Blog

Gwneir newidiadau parhaus mewn system addysg Cymru yng nghyd-destun cydweithredu a chyd-ddatblygu polisi. Yn y blog craff hwn, mae Yvonne Roberts-Ablett yn myfyrio ar ei hymwneud ei hun â phroses ‘Arloeswyr’ y cwricwlwm ac yn galw ar eraill i ymuno yn y mudiad diwygio addysgol


Mae ‘datblygu ar y cyd’ yn prysur ddod yn ymadrodd allweddol ym myd addysg yng Nghymru. Adolygodd adroddiad diweddar gan y Swyddfa Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD, 2020) yn ffafriol gynnydd datblygu ar y cyd Cymru yn gyfrwng i sicrhau diwygio addysgol. Ond beth yw datblygu ar y cyd a sut mae’n gweithio’n ymarferol?

Nid oes diffiniad geiriadur clir o ‘ddatblygu ar y cyd.’  Rydym yn edrych ar adeiladu rhywbeth newydd, gyda’n gilydd. Nodir ei fod yn ‘rhannu problemau a chyd-ddatblygu atebion’ (Llywodraeth Cymru, 2021), nodir bod angen y ffordd newydd hon o weithio er mwyn gwireddu cwricwlwm a arweinir gan bwrpas o fewn system addysg Cymru. Yn ymarferydd sy’n gweithio yng Nghymru, rwy’n gweld hyn yn un sy’n gwerthfawrogi rôl pawb yn system addysg Cymru: cyfuno arbenigedd ac adnoddau i greu polisïau a systemau sy’n galluogi ein dysgwyr yng Nghymru i wireddu’r Pedwar Diben (diben cwricwlwm Cymru, sydd bellach wedi’i ymgorffori mewn deddfwriaeth) gan sicrhau bod pob dysgwr yn datblygu fel:

  • Dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau
  • Cyfranwyr mentrus, creadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • Dinasyddion moesegol, gwybodus Cymru a’r byd
  • Unigolion iach, hyderus, yn barod i fyw bywydau boddhaus yn aelodau gwerthfawr o gymdeithas

(Donaldson, 2015, t.29)

Mae datblygu ar y cyd wedi dod i’r amlwg mewn ymateb i ganlyniadau addysgol siomedig yng Nghymru a chydnabyddiaeth bod y llywodraeth wedi creu cwricwla blaenorol ar ei phen ei hun, gan adael bwlch yn aml mewn dealltwriaeth a pherchnogaeth o’r proffesiwn sy’n gyfrifol am ei lwyddiant. Roedd Dyfodol Llwyddiannus (2015), yr adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar effeithiolrwydd addysg yng Nghymru, yn nodi bod y capasiti ar gyfer diwygio addysgiadol yn bodoli yng Nghymru.

Mae hyn wedi galluogi Llywodraeth Cymru i gyfuno gwybodaeth a sgiliau’r gweithlu addysg â’r ymchwil academaidd a ysgogwyd gan ei phartneriaeth â sefydliadau addysg uwch, a’r OECD, i ddefnyddio dull o ddiwygio sydd wedi’i wreiddio mewn datblygu ar y cyd. Byddwn yn dadlau y bydd manteisio ar y cyfle i ddatblygu ar y cyd yn ei gwneud yn bosibl gwireddu Cwricwlwm Cymru yn llwyddiannus drwy gyfuniad pwerus o ymchwil addysgol o ansawdd uchel, annibyniaeth broffesiynol a chydberchnogaeth ar gyfer y proffesiwn addysg cyfan yng Nghymru.

Dadleua’r arbenigwr ar theori cwricwlwm, Mark Priestley, bwysigrwydd annibyniaeth athrawon o ran sicrhau bod y polisïau a’r systemau cyd-ddatblygu hyn yn cael eu gweithredu’n llwyddiannus ledled Ewrop. A dyma’r broblem i ni yng Nghymru.

Rhaid i bob ymarferydd yn y wlad ddeall a meddu ar y sgiliau i ddarparu’r cwricwlwm hwn, ond nid yw pob un ohonynt wedi bod yn rhan o’r datblygu ar y cyd nac wedi’i ennill i’r syniad. Yn 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru restr o Ysgolion Arloesi a oedd wedi cael y dasg o weithio ochr yn ochr â’r llywodraeth a’r haen ganol (partneriaethau rhanbarthol ar gyfer gwella ysgolion, arolygiaeth Cymru, Estyn, ac addysg uwch) i gyd-lunio fframwaith Cwricwlwm i Gymru.

