Blog

Mae COVID-19 wedi newid y ffordd rydyn ni’n meddwl am addysg, ac wedi ein gwneud yn agored i gwestiynu llawer o hen arferion. Nosweithiau rhieni yw un o’r rhain ond esbonia Janet Hayward, mae dull newydd arloesol ar gael i ysgolion sy’n barod i roi cynnig ar rywbeth gwahanol…


Nid yw’n newyddion torcalonnus bod Pandemig COVID-19 wedi gorfodi ysgolion i weithio’n wahanol. 

Yn bersonol, yn bennaeth gweithredol ar ddwy ysgol, mae ystyried asesiadau risg sy’n newid yn barhaus ynghylch faint o roliau papur glas a chyfarpar diogelu personol a ddylai fod yn y cwpwrdd stoc wedi bod yn ddargyfeiriad blinedig oddi wrth ein busnes craidd.

Wedi dweud hynny,  mae rhai ffyrdd gwahanol o weithio wedi dod i’r amlwg a heb os wedi bod o fudd i blant, rhieni ac athrawon. Un enghraifft wych o hyn yw’r newid yn y dull o ymdrin â nosweithiau rhieni.

Yn ystod gyrfa addysgu ers dros 30 mlynedd a rhagor, rwy’n gwybod bod nosweithiau rhieni yn fy ysgol bob amser wedi cael derbyniad da ar y cyfan, fodd bynnag, (a doeddwn i ddim yn gallu rhoi fy mys ar yr union reswm) roeddwn i’n teimlo bod rhywbeth ar goll…

 Trowch eich meddwl yn ôl i fis Ionawr 2020, wrth i’r sibrydion ddechrau am bandemig Covid-19, es i Gynhadledd Flynyddol Addysg Gyfan yn Llundain.

(Sefydlwyd Addysg Gyfan yn rhwydwaith cenedlaethol yn 2010, yn deillio o Siarter yr RSA ar gyfer Addysg yr 21ain Ganrif. Mae’r rhwydwaith deinamig yn cynnwys dros 500 o ysgolion a phartneriaid sydd wedi ymrwymo i ddysgu oddi wrth a chyda’i gilydd i ddarparu ‘addysg gyfan’)

Uchafbwynt y gynhadledd i mi oedd eistedd mewn gweithdy dan arweiniad Ron Berger, Prif Swyddog Academaidd EL Education yn yr Unol Daleithiau. Roedd y gweithdy’n canolbwyntio ar  ‘gynadleddau dan arweiniad myfyrwyr’, eu potensial a sut roedd Berger yntau wedi’u harwain yn ymarferydd.

Felly, mewn gair: mae myfyrwyr mor ifanc â phump oed yn gwahodd oedolyn o’u dewis i’r ysgol i adfyfyrio ar yr hyn y maent yn ei ddysgu. Esboniodd sut yr oeddent wedi gweithio drwy straeon ysbrydoledig am blant unigol a’u teuluoedd a sut yr oedd y cynadleddau wedi bod yn bwerus ac yn llwyddiannus a theuluoedd yn cael llawer mwy o ddealltwriaeth o beth a sut roedd eu plentyn wedi bod yn dysgu a sut y gallent eu cefnogi orau gartref.

Roedd y cynadleddau wedi cryfhau’r berthynas rhwng y cartref a’r ysgol ac roedd myfyrwyr yn eu hystyried eu hunain yn arweinwyr ar eu dysgu eu hunain, yn falch o’r hyn yr oeddent wedi’i gyflawni gyda chymhelliad i wella ac adfyfyrio ymhellach ar yr hyn y maent yn ei ddysgu.

Y gwahaniaeth go iawn rhwng hyn a’n rhieni traddodiadol wedyn yw bod y plentyn yn cymryd perchnogaeth ar ei ddysgu ei hun yn hytrach na’i fod yn ymwneud â’r athro a’i farn. O safbwynt athrawon, mae hwn yn ganlyniad sydd o fudd i bwv. Llai o lwyth gwaith athrawon a dysgwyr mwy grymus!

