Mae nifer o ffyrdd o hyfforddi fel athro dosbarth. Yma, mae Dr Alex Southern yn cyflwyno ei hymchwil ei hun yn y maes hwn, ac yn ystyried effaith rhaglenni hyfforddi athrawon pwrpasol ar y proffesiwn ei hun…

 

Mae dysgu yng Nghymru wrthi’n newid. Bu hwn yn broffesiwn deinamig erioed, ond mae lansio ‘Cenhadaeth ein Cenedl‘ Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg yn nodi newid arwyddocaol a bwriadol o ran yr hyn y mae bod yn ‘athro’ yn ei olygu.

Mae’r Genhadaeth yn nodi safonau proffesiynol newydd i athrawon; yn diwygio Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA); a dysgu proffesiynol gydol gyrfa, ar sail ymchwil a chydweithredu yn y sector, ymhlith mentrau eraill sy’n anelu at godi safonau mewn ysgolion. Caiff y newidiadau hyn effaith ar athrawon unigol ac ar y proffesiwn yn ei gyfanrwydd.

Mae ymchwil, academaidd wedi ymchwilio’n aml i’r modd y mae llywodraethau’n ailddiffinio’r system addysg, er mwyn ailddiffinio’r effeithiau ar ysgolion. Yn 2010, disgrifiodd Leaton-Gray a Witty sut mae rheolaeth y llywodraeth ar ysgolion, ac ar yr habitus addysgu, wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Yr hyn a olygwn wrth habitus yw’r gofynion a’r disgwyliadau penodol ar athro sy’n dylanwadu arno/i ac sy’n disgrifio sut y mae’n cyflawni ei rôl. Mae AGA wedi symud mewn ymateb i alwad flaenorol Llywodraeth Glymblaid y DU am ‘broffesiynoli’ y sector.

Bellach ceir rhaglenni ADA sy’n canolbwyntio ar ddatblygu gyrfa raddedig generig, yn hytrach nag ymrwymiad hirdymor i addysgeg. Un o’r rhaglenni hyn yw Teach First sydd, yn ôl yr ymchwilwyr Stanfield a Cremin, yn creu gweithlu addysg dros do o ‘Raddedigion Elit’ sy’n gofalu am eu hunain, heb gyfrannu i ddatblygu’r proffesiwn addysgu yn ei gyfanrwydd, a thrwy hynny yn amharu ar yr habitus.

Dilynodd y gyfres ddogfen deledu, Tough Young Teachers, yn 2014 brofiadau hyfforddeion Teach First mewn ysgolion yn Llundain. Yn y gyfres cyflwynir rhaniadau deuaidd rhwng llwyddiant, a gynrychiolir gan athrawon Teach First, a methiant, a gynrychiolir gan y disgyblion a oedd yn cael ‘trafferthion’ mewn ysgolion ‘difreintiedig’, ac yn y pen draw rhwng y ‘Graddedigion Elit’ dosbarth canol a’u disgyblion dosbarth gweithiol.

Gwelir yr un hollt yn rhai o bapurau poblogaidd Prydain. Cyfeirir yn barhaus at ‘gyfranogwyr’ Teach First yn raddedigion ‘disglair’, ‘o’r radd flaenaf’ o’r ‘prifysgolion gorau’ sy’n ‘gwneud gwahaniaeth’ trwy ‘roi rhywbeth yn ôl’ o dan amgylchiadau ‘heriol’ i ddisgyblion mewn ysgolion ‘difreintiedig’.

Afraid dweud nad yw’r darluniau hyn yn helpu i greu gweithlu sy’n meithrin ac sy’n cefnogi disgyblion, ac nad ydynt yn adlewyrchu gweledigaeth gydweithredol, gynhwysol diwygio a fynegwyd yng Nghenhadaeth ein Cenedl Llywodraeth Cymru. Ond i ba raddau y mae’r portreadau hyn i’w gweld yn ymarferol?

