Mae Gareth Evans yn edrych ar ddatblygiad Dyfodol Llwyddiannus ac ymagwedd newydd at ei weithredu…

 

Ceir ym myd addysg duedd i chwyrlïo mewn cylchoedd.

Daw polisi newydd i mewn gyda bang ac ymadael yn ddistaw bach.

Yna, bydd yr holl gylchred yn dechrau eto.

Mae’n deg dweud bod system addysg Cymru wedi gwrthsefyll digon o newidiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Rhwng Y Wlad sy’n Dysgu gan Jane Davidson a chynllun 20 pwynt Leighton Andrews – rydym ni bron iawn wedi cael popeth.

Mathau newydd o atebolrwydd; cymunedau dysgu newydd; bygythion ofer a digon o ddadlau.

Ond daw amser pan fydd rhaid i system fod yn ddigon aeddfed i gadw at gynllun a gwrthsefyll y temtasiwn i ailddechrau.

Ni fydd mynd yn ôl ac ymlaen yn ddiddiwedd yn ennill unrhyw dir.

Diolch i’r drefn, mae’n ymddangos bod cytundeb eang ar y cyfeiriad rydym yn symud iddo – ac mae Dyfodol Llwyddiannus yn darparu colfach canolog y gallwn seilio ein hymdrechion cyfunol arno.

Dyma’r amser i dynnu llinell yn y tywod a dechrau rhoi cnawd ar yr esgyrn.

Ond nid yw diwygio’r cwricwlwm yng Nghymru wedi bod yn ddidrafferth.

Newid cyfnodau amser; cyfathrebu cyfyngedig rhwng ysgolion arloesi ac ysgolion nad ydynt yn ysgolion arloesi; ac adroddiad a ysgrifennwyd gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad a gododd amheuaeth ynglŷn â’r cynnydd a wneir.

Yn gynharach eleni, fe’n rhybuddiwyd gan Aelodau Cynulliad am yr anawsterau a’r heriau sy’n codi wrth drosi gweledigaeth yr Athro Donaldson yn weithredu diriaethol.

Y mae nifer o resymau am hyn…

Rwyf am i chi ddychmygu anifail mewn caets.

Mae wedi treulio lawer o flynyddoedd yn gaeth.

Mae’n byw mewn ystafell gaeëdig, a’i draed wedi’u cadwyno i’r llawr.

Sbarion yw ei fwyd – ac o dro i dro, caiff ei guro ar ei ben am anufuddhau i orchmynion a pheidio â chydymffurfio.

Swnio’n gyfarwydd?

Dychmygwch dorri’r anifail yn rhydd ac agor y drws, gan ddangos iddo fyd cyfan newydd – byd nad oedd braidd yn gwybod ei fod yn bodoli.

Mae’r anifail, sydd mor gyfarwydd â’i amgylchedd caeëdig, yn betrusgar.

Mae’n cropian i gyfeiriad y drws, ond nid yw am fynd allan oherwydd mae’n ofni’r hyn a allai ddigwydd.

Gwelai athrawon yng Nghymru eu bod hwythau mewn sefyllfa debyg.

Wedi’u rhyddhau o hualau’r diwygio o’r brig i lawr a chael caniatâd i fod wrth y llyw o ran datblygu’r cwricwlwm, mae’r rhain yn amseroedd tra gwahanol.

Nid yw athrawon bellach yn wylwyr goddefol.

Maen nhw wrth y llyw ac yn y canol.

Mae’r grym yn eu dwylo nhw.

Wrth edrych yn ôl, gan gofio am adroddiad y Pwyllgor, rwy’n teimlo efallai ein bod ni heb lawn werthfawrogi’r symud mewn diwylliant sydd ei angen er mwyn i athrawon arwain o ran datblygu polisïau.

Byddai wedi bod yn naïf i ni ddisgwyl i’n cwricwlwm newydd esblygu’n gyflym, a hynny heb unrhyw ddigwyddiad na rhwystr.

