Mae Connor Williams yn un o gannoedd o fyfyrwyr sy’n cael eu hyfforddi i fod yn athrawon yng Nghymru. Yma, yn y blog craff hwn, mae’n cyflwyno ei safbwynt unigryw ei hun ar y cyfleoedd a ddarperir gan ‘Dyfodol Llwyddiannus’…

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod ei phryd ar gwricwlwm newydd yng Nghymru; hynny yw, mae wedi deall yr heriau a’r rhwystredigaethau sydd wedi wynebu rhanddeiliaid hyd yn hyn.

Er hynny, os ydym am i’r trawsnewid fod yn llwyddiannus, yna, mae’n hollbwysig ein bod yn deall nad yw cydnabod yr heriau a mynd i’r afael â nhw yn uniongyrchol yn ddigon. Ni allwch drin nifer o glwyfau sydd wedi’u heintio drwy roi plastr ar bob un ohonynt.

Ar hyn o bryd, mae gennym ddysgwyr a’u haddysgwyr yng Nghymru sy’n ymwneud â chwricwlwm nad yw bellach yn ateb y diben – ac er bod gan gwricwlwm diwygiedig lawer o botensial, ceir ochr yn ochr â hwnnw, rywfaint o amwyster.

Er budd ein dysgwyr, fy ngobaith yw y gwnaiff y sawl sy’n hwyluso’r newid hwn, a’r sawl sydd wedi buddsoddi ynddo, ddarganfod pam y mae’n angenrheidiol, gan dynnu ar yr athro, er lles ein cenedl, fel asiant i gyflawni’r pam.

Ym mis Ionawr, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, annerch yn bersonol athrawon y dyfodol yn ystod ei thaith o gwmpas sefydliadau AGA, ac roeddwn yn ffodus i fod yn aelod o’r gynulleidfa.

Wrth rannu ei gweledigaeth gyda’r sawl sydd ar lefel sylfaenol addysgu, disgrifiodd Ysgrifennydd y Cabinet yr hyn y byddwn yn ei wneud fel cenedl o ran ein cwricwlwm newydd, ac esboniodd sut y byddwn yn mynd i’r afael ag ef a’i weithredu.

Ar y cychwyn, roeddwn yn frwdfrydig dros fod yn rhan o’r chwildro hwn, ac mae’r posibilrwydd o gael cwricwlwm gyda newydd wedd yn fy nghyffroi o hyd. Ond ers hynny, sylweddolais nad oedd Ysgrifennydd y Cabinet na’i chydweithwyr chwaith wedi sôn am y rheswm pam.

Y mae tuedd ym myd addysg i athrawon gael eu beichio gan beth y disgwylir iddynt ei wneud a sut y dylent ei gyflawni, ond yr hyn sy’n parhau i fod yn ddirgel yw’r rheswm pam! Mae’r diwylliant o fiwrocratiaeth ac atebolrwydd a geir ym myd addysg Cymru wedi dylanwadu ar y meddylfryd hwn.

Yn fy marn i, tarddiad y meddylfryd hwn yw’r sawl sydd y tu allan i’r ystafell ddosbarth sy’n credu bod arfer diogel ac effeithiol yn dibynnu ar ragor o wybodaeth a data. Gellid dadlau mai’r rhain yw’r grymoedd allweddol sy’n gyrru ac yn dylanwadu ar y penderfyniadau pwysig hynny a gaiff eu gwneud o fewn ein system addysg.

Ond y gwir yw, mae hyn yn creu system addysg sy’n ceisio sicrhau bod pob penderfyniad yn cynhyrchu’r canlyniadau gorau posib o fewn amgylchedd a gaiff ei reoli a’i fonitro’n llym. Ar lefel ysgol, golyga hyn ein bod yn addysgu cwricwlwm penodedig, yn monitro’r dysgu sy’n dilyn yn sgil y cwricwlwm hwnnw, yn gosod profion ac yna yn ceisio rhagweld llwyddiant y plentyn i’r dyfodol ar sail i ba raddau y mae’r plentyn hwnnw yn cydymffurfio ac yn ailadrodd gwybodaeth unigolion eraill.

Y rheswm cyffredinol a roddir am yr ymagwedd hon yw er mwyn ein bod ni’n gallu penderfynu ar beth y dylai plant ei wneud, neu sut y dylent ymddwyn ar gyfer cydymffurfio â chwricwlwm sydd, yn fy marn i, yn un goroedol – dyna beth yw gwneud cam â’n plant!

