Nhw fu ffrind gorau dyn ers miloedd o flynyddoedd.
Ond dim ond yn awr mae pobl yn dechrau sylweddoli manteision dysgu gyda chŵn yn ystafelloedd dosbarth Cymru.
Mae ysgolion yn ne-orllewin Cymru wedi agor eu drysau i sawl ci bach mewn ymgais i godi hyder a hunan-barch disgyblion.
Nod y cynllun arloesol ‘Burns By Your Side’ yw helpu plant mewn amrywiaeth o leoliadau i ddatblygu eu sgiliau darllen a chyfathrebu.
Soniodd un pennaeth am y “llonyddu” ar ddisgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig.
Mae’r cynllun yn darparu cyfle i ddisgyblion ddarllen – fesul wythnos neu bob pythefnos – gwirfoddolwyr a’u cŵn, fel arfer mewn sesiynau sy’n rhedeg yn ystod tymor ysgol.
Fel arfer, bydd gwirfoddolwr yn treulio tua 15 munud gyda phlentyn fesul un ac yn cadw cofnod byr o bob sesiwn.
Hyd yn hyn, mae’r cynllun wedi cynnwys nifer fach o ysgolion (cynradd, uwchradd ac arbennig) a lleoliadau – megis llyfrgelloedd a meithrinfeydd – ar draws rhanbarth de-orllewin Cymru.
Mae astudiaeth gychwynnol i archwilio effaith dod â chŵn i ystafelloedd dosbarth, ac a hwyluswyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wedi datgelu rhai canlyniadau addawol.
Mae’r holl ysgolion a’r holl blant dan sylw wedi rhoi adroddiad cadarnhaol ar y fenter ac mae athrawon yn nodi bod disgyblion yn ymateb yn gadarnhaol i bresenoldeb y cŵn, yn edrych ymlaen at sesiynau ac yn awyddus i gymryd rhan.
Meddai Helen Lewis, Arweinydd y Rhaglen TAR Cynradd a chydlynydd Burns By Your Side Y Drindod Dewi Sant: “mae’r ci yn wrandäwr anfeirniadol, gall ei bresenoldeb dawelu darllenwyr amharod a phryderus a’u helpu i ymlacio .
“Wrth i drinwyr weithredu i gefnogi’r broses ddarllen, gall darllen i gi gynorthwyo plant i wneud synnwyr o destun a’u hannog i fynegi ymatebion personol mewn amgylchedd diogel.
“Nid yw cŵn yn barnu, yn edrych ar eu wats os yw’n cymryd llawer o amser i ddarllen tudalen, nac yn ocheneidio mewn rhwystredigaeth os bydd camgymeriadau – maen nhw’n gwmni parod ac mae eu tawelwch yn dweud cyfrolau. ”
Yn dilyn llwyddiant astudiaeth beilot darllen gyda chŵn, bellach mae Burns By Your Side ar waith gyda’r Drindod Dewi Sant a nifer fwy o ysgolion er mwyn cyflawni corff mwy trylwyr o ymchwil.
Mae’r trefnwyr yn cynnal adolygiad dulliau cymysg, systematig ar effaith darllen â chŵn ar fetawybyddiaeth, agweddau at ddysgu a lefelau darllen mewn ystafelloedd dosbarth ledled de Cymru.
Ym mhob un o’r 12 ysgol sydd ar hyn o bryd yn cymryd rhan yn y prosiect, nodwyd rhwng pedwar a chwech o blant a oedd yn cael trafferth gwneud cynnydd gyda’u darllen ac maen nhw’n cael sesiwn wythnosol gyda’r ci gwadd a’r triniwr.
Ar ddechrau’r prosiect cafodd y plant asesiadau gwaelodlin, megis profion darllen a safonwyd a mesurau eraill o agwedd tuag at ddysgu.
Cafodd grŵp tebyg o blant nad oedd yn y grŵp ymyrraeth yr un profion i ddarparu mesur prawf.
Ar ddiwedd yr ymyriad, a fydd wedi para am flwyddyn academaidd, caiff y profion eu hailadrodd a dadansoddir y canlyniadau.
- I gael rhagor o wybodaeth am y gwerthuso, anfonwch e-bost at: h.e.Lewis@uwtsd.ac.uk . Caiff ysgolion yn ne Cymru sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y fenter darllen gyda chŵn anfon e-bost at Carol Lincoln drwy: carol@burnspet.co.uk. Bydd adolygiad manylach o’r prosiect yn ymddangos yn rhifyn haf 2017 o gylchgrawn yr UKLA ‘ English 4-11’.