Tynnwyd sylw at bwysigrwydd arweinyddiaeth o ran gyrru newid addysgol yng Nghymru yn ei flaen mewn adroddiad newydd gan gynghrair arweiniol o arbenigwyr rhyngwladol.
Yn ei ail adroddiad i’r gymuned addysg, roedd y Comisiwn Addysg Cymru o’r farn bod yr ymgais am arweinyddiaeth systemau effeithiol ar bob lefel o fewn system addysg Cymru “o’r pwysigrwydd mwyaf”.
Mae’r Comisiwn yn dod â meddylwyr addysg o bob cwr o’r byd at ei gilydd, ac ymatebodd i agenda arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru drwy gyflwyno nifer o sylwadau i brocio’r meddwl ynghylch arfer gorau ar draws y byd.
Cliciwch yma: Adrodiad y Comisiwn