‘Mae amcan cyffredinol ‘Cenhadaeth ein Cenedl’ yn syml, yn glir ac, yn hollbwysig, mae’n uchelgeisiol. Gyda’n gilydd gwnawn godi safonau, lleihau’r bwlch mewn cyrhaeddiad a chyflwyno system addysgu sy’n destun balchder a hyder i ni fel gwlad.’

Dyna sut dechreuodd Ysgrifennydd y Cabinet ei hanerchiad ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Er, fel y soniwyd eisoes, mae’r disgwyliadau hyn yn ymwneud â beth y gwnawn fel cenedl a sut y gwnawn fynd ati.

Y broblem, hyd y gwelaf, yw hyn: er i ni wynebu sefyllfaoedd o’r blaen gyda’r wybodaeth gywir ac arweiniad da ar gyfer dylanwadu ar newid, hyd yn oed wedyn, nid aeth pethau bob amser yn dda. Neu, roedd yr effaith yn fyrhoedlog oherwydd digwyddodd rhywbeth annisgwyl; ‘pêl dro’ fel petai.

Peidiwch â’m camddeall, cytunaf fod y disgwyliadau a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yn bwysig o ran penderfynu ar beth y gwnawn yn y dyfodol. Ond yn fy marn i, gwnaeth yr anerchiad ailadrodd hen nodau nad oeddent yn newydd i addysg yng Nghymru.

Er enghraifft, yn 1999, gosodwyd gan y Llywodraeth Cymru a oedd wrth y llyw bryd hynny darged i ddileu tlodi plant erbyn 2020. Er gwaethaf hynny, yn ôl Achub y Plant, mae bron un plentyn o dri yng Nghymru yn parhau i fyw mewn tlodi.

Yn darged uchelgeisiol?, ydy; yn darged cyraeddadwy?, yn bendant! Er hynny, ar hyn o bryd, mae gennym dipyn o ffordd i fynd os ydym am gyrraedd y nod hwnnw.

Ar hyn o bryd, mae ein system addysg yn alinio â pham y gorffennol; yn llwyddiannus unwaith, ond erbyn hyn, nid yw’n ateb y diben. Nid oes sôn am pam sy’n datseinio ar gyfer y dyfodol.

Am hynny, gwnaeth clywed Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu’r enghraifft o arwyddair ysbyty Great Ormond Street yn ystod ei hanerchiad, sef ‘the child first and always’ – achosi i mi eistedd yn syth i fyny yn fy sedd.

Mae ysbyty Great Ormond Street yn gwneud ei pam yn glir, a dyna oedd sylfaen ei lafur am y 160 o flynyddoedd diwethaf. Sylweddolodd ei sylfaenydd, Doctor Charles West, fod angen gwahanol ofal ar blant o gymharu ag oedolion; a dyna PAM y gwnaeth ef sefydlu’r ysbyty.

Wrth adeiladu ar sylfaen gadarn pam, gwnaeth y sut a’r beth ddilyn, ac erbyn heddiw, mae’r ysbyty yn ganolfan rhagoriaeth ryngwladol ar gyfer gofal pediatrig.

Yn yr ysbyty, daw gweithwyr proffesiynol a’r meddyliau mwyaf disglair at ei gilydd, gan wynebu’r afiechydon mwyaf cymhleth ac arloesi datblygiadau meddygol. Meddyliwch am hyn, oni bai bod Doctor West wedi sefydlu ac adeiladu’r ysbyty ar y pam, ond yn hytrach, wedi canolbwyntio ar y beth a’r sut, tybed a fyddai Great Ormond Street wedi bod yn wahanol i unrhyw ysbyty cyffredin arall?

Mae’r syniad bod gan ein system addysg y gallu bellach i gyfeiriadu ei hun a mabwysiadu cred sydd union yr un peth â chred ysbyty Great Ormond Street, lle mai’r weledigaeth the child first and always, yw’r rheswm pam, a lle caiff yr hyn yr ydym yn ei wneud ei gynllunio o gwmpas y plentyn, ac er lles y plentyn, yn fy nghyffroi. Mae’n llawn bryd!

Ar hyn o bryd, mae ein system addysg wedi ei datgymalu gymaint oddi wrth ei hamcan, sef gwasanaethu yn gyfannol ac ychwanegu at werth y plentyn, nes iddi droi yn system ddosbarthu, wedi ei chwmpasu gan fiwrocratiaeth a phwrpas ansicr.

