Mae’r Athro Graham Donaldson yn adfyfyrio ar y gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm hyd yn hyn ac yn esbonio pam bod athrawon yng Nghymru wrth wraidd diwygio addysg…

 

Un o’r agweddau mwyaf boddhaol ar fy ngwaith yng Nghymru yw’r cyfle y mae’n ei roi i mi gwrdd â phobl ifanc, myfyrwyr ac athrawon a gweld arfer rhagorol drosof fy hun.

Mae’r brwdfrydedd tuag at ddiwygio’r cwricwlwm yng Nghymru yn amlwg ac mae’n glir i mi fod llawer y gellir adeiladu arno o ran beth sy’n digwydd eisoes mewn ystafelloedd dosbarth ar draws y wlad.

Mae’r cwricwlwm newydd yn dechrau datblygu. Eisoes mae gennym Fframwaith Cymhwysedd Digidol sy’n arwain y byd a gafodd groeso gan athrawon.

Mae’r ffordd y cafodd y Fframwaith ei ddatblygu ac y mae bellach yn ymwreiddio mewn ysgolion, yn cyflwyno model gweithredol o ddulliau yng Nghymru ar waith. Trwy gyfuno arbenigedd sy’n deillio o ymchwil ac arfer â manteisio ar y syniadaeth gyfredol orau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, mae Cymru yn torri tir newydd ym maes diwygio addysg.

Ar sail y cyfeiriad eang a osodwyd yn y ddogfen ‘Dyfodol Llwyddiannus’, mae athrawon mewn ysgolion arloesi a’u cydweithwyr yn fwy eang yn mynd i’r afael â nifer o faterion anodd iawn wrth iddynt ddatblygu’r Meysydd Dysgu a Phrofiad. Hyd yn hyn mae’r cynnydd yn galonogol.

Bydd llwyddiant yn y pen draw yn dibynnu ar beth sy’n digwydd ymhob ystafell ddosbarth a phob ysgol ar draws Cymru. A bydd hynny’n dibynnu ar y graddau y bydd athrawon ac ymarferwyr addysg yn fwy cyffredinol yn credu ym mhwysigrwydd y cwricwlwm newydd ac yn teimlo’n hyderus ac yn fedrus ynghylch eu gallu i’w wireddu ar gyfer y bobl ifanc dan eu gofal.

Dyna pam nad diwygio’r cwricwlwm a’r asesu’n unig mo Cymru. Un o’r gwersi cryfaf sy’n deillio o ymchwil ynghylch diwygio addysg yw’r angen i ddynodi a gosod yn eu lle’r amodau sydd eu hangen er mwyn llwyddo.

Mae hynny’n golygu dynodi goblygiadau i ddysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth yn ogystal â sicrhau bod systemau atebolrwydd yn helpu ac nid yn rhwystro gwireddu’r cyfleoedd a gynigir gan y cwricwlwm newydd. Mae Cymru efallai yn unigryw yn y ffordd drwyadl a chynhwysfawr y mae’n gwneud hynny’n union.

Mae’r dull arloesi’n gwreiddio’r gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm newydd yn yr ysgolion eu hunain. Trwy wneud hynny, bydd yn helpu i greu perchnogaeth go iawn ar y diwygio ymhlith y rheini a fydd yn gwneud iddo ddigwydd.

Wrth gwrs, nid yr ysgolion arloesi’n unig sy’n ymwneud â diwygio. Mae modd i ysgolion ac athrawon ar draws Cymru gyfrannu i’r gwaith datblygu a dylent wneud hynny.

Mewn llawer o ffyrdd, athrawon newydd sy’n dod i mewn i’r proffesiwn yn y blynyddoedd i ddod fydd ar flaen y gad gyda’r diwygio. Dyna pam mae gwaith ein prifysgolion mewn addysg athrawon mor bwysig.

Mae fy nghyfarfodydd â myfyrwyr dros y flwyddyn ddiwethaf yn awgrymu bod brwdfrydedd tuag at y diwygio ynghyd â dealltwriaeth dda o’r hyn y gallai ei olygu i’w gwaith nhw yn y dyfodol.

Mae llawer o benaethiaid wedi rhoi sylwadau cadarnhaol ynghylch agweddau cadarnhaol athrawon newydd gymhwyso. Rhaid i ni ddefnyddio’r brwdfrydedd hwnnw a pheidio â’i golli.

  • Mae’r Athro Graham Donaldson yn uwch gynghorydd i Lywodraeth Cymru ac ef yw awdur ‘Dyfodol Llwyddiannus’, y glasbrint ar gyfer cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru

Leave a Reply