Mae disgyblion ar draws Cymru ar fin elwa yn sgil grant newydd o £2.5m i gynorthwyo ysgolion bychain a chefn gwlad. Ond tybed a wnaiff hyn unrhyw wahaniaeth? Mae Nanna Ryder yn ymchwilio i’r mater…

 

Unwaith eto’r wythnos hon, un o brif benawdau’r papur newydd lleol wythnosol, y ‘Cambrian News’, yw cau ysgolion bach yng Ngheredigion. Dros y pymtheg mis diwethaf, caewyd saith ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd o fewn dalgylch o ddeg milltir yn ne’r sir.

Unwyd tair o’r ysgolion bach hyn er mwyn ffurfio un ysgol gynradd ardal hollol newydd ar safle ganolog, tra unwyd y gweddill i ffurfio ysgol 3-19 mewn adeilad pwrpasol newydd sbon. Y newyddion diweddaraf hefyd yw bod o leiaf wyth ysgol arall o fewn yr un dalgylch o rhyw ugain milltir eto tan fygythiad.

Dyma batrwm cyfarwydd nid yn unig yng nghefn gwlad Ceredigion ond ar hyd a lled cymunedau gwledig yng Nghymru, ar waethaf protestiadau rhieni, teuluoedd ac aelodau o’r gymuned. Mae’r cynghorau sir yn gwneud eu gorau glas i gyfiawnhau bod ysgolion mwy o faint yn darparu gwell adnoddau, gwell cyfleoedd dysgu, ac addysg o safon uwch i ddisgyblion yr unfed-ganrif-ar-hugain.

O’r ysgolion a restrwyd uchod, derbyniodd y mwyafrif raddau ‘da’ neu ‘ragorol’ o ran perfformiad presennol a rhagolygon gwella yn eu harolygon Estyn terfynol. Nid oedd yr un ohonynt chwaith yn y band coch o ran y system goleuadau traffig i fandio ysgolion.

Ceir ymchwil yn y wlad hon ac yn rhyngwladol i brofi nad oes gwahaniaeth rhwng cyraeddiadau disgyblion mewn ysgolion bach o’u cymharu â’r rhai sydd mewn ysgolion mawr, ac mewn rhai achosion mae plant sy’n derbyn eu haddysg mewn ysgolion bach yn rhagori.

Noda ymchwil sydd eisoes yn bodoli, profiad personol fel cyn-riant a chyn-aelod o staff yn ogystal ag fel tiwtor i fyfyrwyr ar brofiad addysgu mewn ysgolion yn yr ardal, bod rhai agweddau tipyn cryfach mewn ysgolion llai o faint. Gall hyn gynnwys ymrwymiad rhieni, cyfleoedd allgyrsiol, meistrolaeth o’r iaith Gymraeg (yn enwedig o safbwynt newydd-ddyfodiaid) a’r syniad o berthyn i ‘un teulu’ o fewn cymuned ysgol. Felly rhaid gofyn ai cau ar draul safonau a phrofiadau addysgol neu ar sail arbed arian i’r cynghorau a wneir yn yr achosion hyn?

Rhaid ystyried hefyd a roddir ystyriaeth i lais, lles a datblygiad cyfannol y plant a’r bobl ifanc yn y penderfyniadau allweddol yma am ddyfodol eu haddysg. Yn anochel mae nifer y disgyblion sydd yn y dosbarthiadau a’r canran oedolyn i blentyn tipyn yn fwy mewn ysgolion mawr.

Anodd felly rhoi sylw penodol i bob unigolyn er mwyn sicrhau eu lles a’u datblygiad cyflawn. Gall llwytho disgyblion mewn bysiau cyn toriad gwawr a’u cludo allan o’u cymunedau lleol i’w haddysgu gael effaith niweidiol ar hunaniaeth bersonol a’r syniad o berthyn i gymuned.

Gellid dadlau bod hyn i’r gwrthwyneb i ofynion cwricwlwm trawsnewidiol Donaldson gan mai un o’r pedwar diben yw ‘datblygu dinasyddion egwyddorol, gwybodus sydd… yn wybodus am… eu cymuned [a’u] cymdeithas’. Trwy orfodi cenedlaethau’r dyfodol i symud o’u milltir sgwâr i gael eu haddysgu, gallant gael eu hamddifadu o’r cyfoeth profiadau sy’n bodoli ar eu stepen drws.

Mewn rhai ardaloedd, gyda chau siopau lleol a lleihad yn y nifer sy’n mynychu’r capeli a’r eglwysi, yr ysgol yn fynych yw’r unig man cyfarfod i’r trigolion. Serch hynny gyda’r lleihad mewn nifer y disgyblion sy’n mynychu a’r her o gyflogi penaethiaid yn ogystal â diffyg cefnogaeth ariannol oddi wrth y cynghorau lleol, cau yn fynych yw’r unig opsiwn i ysgolion llai o faint.

O ganlyniad gall cau drysau’r ysgol arwain hefyd at ‘ladd’ y cymunedau eu hunain. Mae hon yn hen stori, a dyma fu’r drefn dros y pum-mlynedd-ar-hugain olaf yma yng Nghymru.

Ond, daeth tro ar fyd a gwelwyd tro pedol ym mholisi addysg Llywodraeth Cymru yn ddiweddar gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn lansio grant o £2.5m i gefnogi ysgolion bach, gwledig er mwyn ‘…delio â’r heriau unigryw y maent yn eu hwynebu… [a] helpu ysgolion i weithio gyda’i gilydd er lles disgyblion, athrawon a’r gymuned ehangach’.

Atgyfnerthwyd hyn ymhellach yn y ddogfen bolisi ‘Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl’ sy’n argymell y dylid ystyried pob opsiwn posib gan gynnwys ffederaleiddio cyn cau ysgolion bach neu wledig. Tybed felly oes goleuni ar y gorwel i ysgolion bach ond ydy’r tro pedol yma wedi dod ddegawd neu fwy yn rhy hwyr?

Gwaredwyd yr adeiladau, chwalwyd cymunedau ac anodd credu bydd modd troi nôl o’r fan hyn. Cofiwch y ddihareb – ‘rhy hwyr codi pais…’ a tybed a ydy hi’n rhy hwyr i’n hysgolion bach gwledig ni yma yng Nghymru heddiw?

  • Mae Nanna Ryder yn uwch ddarlithydd (Anghenion Dysgu Ychwanegol) yn yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Leave a Reply