Ers 1998, mae ein Llywodraethau sydd mewn grym wedi dod yn arbenigwyr mewn rhoi rhannau newydd mewn hen beiriant. Hynny yw, peiriant a allai gynhyrchu plant ar gyfer dyfodol rhagweladwy, ar gyfer gyrfaoedd ym myd diwydiant, neu ar gyfer swyddi rhagweladwy.

Peiriant a allai ddarparu ffordd hawdd o fesur llwyddiant seiliedig ar feddylfryd llwyddo neu fethu, sy’n hyrwyddo cydymffurfio yn hytrach nag arloesi, a pherffeithrwydd yn hytrach nag ymdrech. Yn y bôn, gwyddai’r system a’i phobl beth y dylid ei wneud a sut i’w wneud, ond doedd dim sôn am y rheswm pam.

Ond ymddengys un peth yn sicr – mae’r weledigaeth a rennir gan y wlad bellach am ddigomisiynu’r peiriant hwnnw. Fel cenedl, rydym wedi dechrau nodi’r pam.

Hynny yw, pam y mae angen diwygio arnom? Pam y mae angen arnom system sydd wedi’i hadeiladu o gwmpas y plentyn?

Er hynny, ymddengys bod yr ymagwedd y gwnawn ei defnyddio i weithredu’r weledigaeth newydd yn canolbwyntio ar y beth yn hytrach nag ar y pam.

Yng ngoleuni hyn, digwydda arloesi rhagorol; un ymagwedd sy’n haeddu clod yw sefydlu’r ‘ysgolion arloesol’ a’r grwpiau llywio meysydd dysgu a phrofiad – ac mae pob un ohonynt yn dasg anodd.

Eu her yw datgymalu peiriant sy’n parhau i gael ei ddefnyddio, un y cânt eu harolygu a’u hystyried yn atebol o hyd yn ei erbyn, am ei fod yn un sy’n “hawdd ei ddefnyddio” ar gyfer mesur yr hyn a ystyriwyd unwaith yn ddysgu llwyddiannus; peiriant a allai godi braw yn hawdd a’ch cyfrif yn atebol.

Mewn oes a fu, cynlluniwyd hwn ar gyfer cynhyrchu mewn plant nodweddion dymunol a oedd yn cydweddu â ‘brîff’, gan or-feithrin y plentyn unigol. Bellach, yr her ar gyfer yr ysgolion a’r grwpiau llywio hyn yw cynllunio alldaith yn hytrach na pheiriant.

Alldaith sydd ganddi nifer o fannau aros a chyfleoedd niferus i archwilio, un sy’n ysbrydoli a gwahodd pob plentyn i’w phrofi. Dyna syniad cyffrous a hardd!

I feddwl bod gan y sawl sy’n gwybod orau, sef yr athrawon, yr awdurdod i arwain a datblygu’r newid; a chynllunio siwrne addysgol, am mai nhw sy’n gwybod pam y mae angen hyn ar ein plant.

Mae mor gyffrous gwybod bod hyn yn digwydd; mae ysgolion arloesol a grwpiau meysydd dysgu a phrofiad yn gwneud cynnydd sylweddol o ran arloesi a diwygio’r cwricwlwm.

Er hynny, yr hyn sy’n rhwystro eu cynnydd yw’r disgwyl i greu ‘sut’ a ‘beth’ safonol ar gyfer pawb. Ond yn anffodus, dyna yw rhagosodiad y paradeim ac, fel y soniais, pan fo’r sut a’r beth yn ganolbwynt i unrhyw newid, strategaeth sy’n hyrwyddo cyfranogiad a chydymffurfio gan athrawon, yn hytrach na chreadigedd ac ysbrydoliaeth yw’r canlyniad.

Mae gweithredu safon a rennir y bydd rhaid i’r genedl gydymffurfio â hi wedi ein rhoi yn y sefyllfa anodd hon; fel y gwyddoch, nid oes dwy ysgol yng Nghymru union yr un peth, ac mae angen ymagwedd bwrpasol ar bob un ohonynt, yn hytrach nag un ymagwedd safonol.

Hoffwn rannu enghraifft o rym yr ymagwedd hon gyda chi, hynny yw, rhoi athrawon wrth galon y proffesiwn i arloesi’r ffordd y dylem ei chymryd.

Yn 1971, daeth Southwest Airlines yn enwog am greu’r ‘10 minute turnaround’; y broses o wacau’r awyren, ei pharatoi a rhoi’r teithwyr a’u bagiau arni o fewn 10 munud. Dyna gamp!