Wedyn adolygwyd y fframwaith hwn, a gyhoeddwyd i’w adolygu yn 2019, ei werthuso a’i fireinio gan ymarferwyr pellach, gydag ymdrechion mewn treialon cynnar gan rai ysgolion yng Nghymru. Mae hyn wedi galluogi cannoedd o ysgolion yng Nghymru i fod yn rhan uniongyrchol o’r gwaith o ddatblygu ar y cyd fframwaith Cwricwlwm i Gymru.

Yn ymarferydd sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith hwn o ddatblygu ar y cyd ers 2017, rwy’n teimlo’r annibyniaeth hon yn fwy o lawer na fersiynau blaenorol o’r Cwricwlwm Cenedlaethol yr wyf wedi bod yn gyfrifol am ‘gyflawni’ yn unig. Mae ein hysgol ni’n teimlo’n rhan o’r broses, bod rhannau eraill o’r system yn gwrando arni, a’n bod ni’n gallu gweld bod amrywiaeth ein dysgwyr wedi ei chynrychioli yn y fframwaith. A yw hynny’n golygu y gall pob aelod o staff yn ein hysgol ddweud yr un peth? A dweud y gwir, nac ydy. Er  mai ymarferwyr unigol sy’n cynrychioli eu hysgolion sydd wedi llunio’r cwricwlwm hwn, rhaid cydnabod nad yw hynny o reidrwydd yn trosi i bob aelod o gymuned ysgol arloesi sydd â gwybodaeth ymarferol am y diwygiad. Ond mae hyn hefyd yn wir am y cwricwlwm presennol; mae rhywbeth o hyd y gallem ni ei ddeall yn well.

Mae manteision datblygu ar y cyd yn arf ar gyfer annibyniaeth broffesiynol yn parhau’n gysyniad sy’n datblygu yng Nghymru a byddwn yn dadlau mai cyfrifoldeb proffesiynol pob un o’n hysgolion a’n lleoliadau yw cymryd fframwaith Cwricwlwm i Gymru a sicrhau bod ein teithiau gwella ysgolion yn adlewyrchu anghenion pob un o’n dysgwyr. Mae fy ysgol yn bwriadu gwneud hyn drwy ddeialog barhaus a phartneriaethau effeithiol sy’n ymateb i’n hanghenion dysgu proffesiynol. Dyma ni’n cyfrannu i’n system hunan-wella, sef dyhead  Llywodraeth Cymru dros addysg yng Nghymru.

O ganlyniad i’m hymwneud, yr wyf wedi cael y fraint o drafod polisi ac arferion addysg. Rwyf wedi darllen a chyfrannu i ymchwil anhygoel sy’n ychwanegu gwerth at ein proffesiwn ac, yn y pen draw, wedi dod yn ymarferydd ac yn uwch arweinydd gwell i’m dysgwyr o ganlyniad. Oedd hi’n aberth i’n hysgol gymryd rhan? Ar adegau, oedd. Ond mae’r hyn rydym wedi’i ennill wedi bod yn fwy buddiol o lawer.

Pan fydd arnom angen cyngor a chefnogaeth gan gydweithwyr ar draws y sector, nid oes arnom ofn gwneud na chymryd yr alwad, oherwydd  yr ydym wedi meithrin perthynas agos â Llywodraeth Cymru, Estyn neu bartneriaethau rhanbarthol. Yn bersonol, rwyf wedi gwneud ffrindiau gydol oes ledled y wlad, y gallaf eu he-bostio neu eu galw pan fydd angen rhywfaint o arweiniad arnaf neu eisiau trafod syniad. Rwyf wedi elwa o’r amser i feddwl, darllen, trafod a chynhyrchu syniadau arloesol ar gyfer fy nysgwyr.

Mae gennym ni gyfle yng Nghymru i barhau â’r ffordd newydd hon o weithio. Dysgwyd llawer o natur gyd-ddatblygol y broses Arloeswr, am yr angen am amser a lle i adfyfyrio a datblygu syniadau newydd gyda’n gilydd; pŵer pob llais yn yr ystafell sy’n datblygu polisi ac arfer y mae’r proffesiwn cyfan yn eu perchenogi a phŵer y llywodraeth i glywed yn uniongyrchol yr ymarferwyr y mae’n ceisio eu cefnogi.

Mae sgyrsiau’r Rhwydwaith Cenedlaethol yn cael eu rhoi yn rhodd i’r proffesiwn addysg yng Nghymru yn ddull parhaol lle mae pob ymarferydd yn arwain sgyrsiau cenedlaethol ar faterion allweddol sy’n ein herio. Cyfle i ymarferwyr a’r llywodraeth gasglu gwybodaeth, bwydo hyn yn ôl yn uniongyrchol i bolisi ac ymarfer a chreu canfyddiadau newydd gyda’i gilydd, i werthuso’n feirniadol yr hyn sy’n gweithio’n dda a pham. Mae hwn yn arf pwerus i wireddu’r annibyniaeth broffesiynol y mae Mark Priestley yn ei hargymell mor huawdl ar gyfer llwyddiant diwygio’r cwricwlwm. Rwy’n annog fy nghydweithwyr i gymryd rhan mewn sgyrsiau a hwyluso hyn yn eu lleoliadau eu hunain, os nad gwirfoddoli i wneud hynny ledled Cymru a dechrau adeiladu rhwydwaith o’ch cwmpas. Mae hon yn annibyniaeth sy’n gweithio’n ymarferol.

