Mae arbenigwyr iaith o Gymru a thramor yn dod at ei gilydd yng Nghaerfyrddin fis nesaf i drafod manteision amlieithrwydd.

Mae Athrofa Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnal cynhadledd ar y thema ‘Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu’ ar y 6ed a 7fed o Ebrill.

Gan ystyried Dyfodol Llwyddiannus a’r cynlluniau i weddnewid y cwricwlwm cenedlaethol, bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar un o chwe Maes Dysgu a Phrofiad yr Athro Graham Donladson, ac ymhlith y themâu a drafodir bydd agweddau at iaith, addysgeg ddwy ac amlieithog, asesu iaith a rhagor.

Bydd nifer o siaradwyr gwadd arbennig yn cymryd rhan gan gynnwys Inma Muñoa o Wlad y Basg a fydd yn esbonio sut mae mabwysiadu’r dull CLIL (dull sy’n cyfuno iaith a phwnc) wedi datblygu cenhedlaeth newydd o ddisgyblion tair-ieithog; byddwn hefyd yn croesawu’r Athro Piet Van De Craen o Brifysgol Vrije University, Brwsel, a fydd yn amlygu manteision gwybyddol dwyieithrwydd.

Bydd cyfranwyr o Gymru’n trafod dulliau datblygu llythrennedd ar draws y cwricwlwm newydd, manteision cryfhau’r cysylltiadau rhwng Cymraeg, Saesneg a ITM mewn ysgolion, ac yn ystyried sut y gall modelau sy’n asesu cynnydd hyrwyddo agwedd ‘awn amdani’ at ddysgu iaith.

Bydd y gohebydd nodedig Ashok Ahir, o gwmni cyfathrebu creadigol a dwyieithog Mela Media, yn annerch y cynadleddwyr yn ystod swper y gynhadledd, nos Iau, Ebrill 6.

Meddai’r Athro Mererid Hopwood o staff Yr Athrofa: “Trwy osod ‘ieithoedd’ yn y lluosog ochr yn ochr â llythrennedd a chyfathrebu, mae adroddiad Donaldson yn ein gwahodd ni i ystyried y maes ar orwel eang.

“Ar sail ei hamrywiaeth, mae’r gynhadledd hon yn cydnabod bod iaith yn llawer mwy na ‘sgil’ neu ‘restr geirfa’, a bydd, gobeithio, yn tynnu sylw at sut y gall dysgu iaith fod yn gatalydd i sicrhau y bydd ein disgyblion ni’n tyfu i fod yn ddinasyddion hyderus a meddylgar yng Nghymru a’r byd.”

Anelir y gynhadledd at bawb sy’n ymddiddori mewn iaith, yn addysgwyr, athrawon, arholwyr, gwneuthurwyr polisi a myfyrwyr. Noddir y gynhadledd gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae’n cael ei chynnal mewn cydweithrediad â Chymdeithas Addysg Ewrop Y Rhanbarthau (CAER), ac mae cadeirydd y grŵp, Dr Hywel Glyn Lewis, yn ddarlithydd yn YDDS.

Meddai Rhian Jones, Swyddog Datblygu’r Celfyddydau a’r Dyniaethau: “Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn falch iawn o allu cefnogi’r gynhadledd hon, gan ei bod yn dathlu cyfraniad pwysig ymarferwyr ac addysgwyr Cymraeg eu hiaith i faes dysgu ac addysgu ieithoedd.

“Er ei sefydlu yn 2011, mae’r Coleg wedi cefnogi nifer fawr o gynadleddau a digwyddiadau gan ddod â myfyrwyr, academyddion ac arbenigwyr ynghyd dros ystod eang o bynciau er mwyn rhannu syniadau a chyfoethogi profiadau.

“Mae’r gweithgareddau hyn yn cefnogi gweledigaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n ystyried bod gan bob myfyriwr a myfyrwraig yr hawl i gael addysg gyfrwng-Cymraeg o’r radd flaenaf”.

Pris ymuno â’r gynhadledd yw £20 y dydd; £25 ar gyfer swper y gynhadledd; neu £60 am y deuddydd a’r swper. Mae pris gostyngol i fyfyrwyr.

  • I gofrestru, cysylltwch os gwelwch yn dda â Christine Rees: c.rees@pcydds.ac.uk; 01267 676914 neu 01267 676694.

Leave a Reply