Taflai arolwg diweddar o staff ysgolion oleuni ar yr heriau lawer sy’n wynebu gweithlu addysg Cymru. Mewn cofnod blog hynod o ddiddorol, esbonia Nerys Defis y realiti beunyddiol i athrawon yng Nghymru ac esbonia pam y newidiodd hi’r ystafell ddosbarth am y brifysgol…

 

Am bron i ugain mlynedd treuliais fy mywyd proffesiynol fel athrawes. Roedd yn swydd y dechreuais arni bron ar hap ac un y gwnes ei gadael ar hap yn ogystal, wedi i gyfnod secondiad droi yn gynnig am swydd.

Serch hynny, tyfodd yn swydd oedd yn angerddol bwysig i mi ac roeddwn wrth fy modd gyda heriau fel annog fy nisgyblion i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth, cael gafael ar adnoddau (a gwario ffortiwn fach yn y broses!) a cheisio meddwl am ffyrdd gwreiddiol o gynllunio ac addysgu’r cwricwlwm.

Blwyddyn yn ddiweddarach mae yna bron rhyw deimlad o euogrwydd wrth i mi gydnabod fy mod wedi symud ymlaen o fod yn athrawes ddosbarth. Pam euogrwydd?

Yn rhannol am fy mod wedi gadael proffesiwn yr oeddwn wedi serchu ynddo, er ei fod wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf i fod yn un oedd bron yn amhosib i’w gydbwyso gyda’m bywyd personol.

Yn rhannol am fy mod yn teimlo ’mod i wedi ildio i’r pwysau ac nad wyf bellach ar flaen y gad wrth fod gyda’r plant yn y dosbarth. Ac yn olaf, mae yna deimlad o euogrwydd wrth weld cymaint o athrawon yn straffaglu dan y pwysau ac eto dyma fi yn medru cyfuno’r angerdd a’r wybodaeth sydd gennyf am fyd addysg gydag egni newydd.

Mae newid yn gwneud lles i bawb felly does ryfedd bod newid swydd yn rhoi egni newydd i berson.

Does dim byd yn waeth na mynd i rigol ond, fel athrawes brofiadol ac arweinydd canol nad oedd eisiau dringo’n uwch i fyny’r ysgol tuag at brifathrawiaeth, roeddwn yn teimlo fel petai ymylon rhigol yn codi o’m cwmpas.

Yn flaenorol roeddwn wedi cael nifer o gyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol, yn anffodus roedd rhwystrau ariannol wedi lleihau’r cyfleoedd yn fawr.

Dangosodd fy mhrofiad gyda phrosiectau dyfeisgar dan ofal Coleg King’s Llundain, ac ymchwil gweithredol dan arweinyddiaeth Prifysgol Cymru y Drinodod Dewi Sant, pa mor bwysig oedd deall y datblygiadau diweddaraf o fewn arfer dosbarth a’r effeithiau cadarnhaol ddeuai yn ei sgîl. Rhwystredigaeth a digalondid oedd sylweddoli bod datblygiad proffesiynol o’r fath fel petai ar ben.

Yn ddiddorol, yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Estyn 2015-2016, mae Meilyr Rowlands y Prif Arolygydd yn datgan: “Mae ar arweinwyr addysg angen ffocws cryf ar ddarparu cyfleoedd addas ar gyfer datblygiad proffesiynol staff ar bob lefel i feithrin addysgu a dysgu hyderus a chreadigol.”

Mewn gwirionedd, mae nifer o athrawon yn teimlo bod yna ddiffyg cyfleoedd i ddatblygu yn broffesiynol – 42% o athrawon Cymru yn ôl arlowg Y Cwestiwn Mawr undeb NASUWT yn 2016.

Neges allweddol arall o adroddiad 2015-2016 Estyn yw’r angen i wella addysgu a dysgu, ac mae datblygiad proffesiynol yn chwarae rhan bwysig yn hyn o beth.

Caiff y pwysigrwydd hyn ei adlewyrchu o fewn y fframwaith arolygu newydd ddaw yn weithredol ym mis Medi 2017.

Mae’r naw pwynt ar hugain sydd yn y fframwaith bresennol wedi eu lleihau i bymtheg o fewn y fframwaith newydd, ac o fewn y pwyntiau gwelir pwyslais cliriach ar yr addysgu, y dysgu ac ar ddysgu proffesiynol. Rhywbeth rwy’n siwr caiff ei groesawi gan athrawon ledled Cymru.

