Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd gan ein hysgolion rôl fawr i chwarae wrth anelu at hyn. Aeth myfyrwyr Uwchradd TAR Cymraeg i Eisteddfod yr Urdd ym Mhen-y-bont i weld os oedd disgyblion yn elwa o Gymreictod yr ŵyl…

 

Wrth arsylwi gwers Gymraeg Ail Iaith mewn ysgol Uwchradd yn ddiweddar, gofynnais i ddisgybl beth oedd yr athrawes yn ei wneud i’w helpu i ddysgu.

Max (nid ei enw iawn): “Miss is good. She speaks a lorra Welsh.”

Fi: “How is that good? Beth sy’n dda am hynny?”

Max: “Well, I don’t hear a lorra Welsh. It’s a dead language innit. Like Latin.”

Dwi’n gwybod mai ymateb un disgybl oedd hwn. Ddylen ni ddim gorddadansoddi sylw un disgybl 12 oed. Ond, roedd y cyfan wedi gwneud i fi feddwl faint o Gymraeg mae disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yng Nghymru yn ei weld a’i glywed.

Ai rôl teuluoedd, ysgolion neu’r llywodraeth yw rhoi mwy o gyfleoedd iddyn nhw sylweddoli bod y Gymraeg yn iaith fyw?

Yn ôl cyfrifiad 2011, mae 19% o boblogaeth Cymru dros 3 oed yn gallu siarad Cymraeg, 562,016 o bobl. Mae hynny tua’r un faint â holl boblogaeth siroedd Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro… a thref Castell-nedd.

Mae digon o dystiolaeth yn ein cymunedau ni bod y Gymraeg yn iaith fyw ond mae’n amlwg yn fwy o her i argyhoeddi disgyblion mewn ardaloedd llai ‘Cymreig’ ein bod ni yn byw mewn gwlad naturiol ddwyieithog.

A yw’r Urdd yn cynnig cyfle da i ddisgyblion weld bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio yn gymdeithasol?

Sefydlwyd mudiad yr Urdd yn 1922 i sicrhau cyfle, trwy gyfrwng y Gymraeg, i holl ieuenctid Cymru (rhwng 8 a 25) ddatblygu’n unigolion cyflawn. Mae’r Eisteddfod yn ŵyl flynyddol sy’n rhoi cyfle i ddisgyblion ysgol gystadlu trwy ganu, dawnsio, actio a llefaru.

Mae’r Eisteddfod yn para am wythnos ac mae nifer o’r ymwelwyr yn elwa o grwydro’r maes, ymweld â stondinau neu sgwrsio gyda hen ffrindiau. Roedd stondin PCYDDS yn denu nifer eleni gyda sialens y seiclon yn adloniant i’r rhai oedd yn cymryd rhan a’r rhai oedd yn gwylio!

Profodd darpar athrawon Cymraeg ddiwrnod yn yr Eisteddfod ym Mhen-y-bont eleni. Sut fydden nhw yn ymateb i’r profiad fel darpar athrawon?

Teithiodd Owain Gordon ar y bws gyda disgyblion ei ysgol Uwchradd gan adael cartref am 4:30yb.

“Er i mi dreulio tua deuddeg awr yno, doedd dim digon o amser i weld hanner y pethau oedd yn mynd ymlaen yno! Roedd y disgyblion wedi cyrraedd y llwyfan yn y gân actol, yn falch iawn o ennill y drydedd wobr, ac wrth eu boddau o fod ar y teledu.”

Sylweddolodd Kameron Harrhy bod yr Eisteddfod: “Yn rhoi’r cyfle perffaith i ddisgyblion, athrawon a Chymry o bob cwr o’r wlad, i fwynhau diwylliant Cymru. Roedd hi’n brofiad tra gwahanol eleni o ymweld â’r Eisteddfod heb gystadlu, a gweld y cyfan o bersbectif athro.”

Yn ôl Jade Stone: “Roedd yn gyfle gwych i gael ein trochi yn yr iaith Gymraeg. Roedd hi mor braf i weld disgyblion yn cofleidio iaith a threftadaeth Cymru. Roedd teimlad cryf o falchder yn y Gymraeg.”

Mae Ffion Williams wedi cystadlu yn gyson mewn Eisteddfodau ers yn blentyn ifanc: “Mae’r profiad o fynychu Eisteddfod yr Urdd yn un emosiynol flinedig. Mae’r profiad wedi agor fy llygaid i gymaint o waith mae athrawon yn ei wneud i gefnogi disgyblion i lwyddo.”

Eleni oedd y tro cyntaf i Rebecca Morgan fynd i Eisteddfod yr Urdd. Yn ddisgybl ysgol, astudiodd y Gymraeg fel ail iaith. Erbyn hyn mae’n hyfforddi i fod yn athrawes Gymraeg Ail Iaith.

“Fel siaradwr ail iaith, roedd hi’n rhyfeddol faint o gyfleoedd oedd i siarad Cymraeg o gwmpas y ‘maes’, o brynu tocynnau i archebu bwyd. Hoffwn i annog fy nisgyblion i fynychu Eisteddfod yr Urdd, am sawl rheswm.

“Mae’n gyfle ardderchog i gystadlu a datblygu mewn nifer o feysydd, fel canu, dawnsio a llefaru. Hefyd, dylai plant brofi sefyllfaoedd lle maen nhw’n gallu ymarfer siarad Cymraeg, ac yn fy marn i, y ‘maes’ yw’r lle perffaith.”

Darpar athrawes Gymraeg Ail Iaith yw Shauna Dummett hefyd. Fel Rebecca, profiad o’r Gymraeg fel ail iaith sydd ganddi.

“Byddai’n werthfawr iawn i’r disgyblion weld y cyfleoedd sydd ar gael trwy’r Gymraeg, a hefyd gweld pa mor bwysig yw dathlu ein diwylliant a’n hunaniaeth fel Cymry, gan fwynhau ar yr un pryd wrth gwrs!

“Byddai o fudd mawr i ddisgyblion ail iaith weld sut mae pobl go iawn yn byw trwy’r Gymraeg ac rwy’n credu byddai hyn wir yn eu hannog i ddysgu a defnyddio’n hiaith.”

Gal ymwelwyr cyson â’r Eisteddfod dreulio’r dydd yn cymdeithasu gyda ffrindiau neu deulu. Mae’n her croesi’r maes heb stopio am sgyrsiau niferus. Mae’n awyrgylch cymdeithasol lle mae plant ac oedolion yn mwynhau. Mae’n wyl lle mae’r Cymry Cymraeg yn y mwyafrif.

Mae trefnwyr yr Eisteddfod yn ymfalchïo yn yr ethos Gymraeg. Cymraeg yn unig sydd i’w glywed ar y llwyfan, mae’r stondinau fwy neu lai yn uniaith Gymraeg.

Gall dysgwyr elwa’n fawr o weld a chlywed y Gymraeg yn cael ei dathlu gyda chymaint o hyder. Mae athrawon y dyfodol o Brifysgol y Drindod Dewi Sant yn barod i fanteisio ar y cyfleoedd hyn.

Byddwn i wrth fy modd yn mynd â Max am ddiwrnod i’r Urdd…

  • Mae Aled Williams yn hyfforddi athrawon Cymraeg Uwchradd yn yr Athrofa Addysg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Leave a Reply