Amlygwyd mewn adroddiad newydd gan glymblaid arweiniol o arbenigwyr rhyngwladol fod codi proffil addysgu yn hanfodol ar gyfer cefnogi recriwtio a chadw athrawon yng Nghymru.
Yn ei thrydydd adroddiad ar gyfer y gymuned addysg, ystyriodd Yr Athrofa Comisiwn Addysg Cymru fod gwneud addysgu yn fwy deniadol i raddedigion ac ymadawyr ysgol yn hanfodol.
Gwahoddwyd y Comisiwn, sy’n dod â meddylwyr maes addysg o bob rhan o’r byd at ei gilydd, i ymateb i strategaeth addysg hirdymor newydd Llywodraeth Cymru, Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl.
Gofynnwyd i aelodau adfyfyrio ar agweddau allweddol o’r ddogfen ac i ystyried sut orau i roi gweithredoedd ar waith yn ymarferol.
Cliciwch yma: Adrodiad y Comisiwn