Mae penaethiaid ysgolion ledled De Cymru wedi dweud eu bod nhw’n rhoi ar waith yn barod yr hyn y gwnaethant ei ddysgu wrth fynd ar ymweliad astudio i Ganada yn gynharach eleni.
Adfyfyriodd arweinwyr ysgol o ardaloedd GCA (Gwasanaeth Cyflawni Addysg), ERW a CCD (Consortiwm Canolbarth y De) ar eu gwibdaith haf i Ontario mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd gan yr Athrofa.
Gwnaeth yr ymweliad astudio, a ariannwyd gan y Cyngor Prydeinig, gynnwys cyfarfodydd gydag uwch-swyddogion Gweinyddiaeth Addysg Ontario, Coleg Athrawon Ontario a’r Swyddfa Ansawdd Addysg ac Atebolrwydd (EQAO).
Yn ychwanegol i’r rhain, trefnwyd ymweliadau ag ysgolion elfennol, canol ac uwch lleol, lle rhoddwyd i’r cynrychiolwyr y cyfle i rannu syniadau gyda phenaethiaid, athrawon a disgyblion.
Gwnaeth y symposiwm ‘Straeon o Doronto’, a gynhaliwyd yng nghanolfan newydd yr Athrofa, a leolir yn Tramshed Tech yng Nghaerdydd, gynnwys cyfraniadau gan staff y brifysgol, swyddogion Llywodraeth Cymru a phob un o bum pennaeth ysgol a wnaeth deithio i’r ddinas ym mis Mehefin.
Yn eu plith oedd Russell Dwyer, pennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas, Abertawe, a ddisgrifiodd yr ymweliad fel “ y profiad mwyaf gwerthfawr i mi ei gael yn ystod fy ngyrfa gyfan”.
Ychwanegodd: “Mae rhyw deimlad cryf o hyder cyhoeddus mewn addysg yn Ontario … ac roedd hefyd deimlad bod pawb, gyda’i gilydd, yn rhan ohono.
“Mae angen i ni ganolbwyntio yn fwy ar hynny yng Nghymru. Ar hyn o bryd, rydym, yn y bôn yn benseiri addysg yng Nghymru, ac mae rhaid i ni gymryd o ddifri’r cyfrifoldeb hwnnw a roddwyd i ni.
Dywedodd Tegwen Ellis, pennaeth Ysgol Cynwyd Sant, Pen-y-bont ar Ogwr, fod yr hyder sydd gan y cyhoedd yn addysg y wladwriaeth wedi rhoi i ysgolion Ontario y rhyddid i gymryd mwy o risgiau.
Roedd y canolbwyntio gan Ontario ar gydraddoldeb yn atyniad arbennig i Rhian Ellis, pennaeth Ysgol Gyfun Cymer Rhondda, Rhondda Cynon Taf.
Meddai “ Roedd hi’n fraint i ymweld â Toronto a gweld cymaint o bethau sydd wedi gwneud argraff ddwys arnaf.”
Gwelwyd hefyd, fel rhan o’r digwyddiad, lansio’r adroddiad ‘Straeon o Doronto’ gan yr Athrofa, sy’n cymharu addysg yng Nghymru a Chanada.
Mae’r adroddiad yn amlinellu nifer o ganlyniadau allweddol, ac mae’n cynnwys cyflwyniadau ysgrifenedig gan bob un o’r penaethiaid ysgol a aeth ar y daith.
Mae’n diweddu gyda rhestr o argymhellion ar gyfer Cymru a Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys gwneud gwell ddefnydd o ddata; creu perthnasau gwaith cryfach rhwng rhanddeiliaid; a datblygu naratif cyson ac iaith diwygio addysg a rennir.
Ymatebodd Steve Davies, Cyfarwyddwr Addysg Llywodraeth Cymru, i argymhellion yr adroddiad yn ei gyflwyniad a gynhaliwyd yn Tramshed Tech.
Dywedodd, “I finnau, mae’r her yn dod nôl i hyder ymhlith y cyhoedd”. “Mae angen i bob un ohonom sefyll ar ein traed a chydnabod beth allai, a beth ddylai ein rôl fod wrth i ni symud ymlaen.”
Meddai’r Athro Peter Rabbett, Dirprwy Ddeon Yr Athrofa ac arweinydd y cynrychiolwyr: “Gwnaeth ein symposiwm Straeon o Doronto roi i gynrychiolwyr fewnwelediad diddorol i un o systemau addysg blaenllaw’r byd.
“Roedd gan bob un o’n penaethiaid stori wahanol i’w dweud, er gwnaeth hefyd nifer o themâu ddod i’r golwg dro ar ôl tro – heb sôn am y cyfrifoldeb o gyflawni’r safonau uchaf posib a rennir gan bawb sy’n rhan o fyd addysg Ontario.
“Rydym yn ddiolchgar iawn am y cyfraniadau a wnaed gan ein cydweithwyr mewn ysgolion a chan Llywodraeth Cymru – ac roedd hi’n wych i weld sut mae gwersi a ddysgwyd yn Ontario yn effeithio yn barod ar addysgu a dysgu yng Nghymru.”
Mae copïau o Straeon o Doronto: Cymharu Addysg yng Nghymru a Chanada ar gael yma.