Gareth Evans yn ymateb i feirniadaeth y Prif Arolygydd o system ysgolion Cymru…
Dywedir yn aml na all ansawdd system addysg ragori ar ansawdd ei hathrawon.
Ac nid yw hynny’n fawr o syndod, o gofio’r effaith arwyddocaol a pharhaol a gaiff athrawon ar y disgyblion yn eu gofal.
Mae athrawon yn weithredwyr newid a, hebddynt, does fawr o obaith i Gymru gyrraedd yr uchelfannau yr ydym ni i gyd yn anelu atynt.
Gan mwyaf, mae athrawon yn angerddol, yn gadarn ac yn adfyfyriol a’r rhinweddau hyn fydd yn eu galluogi i fwrw ymlaen yn ddygn â’r system addysg newydd a chyffrous yr ydym wrthi’n ei datblygu ar y cyd.
Ond nid yw athrawon uwchlaw beirniadaeth ac yn ei adroddiad blynyddol, a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon, tynnodd Prif Arolygydd Estyn, Meilyr Rowlands, sylw at yr amrywioldeb sy’n bodoli yn ysgolion Cymru.
Meddai, “addysgu yw un o’r agweddau gwannaf ar y ddarpariaeth yn y rhan fwyaf o sectorau”, ac roedd yn “dda” neu’n “well” mewn lleiafrif (dan 40% yn ôl diffiniad Estyn) yn unig o’r ysgolion uwchradd a arolygwyd y llynedd.
Mae Mr Rowlands yn portreadu darlun pryderus, ond rwy’n ei chael yn anodd credu bod ansawdd addysgu yng Nghymru wedi dirywio’n fawr o fewn 12 mis.
Yr hyn sydd wedi newid yn sylweddol, fodd bynnag, yw’r gofynion ar ein hysgolion wrth i ni baratoi ar gyfer cwricwlwm newydd radical gan wyro oddi wrth yr hyn mae Cymru wedi arfer ag ef.
Ar hyn o bryd mae yn agos at hanner miliwn o ddisgyblion yn mynychu mwy na 1,500 o ysgolion gwladol yng Nghymru.
Ni waeth faint yr ymdrechwn i sicrhau cysondeb, bydd amrywiadau o hyd – yn deillio i raddau helaeth o gyd-destun a daearyddiaeth ysgolion unigol.
Ond nid yw hynny’n golygu na allwn ddatblygu ymagwedd fwy strwythuredig a chynaliadwy at rannu arfer gorau.
Nod diwylliant newydd o gydweithio yw meithrin gallu o fewn y gweithlu addysg yng Nghymru ac mae hyn yn seiliedig ar yr ethos o system hunanwella.
Yn ôl Mr Rowlands, mae’r dull hwn yn cael “ei arwain gan yr ysgol, a’i gydbwyso gyda chymorth gan awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a Llywodraeth Cymru.”
Ond mae gan brifysgolion hefyd ran arwyddocaol i’w chwarae ac mae’n hanfodol fod gan athrawon y presennol a’r dyfodol y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i ddarparu cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru.
Bydd gwella ansawdd yr hyfforddiant sydd ar gael, ar bob cam yn natblygiad gyrfa, yn hanfodol ac nid yw cynnal y status quo bellach yn opsiwn.
Rydym yn byw mewn byd gwahanol iawn; mae datblygiadau technolegol wedi newid y meini prawf ac mae’r sgiliau lefel uwch a fynnir gan gyflogwyr wedi newid.
Mae beth a sut mae plant yn dysgu wedi esblygu – ond athrawon sydd yn y safle gorau o hyd i’n harwain trwy’r trawsnewid hwn.
Ysgrifennodd Mr Rowlands mai arweinyddiaeth oedd y ffactor mwyaf arwyddocaol a effeithiai ar welliant ac, yn yr ysgolion mwyaf llwyddiannus, roedd datblygiad proffesiynol staff ar bob lefel yn flaenoriaeth uchel.
Mater a berai bryder, fodd bynnag, oedd bod arweinyddiaeth a rheolaeth yn cael eu hystyried yn “dda” neu’n “well” yn oddeutu hanner yn unig o’r ysgolion a arolygwyd y llynedd.
Mae datblygiad Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol, sydd i’w groesawu er braidd yn hwyr, yn gydnabyddiaeth o’r bylchau canfyddedig yn y system.
Pan benodwyd Kirsty Williams yn Ysgrifennydd Addysg fis Mai diwethaf, roedd nifer o gynlluniau arwyddocaol ond bregus ar y gweill eisoes.
Mae ailwampio’r cwricwlwm cenedlaethol yn sylweddol, y ‘fargen newydd’ a addawyd ar gyfer y gweithlu addysg a dull newydd o hyfforddi athrawon oll wedi’u datgan yn flaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth Cymru wrth symud ymlaen.
Ond er eu bod yn gryf o ran y darlun ehangach, i raddau roedd y manylion mewn perthynas â’r tri chynllun yn brin.
Wrth symud ymlaen, bydd yn rhaid i Ms Williams hwyluso cydgysylltu’r gwahanol agweddau.
Ond er mwyn iddi allu gwneud hynny bydd angen ewyllys a chefnogaeth gyfunol y gymuned addysg ehangach.
Rhaid i ni rymuso ysgolion i gefnu ar draddodiad a thorri cwys newydd ar gyfer addysg Cymru.
Rhaid i athrawon, darlithwyr a’r holl ddarparwyr addysg eraill roi eu rhwystrau o’r neilltu a gweithio mewn partneriaeth i ddatgloi’r potensial aruthrol sy’n bodoli yng Nghymru.
Ni ellir dianc rhag y ffeithiau ac mae adroddiad Mr Rowlands yn un difrifol i’w ddarllen. Ond gyda’n gilydd, mae gennym gyfle gwych i unioni pethau.
- Mae Gareth Evans yn Gyfarwyddwr Gweithredol Polisi Addysg yn Yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant