwy tebygol o symbylu na sarhau.
Ond law yn llaw â chyd-adeiladu daw mwy o gyfrifoldeb; mae’r pwysau i wella ar gymaryddion domestig a rhyngwladol (18 mis yn unig sydd tan y profion PISA nesaf) yn cael ei rannu.
Pwysleisiodd Ms Williams y pwynt yn ystod cynhadledd i benaethiaid uwchradd ym mis Mawrth, pryd meddai: “Dim ond hyn a hyn o weithiau y gallaf i godi yn y siambr a dweud y bydd jam yfory.”
Waeth pa mor barod y mae i dderbyn syniadau newydd na pha mor gydgordiol y mae’n cyflwyno’i neges yn gyhoeddus, mae llawer yn y fantol ac ni fydd PISA yn diflannu.
Yn y tymor byrrach, bydd yn ddiddorol gweld beth ddaw o adolygiad arfaethedig o system atebolrwydd Cymru.
Mae’r pwyslais a osodir ar hyn o bryd ar ddangosydd perfformiad Lefel 2+ TGAU (pum gradd A*-C yn cynnwys Cymraeg neu Saesneg a mathemateg) yn cael ei ystyried yn brif rwystr a rhaid chwilio am gydbwysedd gofalus.
Bydd ffordd effeithiol o dracio cynnydd disgyblion a’r gwerth a ychwanegir gan ysgolion yn haws ei ddweud na’i wneud.
Yn y cyfamser, mae datganoli cyflog ac amodau athrawon yn dod yn nes ac mae cael yr un parch â chydweithwyr dros y ffin yn hanfodol.
‘Draen dawn’ o’n hathrawon gorau a mwyaf disglair i Loegr yw’r peth olaf sydd ei angen arnom wrth i ni gychwyn ar yr hyn sy’n sicr o fod yn gyfnod diffiniol yn hanes addysg yng Nghymru.
Felly gall Ms Williams adfyfyrio ar flwyddyn gyntaf yn llawn digwyddiadau wrth y llyw; cyflawnwyd llawer gan feithrin consensws eang.
Ond hi fyddai’r gyntaf i gyfaddef bod llawer o waith yn aros i’w wneud.
Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio bod Cymru yn mynd i’r afael â mwy nag un ffrynt i gyd ar yr un pryd ac ni fydd newid yn digwydd dros nos.
Felly wrth yrru ein hagenda yn ei flaen, rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn ofalus i beidio â llithro’n ôl i arferion y gorffennol. Byddai gorlwytho’r system a disgwyl gormod yn rhy fuan yn cael effaith wanhaol ac yn peryglu llawer o’r hyn y mae Ms Williams wedi ceisio’i gyflawni.
Mae atgyfnerthu’n hollbwysig dros y 12 mis nesaf, er bod tipyn o droi a throelli’n siŵr o ddigwydd ar y ffordd.
- Gareth Evans yw Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi Addysg yn yr Athrofa Addysg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant