Mae’r cynllun ar gyfer cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru bron â’i gwblhau, a gyda hynny’r gobaith am gyfnod cyffrous newydd i system addysg y genedl. Yma, yn y blogiad cyntaf o ddau, mae Ty Golding yn archwilio’r heriau a’r cyfleoedd a gyflwynir gan y dull arloesol newydd o ddarparu addysg yng Nghymru…
Mae’n 2020 a bellach mae gennym olwg glir ar ddydd Mawrth, 28 Ionawr a chyhoeddi ein cwricwlwm newydd – Cwricwlwm i Gymru. Yn fy mhrofiad i, mae’r dirwedd addysg ehangach a welwn yn ymddangos o flaen ein llygaid, yma yng Nghymru, yn un a luniwyd ac a ffurfiwyd i raddau helaeth gan rifau.
Rhai o’r rhifau amlwg yw’r pum mlynedd a gymerodd i’w greu gyda miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad, miloedd o ymarferwyr, cannoedd o randdeiliaid ehangach, llu o academyddion, dwsinau o sefydliadau addysg, amrediad o arweinyddion polisi, nifer o staff wedi eu secondio o ysgolion, pedwar diben a, gellid dadlau, tri gweinidog addysg a dwy flynedd ar ôl i baratoi. Fodd bynnag, mae nifer o gwestiynau heb eu hateb o hyd.
Beth fydd lluoswm yr holl rifau hynny? Fydd y lluoswm terfynol yn ddigon i fodloni uchelgais, ac yn bwysicach, anghenion ein system addysg genedlaethol? Gaiff y proffesiwn gymorth i ddeall algorithm y cwricwlwm newydd ac yn bwysicach, fyddan nhw’n barod i’w wireddu? Dewch i ni ystyried pob un o’r rhain yn ei dro.
Beth fydd lluoswm yr holl rifau hynny?
Bydd y rhifau hynny’n darparu mwy na chwricwlwm, does dim dwywaith am hynny. I’r rhai cadarnhaol ac optimistaidd yn ein plith, mae’r diwygiad hwn yn gyfle i sicrhau y bydd y buddsoddiad enfawr o ran egni, deall ac arian, yn fwy o lawer na chyfanswm y rhannau. Efallai mai’r cwricwlwm yw’r lens y bydd y rhan fwyaf o’m cydathrawon yn dewis gwylio sbectrwm y diwygio trwyddo ond nid hwn yw’r unig lens.
Yn debyg iawn i jig-so, ni fydd anferthedd a photensial y diwygiad hwn yn amlwg ond pan fyddwn yn peidio â chanolbwyntio ar y darnau unigol a’r manion, ac yn camu nôl i weld y cysylltiad a chydberthynas y rhannau sy’n ganolog iddo.
Mae elfennau mwyaf nodedig y diwygiad yn cwmpasu cyfnod amser sylweddol, a’i ganghennau’n lledu ymhell ar draws system addysg Cymru, gan ddechrau yn 2016 gyda dyfodiad y Fframwaith Cymhwysedd Digidol (FfCD).
Ers hynny, rydym wedi gweld gweledigaeth genedlaethol yn cael ei mynegi yn 2017 gydag Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl, dyfodiad ‘safonau proffesiynol’ diwygiedig, y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd, y Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol (a’r tri olaf yn dod yn 2018) a fersiwn ddrafft o’r cwricwlwm ym mis Ebrill 2019.
Mae’r Trefniadau Gwerthuso a Gwella a ail-ddychmygwyd gennym yn parhau i fod dros y gorwel. Gobeithio, yr unig beth sy’n gyffredin rhyngddynt a’u hynt, a’r ddrama gan Eugene O’Neill o’r un enw, yw eu natur wibiog ar hyn o bryd.
Fydd y lluoswm terfynol yn ddigon i fodloni uchelgais, ac yn bwysicach, anghenion ein system addysg genedlaethol?
Yn fy marn i, trwy gip cynnar ar y cwricwlwm, sylwebaeth gyhoeddus a’r adborth swyddogol roedd hi’n hawdd gweld bod risg o hyd a oedd yn codi dro ar ôl tro, ac a fu’n bresennol gydol y broses.
Y risg yw y bydd angen bod gan y proffesiwn, a’r rhai sydd â diddordeb ehangach mewn addysg, ddealltwriaeth a gwybodaeth drylwyr am y cwricwlwm er mwyn gallu, a hyd yn oed dymuno gweithredu’r cwricwlwm hwn yn llwyddiannus. Mae angen o hyd archwilio, trafod ystyr llwyddiant yn llawn a chytuno arno – ac mae hynny’n fwy heriol fyth oherwydd maint y rhanddeiliaid y mae eu hagendâu’n aml yn gwrthdaro.
Nid credu yw gweld bob tro. Mae gen i nifer o brofiadau personol ac rwy wedi gwrando ar straeon di-ben-draw gan gydweithwyr sy’n dangos bod cydweithwyr, nid yn unig heb unrhyw ffydd yng ngallu ein cwricwlwm newydd i symud dysgu ac addysgu ymlaen, ond hefyd yn parhau i gredu, mewn gwirionedd, na fydd neu na ddylai byth ‘ddigwydd’!
Mae barn wrthgyferbyniol, herio a thrafodaeth ddeallus yn rhan o broses iach o gyfarwyddo, gwerthuso a gwella – h.y. newid. Fodd bynnag, mae’n arswydus meddwl mai hon yw barn, er i raddau amrywiol, rhai sydd agosaf at y gwaith o’i ddatblygu ac y mae’r cyfrifoldeb o sicrhau ei lwyddiant wedi ei ymddiried iddyn nhw.
Gaiff y proffesiwn gymorth i ddeall algorithm y cwricwlwm newydd ac yn bwysicach, fyddan nhw’n barod i’w wireddu?
Mae agweddau ar ddiwygiad addysg Cymru, yn fwy ac yn fwy, yn cael sylw disgwrs proffesiynol cenedlaethol sy’n araf aeddfedu ond nid oes un yn cael mwy o sylw na’n cwricwlwm. Nid yw’r cyfryngau cymdeithasol, y wasg a chynigion ymgynghorwyr preifat yn cefnogi’r camau i’n gwneud yn barod bob tro.
Yn aml yr hyn y maen nhw’n ei wneud yw rhoi golwg hawdd ar ddau beth. Yn gyntaf, diffyg dyfnder o ran yr amser ymgysylltu a meddwl sydd ei angen i ddeall y cwricwlwm yn iawn ac yn ail canlyniadau di-fudd a achosir yn aml trwy borthi trafodaeth sydd wedi ei phegynnu’n ddiangen. Yr hyn nad yw’r rhain yn ei wneud yw helpu i hoelio ein sylw ar y dysgu proffesiynol y mae ei angen ar bawb.
Er yr holl gynllunio, y trafod a’r datblygiad yr ydw i wedi eu cael ar lefel genedlaethol ac ar lefel ysgol, ac ar ôl ceisio mynegi fy syniadau ynghylch y tri chwestiwn uchod, mae’n rhaid i mi ofyn tri chwestiwn pellach. Dyna yr ydw i am fynd i’r afael ag e yn ail ran y blogiad hwn:
1. Beth a olygir wrth gwricwlwm?
2. Beth yw Cwricwlwm i Gymru?
3. Sut y byddwn ni’n symud o wybod am i wybod sut i wneud?
Er mwyn sicrhau bod y gweithlu’n barod i wireddu’r cwricwlwm, bydd angen dealltwriaeth gyffredin o sut rydyn ni yng Nghymru yn gyntaf wedi archwilio, ac wedyn trafod ac yn y pendraw gweithredu ar yr atebion i’r union gwestiynau hynny. Dim ond trwy wneud hyn y gallwn gael eglurder a chymryd camau priodol.
Os diwygiad a luniwyd gan rifau yw hwn mewn gwirionedd, wiw i ni esgeuluso’r rhif pwysicaf oll – y rhif un. Rydym yn byw ac yn gweithio mewn system ryfeddol o amrywiol, cymhleth a chynnil ond rydyn ni’n un genedl, mae angen i ni gael un weledigaeth a dim ond un cyfle a gawn ni i ddarparu addysg i blant ar gyfer eu hunig ddyfodol.
- Ty Golding yw Pennaeth Ysgol y Ddraig, ym Mro Morgannwg, ac mae’n fyfyriwr ar raglen Doethuriaeth mewn Addysg Yr Athrofa