Ond, beth nad ydych efallai yn ei hystyried yw’r ffaith y cafodd y broses hon ei datblygu yn ystod cyfnod anodd. Roedd cyllidebau’r cwmni hedfan yn lleihau, ac roedd angen gwerthu un o’i bedair awyren arno er mwyn parhau i fod yn gwmni hedfan proffidiol.

Roedd y cwmni hedfan bellach yn dibynnu ar dair awyren i gadw at amserlen yr oedd arni, fel arfer, angen pedair awyren, ac felly roedd ganddo ddau ddewis: gallai Southwest naill ai leihau’r nifer o hedfaniadau, neu ymdrechu i baratoi eu hawyrennau mewn 10 munud.

Gallech ofyn – pwy oedd yn gyfrifol am yr arloesi hwn? – a’r ateb i’r cwestiwn hwnnw yw’r gweithwyr: sef y peilotiaid, y porthorion, y cynorthwywyr hedfan a’r llwythwyr bagiau – roedd pob un ohonynt yn haeddu diolch.

Erbyn heddiw, mae Southwest yn cymryd 25 munud i baratoi eu hawyrennau. Ond pe baent yn caniatáu pum munud yn fwy ar gyfer yr un amserlen hedfan, byddai angen 18 awyren arall arnynt, a byddai hynny’n costio bron biliwn o ddoleri.

Yr hyn yr wyf am ei gyfleu yw’r ffaith bod cwmni Southwest Airlines, er mwyn datrys y broblem, wedi troi at ei weithwyr, oherwydd nhw oedd yn gwybod orau; gwnaeth y cwmni ymddiried yn ei weithwyr, ac ni wnaethant ei siomi.

Gallech hefyd ofyn pam wnaeth a sut gwnaeth y gweithwyr yr hyn y gwnaethant. Mae’n bosib na fydd yr ateb yn eich synnu – gwnaethant hyn oherwydd roeddent am ei wneud.

Fel cwmni, mae Southwest yn gofalu am ei weithwyr ac yn parchu eu barn, ac mae’r cwmni yn gwybod, pe bai e’n gwneud hyn, byddai safon y gofalu am ei gwsmeriaid bob amser o’r radd uchaf.

Mae’n bosib eich bod yn gallu gweld yn barod y cyswllt yr wyf yn arwain ato ar sail yr enghraifft hon. Mae eisoes gennym reswm i addasu, ac mae ein pam yn datblygu’n araf bach, ond gallwch hefyd fod yn hollol sicr, pe baech yn ymddiried ynddynt, gwnaiff y sawl sydd wrth galon y proffesiwn ddarganfod beth sydd angen i ni ei wneud a sut y dylem fynd ati.

Hoffwn ddod â’r cyfan i ben gyda’r enghraifft olaf hon. A ydych chi erioed wedi hedfan gyda Southwest Airlines?

Yn 2015, hedfanais o Denver, Colorado i Sacramento, California gyda thri chyfaill. Wrth i mi ymgartrefu yn fy sedd yng nghefn yr awyren, estynnais am y cerdyn diogelwch ar gyfer hedfan a dechreuais ei ddarllen.

Dyma beth yr ydym yn ei wneud ym myd addysg, a dyna beth y cawn ein hannog i’w wneud – darllen y polisi a pharatoi ein hunain i ddilyn y cyfarwyddiadau.

Wrth i mi ddechrau darllen y cerdyn gwybodaeth ar gyfer y Boeing 737, daeth llais ysgytiedig o’r tu cefn, gan ofyn: “Pam ydych chi’n darllen hwnna? Does neb yn cymryd sylw ar gardiau diogelwch, felly rhowch ef i lawr! Rydych wedi fy ngwneud yn nerfus ynglŷn â hedfan, ddyn!”

Daeth gwên i’m gwefus wrth i mi droi er mwyn gweld pwy a wnaeth ddweud y math beth, a chefais fy synnu wrth ystyried mai’r cynorthwyydd hedfan oedd yn gyfrifol amdano.

Byddech yn gwybod, os ydych wedi hedfan o’r blaen, na fyddai cwmni hedfan safonol yn dioddef ei staff i wneud sylwadau fel hyn.

Ond wedi dweud hynny, nid yw Southwest yn gwmni hedfan safonol. A dweud y gwir, yn ei bencadlys yn Dallas, Texas, y mae bwrdd arddangos sy’n rhannu ac yn dathlu’r sylwadau paradocsaidd gorau y mae’r cynorthwywyr hedfan wedi eu dweud wrth deithwyr dros y blynyddoedd.

