[vc_row][vc_column][vc_column_text]Mae Ysgrifennydd y Cabinet Kirsty Williams wedi ymweld â’r genhedlaeth nesaf o athrawon dosbarth yn yr Athrofa.

Wedi cyflwyniad ysbrydolgar pryd y disgrifiodd fod yn athro/athrawes fel ‘y swydd orau yn y byd’, treuliodd Ms Williams awr yn ateb cwestiynau gan athrawon dan hyfforddiant yn y brifysgol.

Bwriad y digwyddiad oedd cyflwyno athrawon y dyfodol i strategaeth addysg uchelgeisiol Llywodraeth Cymru, ‘Cenhadaeth ein Cenedl’.

Meddai’r Athro Dylan Jones, Deon yr Athrofa: “Rydym yn ddiolchgar dros ben i Ysgrifennydd y Cabinet am gymryd amser o’i hamserlen brysur i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o athrawon dosbarth gyda neges gadarn a chadarnhaol o gyfle a chefnogaeth. Cafodd ein myfyrwyr a’n staff eu hysbrydoli!”

Gallwch wylio cyflwyniad Ysgrifennydd y Cabinet a’r sesiwn holi ac ateb gydag athrawon dan hyfforddiant isod…

[/vc_column_text][/vc_column][/vc_row][vc_row][vc_column][vc_video link=”https://youtu.be/lSQEO8WOj2g”][/vc_column][/vc_row]