Yr Athrofa

Canolfan Addysg

Yr Athrofa yw canolfan addysg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Mae’n dwyn ynghyd ein rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon a chymwysterau proffesiynol eraill i addysgwyr yn holl sectorau’r system addysg; ein cyfleoedd dysgu proffesiynol a rhaglenni gydol gyrfa, a luniwyd drwy ddefnyddio ymchwil a chydweithrediad agos gyda’n hysgolion partner; ein harbenigedd mewn ymchwil addysg, prosiectau ac arbenigedd; a’n Canolfan Ddadansoddi ac Adolygu Polisi Addysg (CDAPA).


Podlediad yr Athrofa

Addysg Athrawon

Archwiliwch ein cyfres arloesol o raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon a ddatblygwyd ac a ddarparwyd ar y cyd ag ysgolion a cholegau ym Mhartneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA).  Mae ein portffolio yn cynnwys Addysg Gychwynnol Athrawon i’r sawl sy’n bwriadu addysgu yn y sectorau cynradd ac uwchradd, a rhaglenni amser-llawn a rhan-amser i’r sawl sydd â diddordeb mewn addysg ôl-16.

Dysgu Proffesiynol i Addysgwyr

Archwiliwch yr amrediad o raglenni a phrofiadau addysg sydd gennym i addysgwyr ym mhob sector a phob cyfnod. Dewch o hyd i amrediad o raglenni a fydd yn mynd â chi o raglenni meistr ôl-raddedig a doethuriaethau i gynllunio’r cwricwlwm ac arweinyddiaeth, i lythrennedd corfforol a rhaglenni iaith Gymraeg i athrawon.

Ymchwil Addysg

Mae’r Athrofa yn gartref i gymuned ymchwil weithgar iawn sy’n canolbwyntio ar ymchwil ac ymholiad agos-at-arfer. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys datblygu capasiti ymchwil mewn ysgolion ac ymgymryd ag ystod o brosiectau ymchwil.

Mae meysydd ffocws penodol yn cynnwys Celf, Creadigrwydd ac Addysg, Cwricwlwm a Dilyniant, Blynyddoedd Cynnar, Dysgu Proffesiynol ac Ymholiad Addysgegol mewn Addysg, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu a Chyfiawnder Cymdeithasol a Llesiant.

Polisi Addysg – Canolfan Ddadansoddi ac Adolygu Polisi Addysg (CDAPA)

Sefydlwyd Canolfan Ddadansoddi ac Adolygu Polisi Addysg (CDAPA) yn Awst 2018 er mwyn cyfrannu’n ystyrlon at ddatblygu trafodaeth ar bolisi addysg yng Nghymru.