Mae ysgolion yn fannau arloesol ac ysbrydoledig, ac ynddynt, nid oes dau ddiwrnod yr un peth â’i gilydd. Ond mae cymaint o fywyd gwaith athro yn seiliedig ar draddodiad a gwneud pethau fel y cawsant eu gwneud erioed. Yn y blog  mewnweledol hwn, mae’r athrawes    Sarah Withey yn adfyfyrio ar ei harfer ei hunan ac yn herio normau sefydledig…

 

Roedd y wers ar brynhawn Mercher gyda’m disgyblion blwyddyn 4 wedi bod yn un heriol, a threuliais y deng munud diwethaf ohoni yn ceisio gorfodi fy ngrŵp arbennig o gynhyrfawr, mewn gwahanol ffyrdd, i eistedd yn dawel a chwblhau’r dasg osod, pan ofynnodd un o’m disgyblion ‘pam y mae’n rhaid i ni eistedd yn llonydd?’ Ar yr eiliad hwnnw, daeth rhywbeth i’m meddwl. Pam yr oeddwn wedi gofyn iddynt eistedd wrth eu desgiau?

Yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol, ac ar brofiadau ymarfer dysgu, ymddengys fel petai cod ymddygiad cynhenid  yn bodoli, rhyw set o ddisgwyliadau a dderbynnir yn gyffredinol gan athrawon, a oedd yn cynnwys rheolau megis eistedd wrth ddesgiau a bod yn dawel, pan wrthi’n gweithio.

Cofiais am yr ystafelloedd dosbarth y gwnes i addysgu ynddynt pan oeddwn yn athrawes gyflenwi a thrwy gydol fy lleoliadau, pob un ohonynt yn cynnwys rhyw fath o ddalennau cardbord  laminedig, lliwgar a oedd yn dangos ‘rheolau’r ystafell ddosbarth’ arnynt, pob un ohonynt yn dweud rhywbeth fel ‘Rhaid i ni fod yn dawel pan mae eraill yn gweithio’ neu ‘rhaid i ni eistedd yn llonydd ar y carped’. Nid oeddwn, tan hynny, wedi sylweddoli pa mor chwerthinllyd oedd y ffaith nad oeddwn wedi cwestiynu’r rheolau annileadwy hyn yn ystod fy addysgu fy hunan.

Pan edrychwch ar ymddygiad pobl yn fyd-eang, ac yn enwedig, yr ymddygiad penodol a geir mewn gwahanol wledydd, ymddengys nad oes ymagwedd ‘un rheol ar gyfer pawb’ yn bodoli. Mae’n bosib dehongli ymddygiad sy’n hollol dderbyniol mewn un wlad yn anfoesgar mewn gwledydd eraill.

Yn y DU, ystyrir yr ystum syml o godi’ch bawd yn ffordd o gymeradwyo, neu yn arwydd o lwyddiant, ond yn y Dwyrain Canol, ystyrir yr un ystum yn sarhad.  Mae hyn yn fy arwain i feddwl, os ydy ymddygiad mor wahanol rhwng gwledydd, pam ydym felly yn cadw mor dyn at yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan blant sydd yn ein hystafelloedd dosbarth?

Fel athrawon, ystyriwn bob disgybl yn unigolyn unigryw o ran ei ddysgu a’i ddealltwriaeth o’n haddysgu, ac felly, gofynnaf i’m hunan, oni y dylwn ystyried pob disgybl ar wahân, o ran ein disgwyliadau o’i ymddygiad?

Meddyliaf am fy ymddygiad dysgu fi fy hunan a’r pleser sydd wedi dod i’m rhan drwy ddysgu fel oedolyn; dysgu sy’n digwydd mewn nifer mawr o leoliadau, dysgu sy’n digwydd y tu allan i’r ystafell ddosbarth a’r rheolau a’r normau cymdeithasol sy’n ei reoli.

Yn 2013, daeth adroddiad gan Sefydliad Meddygaeth Prifysgol Lund, Sweden, i’r canlyniad bod disgyblion sydd fwyaf gweithgar yn yr ysgol yn dangos gwell ganolbwyntio, ganddynt gyflymderau prosesau gwybyddol mwy cyflym, ac yn perfformio’n well mewn profion safonedig na disgyblion a oedd yn llai gweithgar; roedd hyn yn arbennig o berthnasol i addysg bechgyn.

‘Mae perygl i ni feddwl bod plant sydd yn eistedd wrth eu desgiau, gyda’u pennau i lawr, yn dawel ac yn ysgrifennu, hefyd yn dysgu.’  Brian Gatens, Uwch-arolygydd Ysgolion, Emerson, N.J.

Medd yr Athro J.F. Sallis o Brifysgol California, San Diego, a wnaeth ymchwilio i’r cysylltiad rhwng egwyliau yn ystod cyfnodau gweithgar ac ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth fod ‘Gweithgaredd yn helpu’r ymennydd mewn cymaint o ffyrdd’. Darganfu pan fod disgybl yn cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol, mae hynny’n symbylu mwy o wythiennau yn yr ymennydd sydd, yn y bôn, yn ‘deffro’r’ ymennydd.

Creda Steve Boyle, un o gyd-sylfaenwyr y National Association of Physical Literacy na ddylai disgyblion eistedd yn llonydd drwy’r dydd er mwyn amsugno gwybodaeth. Mae’n dadlau nad ydym fel oedolion wedi ein ‘gwifro’ fel hynny, ac felly, pam y dylem ddisgwyl i blant fod yn wahanol?

Fel testun ymchwil eang sy’n dod i’r canlyniad nad yn unig bod y cysyniad o eistedd yn llonydd yn wrth-sythweledol ond ei fod hefyd yn wrthgynhyrchiol, gyda chyflogwyr yn cyflwyno desgiau sefyll ac amgylchoedd gwaith amlsynhwyraidd, oni ddylem, tybed, ailfeddwl sut y mae athrawon yn rhedeg ein hystafelloedd dosbarth?

Edrychais yn ôl at y bachgen a oedd o’m blaen, a oedd, mewn ôl-ddoethineb, wedi gofyn cwestiwn mor berthnasol, ac yn sydyn, teimlais don o gywilydd yn torri arnaf am fethu cwestiynu fy ymresymu fy hunan ynglŷn â’r fath reolau sydd bob dydd yn chwarae rhan wrth i mi addysgu pobl eraill. Wrth ofyn i fi fy hunan pam yr oeddwn am i’m disgyblion eistedd yn llonydd, sylweddolais y dylwn fod wedi gofyn iddynt ‘Sut ydych chi’n dysgu orau?’

Fel athrawes, deallaf fod angen ar ystafell ddosbarth ffiniau cyd-dderbyniol er mwyn osgoi’r anhrefn y byddai’n dilyn. Yr wyf hefyd wedi cymryd y pethau y gwnes ddysgu yn ganiataol, ac yn lle cwestiynu fy arfer fy hunan, rwyf yn aml wedi dilyn yn ddall arferion cyffredin, llawer ohonynt (wrth adfyfyrio) i’w gweld yn hen-ffasiwn ac yn amherthnasol i’r amgylchedd ystafell ddosbarth y ceisiaf ei greu.

Fel un syniad olaf, gofynnaf – a ydy’r holl reolau hyn yn wir hanfodol?

  • Mae Sarah Withey yn SENCO (Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig) ac yn Athrawes Arbenigol mewn ysgol Gynradd ac Uwchradd Annibynnol yn Abertawe. Mae hefyd yn fyfyrwraig flwyddyn gyntaf ar y rhaglen Doethuriaeth mewn Addysg yr Athrofa

Leave a Reply