Mae Helen Lewis yn archwilio sut y gallai’r cwlwm agosrwydd rhwng plentyn a chŵn esgor ar fanteision sy’n effeithio ar ddysgu…

 

‘Arfer meddwl a gweithredu lled barhaol’ yw tueddfryd, sy’n gysylltiedig â’n hagweddau a’n teimladau. Mae tueddfryd yn effeithio ar sut yr ydym yn gweld ein hunain fel dysgwyr, a pha mor hyderus yr ydym wrth fynd i’r afael â sefyllfaoedd dysgu newydd.

Pa un ai ydym yn cyfeirio at y tueddfryd hwn fel ‘Arfer Meddwl’, ‘Meddylfryd Twf’ neu nodweddion penodol megis brwdfrydedd, cydnerthedd a dyfalbarhad, gwyddom fod angen i ni roi’r elfennau hyn i’n plant er mwyn iddynt fod yn barod, yn frwd ac yn abl i ddysgu.

Un ymagwedd bosib ar gyfer cynorthwyo datblygiad tueddfryd o’r fath yw ‘Ymyriad a Gynorthwyir gan Anifeiliaid’.

Awgryma ymchwil y gall rhyngweithio ag anifeiliaid gael effaith ar ddeilliannau cymdeithasol, emosiynol, ymddygiadol, corfforol a gwybyddol dysgwyr.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bûm yn cymryd rhan mewn prosiect newydd sy’n ymwneud â chŵn, ac sydd wedi cael effaith ddiddorol ar agweddau, diddordeb a llythrennedd dysgwyr.

Mae ‘Burns By Your Side’ (BBYS; cangen o’r Burns Pet Nutrition Foundation), yn hyfforddi gwirfoddolwyr a’u cŵn  i ymweld ag ysgolion er mwyn cynorthwyo plant i wella eu llythrennedd, cyfathrebu, hyder a’u cymhelliant i ddysgu.

Mae’r cynllun wedi dod yn gynyddol boblogaidd, ac erbyn hyn mae dros 30 o gŵn, sydd wedi’u hyfforddi’n dda, yn ymweld â meithrinfeydd, ysgolion, llyfrgelloedd a cholegau ar draws de Cymru.

Neilltuir ar gyfer pob ysgol gi a hyfforddwr sy’n ymweld â hi yn rheolaidd, fel arfer unwaith yr wythnos. Maent yn gweithio gyda phlant a dargedir sy’n darllen i’r ci, fesul un-i-un.

Gwnaethom gynnal arolwg o’r plant, athrawon a gwirfoddolwyr ar ddechrau’r prosiect ac ar ôl iddynt ymwneud ag ef, er mwyn archwilio effaith darllen i gi.

Edrychom ar sut y mae plant yn gweld eu hunain fel dysgwyr (wedi’i fesur gan ddefnyddio graddfeydd agwedd), eu sgoriau darllen mewn profion safonedig a’u diddordeb mewn gwersi. Mae’r canlyniadau cychwynnol yn bositif.

Teimlir gan bawb fod y prosiect wedi bod o les i ddysgwyr, yn enwedig o ran darllen, llefaredd a hyder, ac mae’r plant yn adrodd yn ôl eu bod nhw’n mwynhau yn fawr y cyfle i weithio gyda’r cŵn.

Mae’r ffordd y mae’r plant yn gweld eu hunain fel dysgwyr wedi dangos gwelliannau sylweddol. Postiodd gwirfoddolwyr negeseuon rheolaidd ar gyfrif grŵp cyfryngau cymdeithasol am eu profiadau o weithio gyda’r plant, a chafodd y negeseuon dienw hyn eu dadansoddi.

O’r 57 neges a anfonwyd, roedd 52 ohonynt yn cynnwys sylwadau cadarnhaol.  Roedd y rhan fwyaf o’r negeseuon yn ymwneud â newidiadau positif o ran hyder, mwynhad, llefaredd, ac ymgysylltu.

Mae Grace a’i chi Hoola wedi bod yn ymweld yn rheolaidd, drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, â’u hysgol gynradd bartner, ac yn ystod yr amser hwnnw, mae Grace wedi sylwi ar wahaniaethau clir yn hyder, llefaredd a diddordeb y plant wrth iddynt ddarllen i Hoola.

Adroddir gan athrawon fod yr agweddau cadarnhaol hyn tuag at ddysgu yn cael eu trosglwyddo i wersi eraill. Yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau, gwelwyd gwelliannau nodedig yn agweddau disgyblion at ddysgu, sgiliau cymdeithasol a’u diddordeb mewn darllen, ers i Lorna a’i chi Bella ddechrau ymweld â’r ysgol honno.

Mae gan blant yn Uned Myrddin, a leolir yn Ysgol Gynradd Myrddin, anawsterau dysgu difrifol, dwys a lluosog/neu awtistiaeth. Ymwela Carole a’i chi Sally yn wythnosol, ac maent wedi dod yn ffefrynnau ymhlith y staff a’r disgyblion.

Adrodda’r athrawon fod presenoldeb Sally wedi gwella sgiliau cymdeithasol, hyder a chyfathrebu’r plant.

Gall effaith ymweliad barhau hefyd y tu hwnt i’r diwrnod ysgol. Er enghraifft, gwnaeth rhieni plant cyn ysgol, mewn lleoliad yr ymwelwyd ag ef gan June a’i chi Honey, adrodd fod eu plant yn awyddus i siarad am Honey ar ôl iddi ymweld â nhw.

Maent yn cynhyrfu hefyd pan fyddant yn gwybod fod Honey yn mynd i ymweld â nhw, ac maent yn awyddus i fynd i’r feithrinfa i’w gweld.

Mae’r rhieni eu hunain hefyd yn frwdfrydig am y fenter ac yn dod i siarad â’r athrawon am Honey, – gan feithrin sianeli cyfathrebu cadarnhaol rhwng y cartref a’r lleoliad.

Mae poblogrwydd Ymyriadau a Gynorthwyir gan Anifeiliaid yn cynyddu – ac er bod angen sail dystiolaeth fwy systematig a chadarn arnom, mae corff cynyddol o ymchwil yn awgrymu y gall rhyngweithio ag anifeiliaid fod o fudd i ddysgwyr.

Gallai dod ag anifail i mewn i’ch amgylchedd dysgu fod yn ymagwedd gyffrous, ysgogol a gwerthfawr i’w hystyried. Ond bydd rhaid cynllunio, monitro a rheoleiddio’r ymyriadau hyn yn ofalus, a rhaid hefyd ystyried yr anifail yn greadur ymdeimladol – nid arf dysgu na chwiw addysgol.

Ni fyddai’r dull hwn yn gweithio ym mhob lleoliad a gyda phob dysgwr, ond mae ein hastudiaeth yn awgrymu y gall y cyfle i ymlacio ac ymgysylltu â chyfaill blewog nad yw’n barnu arwain at fuddion sylweddol i nifer.

Felly, os ydych yn chwilio am ymagwedd wahanol at ddatblygu dysgwyr hyderus a brwdfrydig,  efallai wir mai ci fydd eich ffrind gorau newydd!

  • Helen Lewis yw Arweinydd TAR Cynradd Yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Leave a Reply