Gareth Evans yn galw am bwyllo cyn cyhoeddi’r canlyniadau ‘PISA’ dylanwadol…

 

Cyhoeddir canlyniadau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) eto ar 6 Rhagfyr ac yn ôl pob sôn mae Llywodraeth Cymru yn ymbaratoi am newyddion drwg.

Cynhelir profion PISA bob tair blynedd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), ac maent yn profi gwybodaeth a sgiliau craidd plant 15 oed wrth iddynt ddod at ddiwedd eu haddysg orfodol.

Defnyddia sampl gynrychiadol o fyfyrwyr o dros 70 o wledydd i fesur sut mae gwahanol systemau addysg yn perfformio yn erbyn ei gilydd.

Roedd canlyniadau Cymru yn ofnadwy o siomedig y tro diwethaf y cymharwyd y gwledydd â’i gilydd yn 2013, ac yn sgil y ffaith fod ei pholisïau addysg yn dal i fod yn gymharol newydd, ofna beirniaid y bydd y pryder yn parhau i’w system ysgolion.

Os bydd y sgorau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn gostwng ymhellach yng Nghymru, yna bydd llygaid y byd ar Fae Caerdydd eto am y rhesymau anghywir.

Ac nid enw da yn unig sydd yn y fantol – rhagwela arweinwyr busnes y bydd perfformiad gwael ym mhrofion PISA yn cael effaith ar ffyniant economaidd gwlad.

Yn ôl yr hyn a ddywedan nhw, os bydd Cymru’n gwneud yn wael, bydd diwydiant yn llai tebygol o fuddsoddi yn y wlad.

Ar hyn o bryd 468 pwynt yn unig yw sgôr gyfartalog Cymru mewn mathemateg – 30 pwynt yn is na’r Alban a 27 y tu ôl i Loegr.

Mae ei pherfformiad mewn gwyddoniaeth, maes cryfaf Cymru yn draddodiadol yn y profion PISA, wedi gostwng i 491 – y lefel isaf erioed.

Cymerodd Llywodraeth Cymru gysur yn sgôr darllen cyfartalog Cymru, a gododd yn 2013 o 476 i 480 o bwyntiau, er i’r genedl fethu â gwella’u safle yn yr un o’r tri mesur.

O roi popeth at ei gilydd, golygai fod system addysg Cymru wedi gostwng ym mhob un o’r tri maes – i safle rhif 43, 41 a 36 yn y drefn honno.

Mae’r her, felly, yn sylweddol ac mae’n mynd i gymryd amser i sicrhau gwelliant ar y raddfa sy’n ofynnol i godi Cymru’n uwch yn y safleoedd.  Nid oes ateb hawdd ac nid yw’r hyn sy’n gweithio mewn un cyd-destun o reidrwydd yn mynd i weithio mewn cyd-destun arall.

O roi llu o fentrau adferol i’r naill ochr, gwneir tasg Cymru’n anoddach fyth gan ddylanwad ac enw da diamheuol PISA fel un o brif gyrff ymgynghorol y byd.

Mae PISA yn tyfu’n barhaus ac fe wnaeth taleithiau Beijing, Jiangsu a Guangdong ymuno â Shanghai, a oedd ar y brig, i gynrychioli Tsieina am y tro cyntaf yn 2015 (mae bwlch o flwyddyn rhwng y profion a’r canlyniadau).

O gofio goruchafiaeth Shanghai mewn astudiaethau blaenorol, mae presenoldeb tri rhanbarth arall o Ddwyrain Asia yn debygol o rwystro gobeithion Cymru ymhellach o ymuno â haenau uchaf y byd.

Mae’n bwysig cofio nad yw Cymru ar ei phen ei hun o ran eisiau gwella ei phroffil PISA ac nid yw’r cenhedloedd sydd mewn cystadleuaeth â hi wedi bod yn sefyll yn eu hunfan chwaith.

Er hynny, bydd y system wleidyddol a’r cyfryngau cenedlaethol heb os yn mynnu atebion os bydd Cymru’n methu â bodloni’r OECD am y pedwerydd tro yn olynol.

Bydd dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ymateb a rhaid iddi ymddangos yn rhagweithiol wrth fynd ati i sicrhau gwelliant mewn perthynas â PISA.

Ond gallai ailwampio system ysgolion sydd eisoes yn dioddef effeithiau’r hyn mae’r OECD yn ei alw’n “flinder diwygio” beri oedi pellach yn natblygiad Cymru.