Ydy datblygu ar y cyd wedi ateb popeth i mi? Ddim o bell ffordd. Rwy’n dal i chwilio am atebion i’r pethau sy’n her i mi a’m hysgol ac yn ‘mynd i hwyl’ wrth siarad ag eraill yn y system, mewn ffordd y mae’n rhaid bod pobl arferol yn ei deimlo mewn cyngerdd bop! Dwy erioed wedi teimlo’n fwy bodlon fy myd yn broffesiynol. Ond mae angen cydbwysedd. Mae angen i mi hefyd dorchi llewys, dysgu’r rhai o’m blaen hyd eithaf fy ngallu a goruchwylio’r rhes ginio! Mae hyn yn cadw fy nhraed ar y ddaear ac yn fy ngalluogi i gyfrannu i bolisi o lawr dosbarth. Yn aml byddwn ni’n anghofio mewn addysg am y sgiliau trosglwyddadwy eang sydd gennym, ond nid yw’n golygu bod yn rhaid i bob un ohonom wneud yr un peth, yn yr un modd, i sicrhau gwell system addysg.

Wrth imi fyfyrio ar yr hyn y mae datblygu ar y cyd wedi’i roi i mi, anogaf eraill i ymuno â’r ffordd newydd hon o weithio a rhoi hwb i’r bobl ar draws pob sector ym maes addysg yng Nghymru. Dewch i’w hadnabod fel pobl, oherwydd maen nhw’n union fel chi ac eisiau’r gorau i ddysgwyr Cymru. Byddant yn ategu’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u rhoi  gyda’ch gilydd, gall datblygu ar y cyd roi’r eglurder y mae ei angen arnom i wireddu’r Pedwar Diben ar gyfer dysgwyr Cymru.


Cyfeiriadau

Bubbins, M. and Martin Thomas, L. (2019) Addysg Cymru [podcast] A new Curriculum for Wales. Available at: https://podcasts.apple.com/gb/podcast/a-new-curriculum-for-wales/id1372550367?i=1000497984196 (Accessed 13th November 2019)

Department for Education. (2021) Curriculum and Assessment (Wales) Act 2021. Available at: https://www.legislation.gov.uk/asc/2021/4/contents/enacted (Accessed 21st April 2021) 

Department for Education. (2019) Curriculum for Wales. Available at: https://hwb.gov.wales/curriculum-for-wales (Accessed 19th February 2019) 

Department for Education. (2021) National Network for Curriculum Implementation. Available at: https://hwb.gov.wales/curriculum-for-wales/national-network-for-curriculum-implementation/get-involved/ (Accessed 29th September 2021)

Department for Education. (2020) Implementation plan. Available at: https://hwb.gov.wales/curriculum-for-wales/curriculum-for-wales-implementation-plan/#how-do-we-get-there? (Accessed 28th October 2020)

Department for Education. (2019) Our National Mission: A Transformational Curriculum Proposals for a new legislative framework. Available at: https://gov.wales/sites/default/files/consultations/2019-07/summary-of-responses-our-national-mission-a-transformational-curriculum_1.pdf (Accessed 3rd November 2019)

Department for Education. (2018) Written Statement – Announcement of Pioneer Schools. Available at: https://gov.wales/sites/default/files/inline-documents/2018-11/170109pioneerschoolsen.pdf  (Accessed 21st April 2021) 

Donaldson, G. (2015) Successful Futures. Available at: https://gov.wales/sites/default/files/publications/2018-03/successful-futures.pdf (Accessed 21st April 2015)

Evans, G. (2013) ‘Pisa results: Wales going backwards in all core subjects’ Wales Online, 3rd December. Available at: https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/pisa-results-alarming-declines-core-6364784 (Accessed 20th November 2021)

OECD. (2020) “Achieving the new curriculum for Wales”, OECD Education Policy Perspectives, No. 7, OECD Publishing, Paris. Available at https://www.oecd.org/education/achieving-the-new-curriculum-for-wales-4b483953-en.htm (Accessed 21st October 2020)

Priestley, M. (2021) [Blog] Remaking curriculum making: how should we support curriculum development? Available at: https://mrpriestley.wordpress.com/2021/02/28/remaking-curriculum-making-how-should-we-support-curriculum-development/ (Accessed 28th February 2021)