O wrando ar hyn dyma fi’n cwestiynu sut y gallem ni fabwysiadu’r dull hwn yn fy lleoliadau fy hun heb i hynny deimlo fel eitem arall ar y  rhestr o bethau ‘i’w gwneud’ i’r rhieni a’r athrawon. Nid oedd hepgor noson rieni draddodiadol ar ôl ysgol  i ffwrdd yn teimlo’n opsiwn gan mai felly y bu hi erioed….

Symudwch yn gyflym ymlaen wyth wythnos. Roedd Covid -19 yn golygu bod y byd fel na fu erioed o’r blaen. Sut roedd pethau wedi bod erioed, bellach wedi eu herio.

Ym mis Mehefin 2020 pan ddychwelon ni i’r ysgol, cymerodd athrawon amser gyda’u plant yn unigol i fyfyrio ar eu dysgu dros gyfnod y cyfnod clo:

  • Beth oedd wedi mynd yn dda?
  • Beth allai fod wedi bod yn well?
  • Beth oedden nhw wedi’i ddysgu amdanyn nhw eu hunain?
  • Beth hoffen nhw ei gario ymlaen o’r adeg hon?
  • Beth oedd eu camau nesaf ar gyfer dysgu?

Cafodd yr atebion i’r cwestiynau hyn a llawer rhagor eu mapio gan bob plentyn unigol a’u rhannu â rhieni drwy alwad Zoom gartref, a’r plentyn a’r athro yn yr ysgol.  

Yn hollbwysig, y plentyn oedd yn arwain y plentyn, fel yr amlinellwyd gan Ron Berger. Cynhaliwyd cynadleddau yn ystod y diwrnod ysgol, gan gymryd 10 munud.

Y canlyniad? Llwyddiant ysgubol!

Adborth o arolwg adborth athrawon:

  • Roedd presenoldeb rhieni yn ardderchog.
  • Roedd y plant wrth eu bodd yn paratoi a gweithredu’r alwad.
  • Gwellwyd y berthynas ymhellach wrth i rieni’n weld eu plant yn eu lleoliad ysgol yn siarad am ddysgu mewn ffordd ddilys.
  • Dwedodd llawer o’r rhieni: “Rwy’n falch eich bod chi’n gwneud hyn”, “Roeddem ni’n gallu dod oherwydd ei fod yn slot amser byr ac nad oedd angen i ni deithio”.
  • Mae’n rhoi rheswm dros waith y plant – perfformiad o ddealltwriaeth, sy’n rhan annatod o’r profiad dysgu ac addysgu.
  • Trafod gyda rhieni sut i gefnogi gartref – dysgu parhaus – rhieni’n cymryd cyfrifoldeb, yn ogystal â’r plentyn.
  • Amser fesul un go iawn gyda’r plentyn, yn trafod cartref a dysgu.

A dwedodd llawer o’r plant: “Roedd hi’n braf dros ben rhannu beth rydyn ni’n ei ddysgu gyda’n rhieni yn y modd hwn, allwn ni wneud hyn eto?”

Mae’r cynadleddau bellach yn cael eu harwain gan blant bob hanner tymor; y gwersi allweddol i ni ar hyd y ffordd fu:

  • Sicrhau ymlaen llaw y bydd y rhiant yno;  mae gwahoddiadau wedi eu hysgrifennu â llaw’r plant yn selio’r fargen.
  • Bod y plentyn wedi’i baratoi’n dda gyda’i fap meddwl ac yn barod i arwain a siarad am yr hyn sydd nesaf ar ei gyfer.
  • Mae’r gynhadledd bob amser yn dechrau gyda’r hyn a drafodwyd yn y gynhadledd ddiwethaf.

Mae rhieni, staff ac athrawon i gyd yn gytûn mai cynadleddau dan arweiniad plant, dathlu dysgu yn ystod y diwrnod ysgol ac a welir yn rhan annatod o’r profiad dysgu yw’r  ‘norm’  i ni erbyn hyn, tra bydd nosweithiau rhieni ar ôl ysgol yn bendant yn ‘beth cyn-COVID’ i raddau helaeth  .

Heb os, fel y mae uchelgais ein cwricwlwm newydd yng Nghymru, mae ein ‘dathliadau dysgu dan arweiniad’ yn galluogi ein plant i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog – beth sydd nid i’w hoffi?