Yn ystod blwyddyn ysgol 2014-2015, cynhaliais ychydig o waith ymchwil i archwilio’r union gwestiwn hwn. Cynhaliais grwpiau ffocws a chyfweliadau â chyfranogwyr ar Teach First Cymru (n=4) a’r Rhaglen Addysgu i Raddedigion (GTP; n=6) yn Y Drindod Dewi Sant i archwilio a oedd yr iaith am Teach First yn y cyfryngau’n benodol i’r rhaglen arbennig honno, ac i ba raddau yr oedd darluniau cyhoeddus o Teach First yn cyfateb i farn a chanfyddiadau detholiad bach o gyfranogwyr yng Nghymru.

Nid yw’r modd y mae’r grŵp hwn o gyfranogwyr Teach First yn disgrifio eu profiadau eu hunain o addysgu yn adlewyrchu yn unig yr hollt rhagorol/heriol, sy’n amlwg yn y sylw a roddwyd i’r rhaglen yn y cyfryngau. Nid oeddent yn gweld, er enghraifft, fod naill ai’r ysgolion neu’r disgyblion yn heriol.

Iddynt hwy, daeth yr her o’u datblygiad eu hunain yn athrawon, megis lles, hyder yn y coridorau, hyrddiadau emosiynol dysgu. Roedd yr heriau a ddisgrifiwyd gan y grŵp GTP yn fwy ymarferol eu natur, ac oddi allan i’r hyfforddeion, megis y llwyth gwaith, neu TGCh.

Roedd strategaethau’r grŵp Teach First ar gyfer goresgyn yr heriau hefyd yn wahanol i’r hyfforddeion GTP. Dywedodd un o gyfranogwyr Teach First wrth ei grŵp mai ‘hunan-arweinyddiaeth’ oedd yr ateb i oresgyn yr her. Daw’r Term o Werthoedd Teach First, a adlewyrchwyd gan y strategaethau a gynigiwyd gan weddill y grŵp.

Er enghraifft, “adfyfyrio”, “gonestrwydd”, a “chymryd cyfrifoldeb”. Mewn cyferbyniad, trafododd y grŵp GTP bwysigrwydd profiad wrth oresgyn yr heriau yr oeddent yn eu hwynebu, a gwerth perthynas dda â chydweithwyr profiadol, i ddysgu’r sgiliau a’r technegau a fyddai’n eu galluogi i ddod yn athrawon effeithiol.

Mae’r ymatebion yn dangos y gwahaniaeth rhwng hunan-ddibyniaeth, a hunaniaeth gorfforaethol, cyfranogwyr Teach First, a’r agwedd fwy cydweithredol  at y broses hyfforddi a ddisgrifiwyd gan y cyfranogwyr GTP yn eu grwpiau ffocws, ac mewn cyfweliadau dilynol.  Er nad yw hyn yn ddigon i ddod i gasgliadau terfynol, mae hyn yn awgrymu bod amrywiadau o ran dealltwriaeth hyfforddeion o’r proffesiwn addysgu, ac yn eu hymarfer.

O ystyried y cynnydd o ran rhaglenni Teach First yn gyffredinol, a chryfder y sylwadau sy’n cylchredeg, byddwn yn dadlau y byddai ymchwil pellach i effaith Teach First ar yr habitus dysgu o fudd i’r proffesiwn.

Yn ogystal, rhaid i’r symudiad presennol i ‘broffesiynoli’ addysgu yng Nghymru, fel y’i mynegir gan Genhadaeth ein Cenedl, gymryd i ystyriaeth brofiad hyfforddeion wrth ymgodymu â’r cysyniad newydd ynghylch proffesiynoldeb, a’r effaith ddilynol ar yr habitus addysgu, felly mae’r hyn a olyga bod yn ‘athro’ yn gysyniad nad yw mynegiannau gwrthgyferbyniol pellach yn amharu arno ymhellach.

Gweler Disrupting the habitus? Media representations and participant experience of Teach First: an exploratory case study in Wales, i weld erthygl lawn am y gwaith ymchwil hwn.

  • Mae Dr Alex Southern yn Gydymaith Ymchwil yn Yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Leave a Reply