Mae prosiect peilot sy’n defnyddio cerddoriaeth i annog plant i ddysgu iaith yn cael ei gyflwyno ar draws ysgolion cynradd yn ne a gorllewin Cymru.

Mae’r prosiect cerddoriaeth teirieithog, Cerdd Iaith, yn ceisio mynd i’r afael â’r cwymp yn y niferoedd sy’n dysgu ieithoedd yng Nghymru.

O dan arweiniad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Cerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC, British Council Cymru ac ERW (Addysg trwy Weithio Rhanbarthol), mae cerddorion o’r gerddorfa’n gweithio ar y cyd ag arbenigwyr iaith sy’n gweithio gydag athrawon mewn ysgolion ar draws Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion er mwyn datblygu dulliau creadigol o ddysgu Cymraeg, Sbaeneg a Saesneg.

Ystyria’r prosiect, a ariennir gan Sefydliad Paul Hamlyn, sut y gall elfennau cerddorol iaith  – megis rhythm, ailadrodd ac odl – helpu gyda’r dysgu.

Mae gweithdai’n annog disgyblion i wrando ar synau iaith er mwyn gwella’r broses o ddatblygu a deall geirfa newydd.

Nododd yr adroddiad Language Trends Wales (2016), i British Council Cymru, a’r adroddiad Dyfodol Llwyddiannus (2015), gan yr Athro Graham Donaldson i Lywodraeth Cymru, fod dysgu ieithoedd yn cael anawsterau yng Nghymru.

Meddai’r Pennaeth Addysg yn British Council Wales, Chris Lewis: “Bu’r niferoedd sy’n dewis astudio ieithoedd modern mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru’n crebachu’n sylweddol ers dros ddegawd.

“Llynedd gwnaeth ein hadroddiad Language Trends Wales, sef yr ail arolwg cenedlaethol ar dueddiadau addysgu ieithoedd modern yng Nghymru, ganfod bod ysgolion yn ei chael hi’n anodd cynyddu nifer y disgyblion a oedd yn cofrestru ar gyfer TGAU mewn ieithoedd modern, a’r niferoedd isaf yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

“Yn rhan o’r strategaeth i atal y cwymp hwn, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i blant ddechrau dysgu ieithoedd yn gynt a nod y prosiect hwn yw cefnogi’r uchelgais hon trwy weithio’n uniongyrchol gydag athrawon i ddatblygu dulliau newydd a chyffrous sy’n seiliedig ar y celfyddydau, er mwyn dysgu ac addysgu ieithoedd mewn lleoliad cynradd.”

Yn ogystal, anela Cerdd Iaith at ddatblygu a chryfhau’r berthynas rhwng Cymru a Phatagonia, yn dilyn y dathliadau 150 mlynedd.

Ar y cyd â datblygu sgiliau iaith, mae’r disgyblion yn dysgu trwy gerddoriaeth am hanes y wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

Mae’r ddau dymor dysgu cyntaf wedi ystyried datblygu dulliau addysgu newydd, gan ddefnyddio megis caneuon teirieithog a ddefnyddiwyd gan y cyfansoddwr o Gymro, Gareth Glyn.

Bydd y trydydd tymor yn helpu athrawon i archwilio sut y gellir rhoi’r dulliau newydd hyn ar waith.

Meddai Odette Nicholas, dirprwy bennaeth yn Ysgol Gynradd Porth Tywyn, yn Sir Gâr: “Mae Cerdd Iaith yn gyfle gwefreiddiol i weithio mewn cydweithrediad ag athrawon a phartneriaid creadigol i gymell a datblygu dysgwyr adfyfyriol, dychmygus.”

Meddai’r Athro Mererid Hopwood o’r Athrofa ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: “Bu’n gyfle ardderchog i archwilio gydag athrawon ysgolion cynradd sut mae disgyblion yn ymateb i synau geiriau.

“Ymddengys fod y dull yn datblygu gwerthfawrogiad o bwysigrwydd gwrando’n ddwfn a’r angen i greu’r amgylchedd cywir ar gyfer annog pobl i gymryd risgiau wrth i ni ddysgu ieithoedd newydd.”

Leave a Reply