Yr hyn a allai hefyd eich synnu yw’r ffaith bod swyddogion cwmni hedfan Southwest yn hyrwyddo’r math ymddygiad, oherwydd maent yn ymddiried yn ei staff, ac maent yn hyderus bod y staff yn gofalu am eu teithwyr. A wyddoch chi beth? – mae’n gweithio!

Fel teithiwr, roeddwn yn gwybod bod y cynorthwyydd hedfan wedi derbyn hyfforddiant o safon uchel, a byddai’n mynd ati ar unwaith pe bai rhywbeth o’i le yn digwydd ar yr awyren honno, ond roedd y ffaith ei fod yn gallu ymddwyn fel hyn wedi ennyn fy niddordeb.

Roedd y bachan yn mwynhau ei waith, ac roedd hynny’n dangos, ond oherwydd yr hyn a ddigwyddodd ar yr awyren honno, bob amser yr wyf wedi bod i’r Union Daleithiau ers hynny, rwyf wedi ceisio hedfan gyda chwmni Southwest, ac mae fy ffrindiau hefyd yn dangos yr un ffyddlondeb at y cwmni hedfan hwnnw.

Fy mhwynt i yw hyn, mae gan bolisi caeth bwrpas o fewn sefydliad, ond er hynny, efallai bod yr elfen ddynol yn fwy pwysig – mae’n ychwanegu gwerth ychwanegol a chanddi hi y mae’r effaith fwyaf.

Ym myd addysg, ceir cyd-gymuned ecolegol o athrawon sydd ganddynt symbyliad, profiad a dealltwriaeth o’r pam; gyda’r fendith o ddiwygio’r cwricwlwm yng Nghymru, dewch i ni beidio â gwneud yr un camgymeriad eto a gadael polisi ein rheoli.

Y tro hwn, peidiwch â rhoi pwysau ar neb i gydymffurfio â model safonol, oherwydd credaf ein bod yn ffodus i gael y cyfle, oherwydd ‘Dyfodol Llwyddiannus’, i herio’r status quo, i fod yn rhydd wrth i ni addysgu, i fod yn unigolion – yn hytrach na chlonau, a bod pobl yn ymddiried ynom.

Pe baem yn parhau i wneud yr un peth, pam ddylem ni ddisgwyl felly i’r canlyniad newid neu ein synnu?

Ond dyna beth sy’n digwydd os yw dyn yn dilyn polisi a chyfarwyddiadau caeth. Faint o weithiau ydych chi wedi hedfan gyda’r un cwmni a chael gwên ffug, eich rhoi mewn sedd a’ch gwneud i wrando ar yr un brîff ddiogelwch, cyn profi’r un siwrne ddiflas?

O’m safbwynt i, y mae angen i ni ymdrechu ar gyfer cael system addysg yng Nghymru sy’n rhannu gwerthoedd ac sy’n parchu ei staff mewn ffordd debyg i’r hyn sy’n digwydd yng nghwmni hedfan Southwest, o’i gymharu â chwmni hedfan safonol.

Yn fy marn i, y mae hedfan gyda chwmni hedfan mwy traddodiadol yn debyg i fod yn rhanddeiliad  mewn addysg yng Nghymru – mae unffurfiaeth yn hanfodol, rhaid i’r staff gwneud yr hyn y gofynnir iddynt ei wneud oherwydd dyna beth yw’r disgwyl, a disgwylir i’r plant ddilyn trefn gaeth er mwyn cyrraedd diwedd eu taith ‘yn ddiogel’.

Ar y llaw arall, nid oes rhaid i bethau fod fel hyn; os mai’r ffocws ar draws Cymru yw’r weledigaeth sy’n canolbwyntio ar y pam, yn hytrach nag ar y beth neu’r sut, yna gallwch fod yn hollol sicr y gwnaiff yr athrawon gyflwyno’r beth a’r sut  llawn hwyl, effeithiol a hirbarhaol mewn ffyrdd ystyrlon.

Bydd gan y cyfuniad hwn y potensial i fod yn hudol ac yn hirbarhaol, gan alluogi pawb sydd ym myd addysg ei gofleidio a’i fwynhau, yn hytrach na’i oroesi yn unig.

  • Mae Connor Williams yn fyfyriwr ar ei drydedd flwyddyn yn Yr Athrofa, ac yn astudio ar y rhaglen BA Addysg Gynradd gyda SAC

Leave a Reply