Mae tuedd Llywodraeth Cymru i fynd o un polisi i’r llall eisoes wedi cymhlethu pethau ac wedi gwanhau effaith rhai o’i mentrau addysg mwy addawol.

Yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw gweledigaeth glir a ffocws penderfynol ar gyflawni. Byddwn yn erfyn ar yr Ysgrifennydd dros Addysg, Kirsty Williams i ochel rhag ymateb yn gyflym heb ystyried yn llawn, ac i gyfyngu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i gynllun gwella cydlynol a chyraeddadwy.

Bydd yn cymryd gweinidog beiddgar i aros yn gadarn a pharhau ar y trywydd presennol, ond rhaid i Ms Williams wrthsefyll y temtasiwn i roi’r gorau i’r cynllun a dechrau o’r newydd.

Mae’n werth cofio bod ymateb Leighton Andrews i PISA – ei “gynllun 20 pwynt” rhagnodol –yn dal i weithio’i ffordd trwy’r system bum mlynedd yn ddiweddarach a byddai ailosod yr hyn sydd wedi’i ddechrau yn gwneud llawer mwy o niwed nag o les.

Yn fy marn i, ceir potensial heb ei gyffwrdd mewn cynghrair rhwng ysgolion, prifysgolion, consortia rhanbarthol a llywodraeth yn gweithio mewn partneriaeth “gyda’n gilydd yn gryfach” er lles pawb.

Mae’n destun calondid nad yw Ms Williams wedi ceisio cuddio’i hawydd i feithrin diwylliant o gydweithredu o fewn addysg yng Nghymru.

Yn ei hanerchiad diweddar i Gynhadledd Addysg Genedlaethol Llywodraeth Cymru, cydnabu Ysgrifennydd y Cabinet rôl allweddol athrawon yn gyfryngau ar gyfer newid a galwodd ar y proffesiwn i gymryd cyfrifoldeb am ei ddatblygiad ei hun.

Ond gyda her rhaid cael cymorth ac mae fframwaith strwythuredig i adeiladu capasiti o fewn y gweithlu addysg yn hanfodol.

Yn y tymor byr, byddai’n dda o beth i Ms Williams ystyried y canfyddiad cyffredinol o PISA ac a yw athrawon yn gwirioneddol gredu yn ei werth.

Mae angen ymdrech ar y cyd i godi Cymru’n uwch yn y safleoedd rhyngwladol ac mae’n anodd dychmygu cynnydd dramatig mewn perfformiad heb gael cefnogaeth o’r sector.

Mae Llywodraeth Cymru a rhannau helaeth o’r proffesiwn addysgu yn cyfleu negeseuon gwahanol ar hyn o bryd o ran PISA, sy’n cael ei ystyried gan lawer o ymarferwyr fel arf arall i guro ysgolion.

Ond nid yw troi cefn ar PISA yn opsiwn a byddai gwneud hynny’n peryglu mwy o niwed i enw da na’r hyn sy’n gysylltiedig â pherfformiad gwael.

Mae’n rhy hwyr i droi’n ôl nawr a chan fod Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn parhau i fod yn rhan o PISA nid oes gan Gymru unrhyw ddewis ond dal ati.

Er hynny, mae’r ffaith mai dim ond 89 o’r 213 o ysgolion uwchradd yng Nghymru a gofrestrodd ar gyfer prawf yn deillio o PISA, a luniwyd i baratoi disgyblion ar gyfer y math o asesiadau a ddefnyddir i ffurfio tablau cynghrair rhyngwladol, yn arwydd o’r teimlad llugoer ymhlith gweithwyr proffesiynol addysg.

Mae PISA’n bwysig ac mae’n profi’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n hanfodol yn y gymdeithas fodern – ond mae’n ddyletswydd ar Ysgrifennydd y Cabinet a’i chynorthwywyr i drosglwyddo’r neges gadarnhaol honno a sicrhau ymgysylltu ystyrlon.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried darparu ysgogiad ar gyfer cymryd rhan yn PISA ac, os oes angen, ar gyfer sicrhau perfformiad uchel fel modd o godi ei statws ymhlith y rhai mwyaf pwysig.

Os nad yw’r athrawon o ddifrif am PISA, yna pa obaith sydd gan y disgyblion?

  • Mae Gareth Evans yn Gyfarwyddwr Gweithredol Polisi Addysg yn Yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Leave a Reply