Gofid arall gennyf fi o weithio o fewn yr ystafell ddosbarth oedd y bri cynyddol a roddwyd ar ddata a phrofion. Mae athrawon yn gwybod cystal â neb am yr angen i godi safonau, ond roeddwn yn dechrau credu bod yr angen am atebolrwydd yn gwneud i’n system addysg ni anghofio am y plentyn fel unigolyn, yn hytrach na fel rhif.

Safonau academaidd sydd yn cael eu mesur gan brofion – dim ond un rhan o addysg yw hyn. Mae cymaint o dalentau a sgiliau hollbwysig eraill sydd angen cofio eu datblygu, gan gynnwys creadigrwydd, iechyd a lles, ffitrwydd a dinasyddiaeth.

Tybed a yw’r nod o gyrraedd y cwartel uchaf neu band gwyrdd y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion yn dallu arweinwyr byd addysg?

Wedi’r cyfan mae tystiolaeth ymchwil gan arbenigwyr megis yr Athro Jo Boaler, yn dangos yn glir nad yw grwpio a setio plant yn ôl cyrhaeddiad yn codi safonau, a’r gwledydd sydd yn setio a phrofi lleiaf sydd yn gwneud orau mewn profion rhyngwladol megis PISA.

Nid penderfyniad unigryw oedd fy newis i roi’r gorau i fod yn athrawes, yn wir mae ffigyrau Llywodraeth Cymru yn awgrymu ei bod yn broblem gynyddol.

Byddai’n ddiddorol petai’r llywodraeth yn gwneud arolwg o’r gweithlu addysg, gan gynnwys athrawon sydd ar fin neu newydd adael y proffesiwn.

Gallai holi barn yr aelodau hollbwysig hyn o’r gweithlu addysg roi syniadau diddorol a gwerthfawr am sut i lywio polisiau a chodi safonau.

Heb os, bydd athrawon yn chwarae rhan allweddol dros y blynyddoedd nesaf wrth i’r newidiadau ddaw yn sgîl adroddiad Dyfodol Llwyddiannus yr Athro Donaldson ddod i rym, felly beth am holi eu barn?

O fod wedi cyfnewid ystafell ddosbarth yr ysgol am ystafell ddosbarth mewn prifysgol mae’r rhigol roeddwn ynddi wedi ei chwalu. Lle’r oeddwn gynt yn teimlo’n gyfyng o fewn pedair wal y dosbarth mae fy ngorwelion wedi ymestyn yn rhyfeddol. Yn ogystal mae’r swydd wedi rhoi cyfle o’r newydd i mi ddatblygu’n broffesiynol.

Wrth hyfforddi’r myfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd fel athrawon y dyfodol mae cyfle i blethu theori ac arfer a gweld sut y gall ymchwil academaidd, megis gwaith Jo Boaler, fod o fudd i’n plant ni yng Nghymru.

Yn ogystal, mae cael cyfle i ddarllen am y byd addysg yn ehangach wedi rhoi cymaint gwell dealltwriaeth i mi o’r rhesymau tu ôl i ambell un o bolisïau’r llywodraeth a deall pam mae rhai strategaethau addysgu yn cael eu ffafrio dros rai eraill.

Mae hefyd yn braf gweld bod pwyslais pendant ar brofiadau ymarferol o fewn y brifysgol gyda’r myfyrwyr yn cael defnyddio a gwerthuso ystod o adnoddau a strategaethau, cymryd rhan mewn gwaith ymchwil gweithredol a chyd-weithio i gynllunio ac addysgu gwersi.

Mae’n amser cyffrous i fod yn rhan o’r system addysg yng Nghymru. Heb os, nid yw’r system bresennol yn gwbwl effeithiol, ac o’m mhrofiad i mae ysgolion Cymru yn barod i newid ac yn barod i ymroi i godi safonau a rhoi gwell dyfodol i’n plant. Mae gwir botensial yng Nghymru ar gyfer newid pethau er gwell.

Am y tro, rhyw wylio’r datblygiadau o hirbell fyddaf i ond pwy wyr, pan fydd hi’n amser am newid bach arall, efallai y gwelaf fy hun yn camu’n ôl i’r ystafell ddosbarth…

  • Mae Nerys Defis yn ddarlithydd AGA yn yr Athrofa Addysg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Leave a Reply