Tynnwyd sylw at yr angen i sicrhau ymagwedd fwy cyson at ddysgu proffesiynol y gweithlu addysg mewn adroddiad newydd gan gynghrair arweiniol o arbenigwyr rhyngwladol.
Nodwyd gan Gomisiwn Addysg Cymru, yn ei bedwerydd adroddiad i’r gymuned addysg, yr amrywiaeth eang o gyfleoedd datblygiad athrawon sydd ar gael ar draws Cymru.
Gwahoddwyd y Comisiwn, sy’n dod â meddylwyr addysg o bob cwr o’r byd at ei gilydd, i ymateb i fersiynau datblygol cynnar gan Lywodraeth Cymru o’r Ymagwedd Genedlaethol tuag at Ddysgu Proffesiynol.
Gofynnwyd i aelodau adfyfyrio ar agweddau allweddol y strategaeth ac i ystyried y ffordd orau o weithredu camau’n ymarferol.
Cliciwch yma: Adrodiad y Comisiwn