Mae hon yn ffordd newydd o weithio, gyda phawb yn teimlo eu ffordd.

Mae’n anodd haeddu ymddiriedaeth, ond mae’n hawdd ei cholli.

Ond mae’r momentwm yn dechrau symud, ac mae perthnasau newydd yn dechrau dwyn ffrwyth.

O ddechrau anaddawol, mae’r gweithgarwch arloesi yn dechrau cyflymu.

Dros y chwech i naw mis diwethaf, rwyf innau’n bendant wedi sylwi bod y gân wedi newid.

Mae optimistiaeth a chynnwrf wedi disodli rhwystredigaeth ac anesmwythyd.

Clywn yn aml fod y rhain yn amseroedd cyffrous i fod yn ymarferydd yng Nghymru.

A dweud y gwir, fe’i clywn mor aml nes iddo ddatblygu’n dipyn o cliché.

Ond yn bendant, y mae peth gwirionedd yn yr honiad nad oes erioed wedi bod gwell amser i fod yn athro yng Nghymru.

Pa mor aml y caiff y proffesiwn y cyfle i ddylunio, datblygu a gweithredu cwricwlwm cenedlaethol newydd?

Rhaid i bob un ohonom ni gydio yn y cyfle hwn gyda dwy law.

Bydd tipyn o amser cyn i’r cyfle godi eto.

A dweud y gwir, wn i ddim lle byddwn ni mewn degawd.

Erbyn 2027, bydd ein cwricwlwm cenedlaethol newydd wedi’i roi ar waith ar draws yr ystod oedran.

Ond, a fydd e’n wahanol iawn i’r hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd?

Dewch i ni wynebu ffeithiau, nid yw gweithredu polisïau addysg yn un o gryfderau Cymru.

Nid oes neb yn  gwybod yn iawn beth fydd diwedd hwn, na sut bydd y cwricwlwm newydd yn edrych.

Ond os nad yw Dyfodol Llwyddiannus wedi gwneud unrhyw beth arall, mae wedi bywiogi proffesiwn a oedd wedi hen ddiflasu.

Mae ethos cydweithredol newydd a chreu perthnasau wedi cael effaith ysgogol, ac rydym ni Gyda’n Gilydd yn Gryfach.

Ond nid ydym wedi cyrraedd y lan eto.

Os yw Dyfodol Llwyddiannus am lwyddo, bydd angen neges gyson a dealladwy arnom sy’n esbonio’r hyn sydd ei eisiau arnom a sut bwriadwn ei gael.

Nid yw ennill calonnau a meddyliau yn beth hawdd, ac mae ymgysylltu’n gadarnhaol yn ystod yr adeg hollbwysig hon i addysg yng Nghymru yn hollol hanfodol.

Ond mae diddymu’r hen rwystrau rhwng llunwyr polisïau a’r bobl maen nhw’n ei gwasanaethu yn mynd i gymryd llawer o amser ac egni.

Er hynny, rwy’n hyderus bod gennym ni yn Kirsty Williams Ysgrifennydd y Cabinet sy’n fodlon chwarae’r gêm hir.

Mae ei hymrwymiad i gydweithio a’i hawydd i dorri lawr yr hen seilos yn amlwg i bawb.

Ond mae gan wleidyddiaeth enw drwg am ymwneud â’r tymor byr, a sut gallwn ni fod yn sicr y caiff diwygio’r cwricwlwm yr amser sydd ei angen arno i esblygu?

Wel, a dweud y gwir, ni allwn. Nid oes dim yn sicr, a gallai ffactorau allanol, fel y profion PISA rhyngwladol, eto danseilio’r hyn rydym ni am ei gyflawni.

Y gwirionedd yw, mae Gweinidogion yn ffynnu ar enillion tymor byr.

Mae eu hoes wleidyddol yn lled fyr, ac am hynny, maen nhw’n byw am yr eiliad gan ddyheu am etifeddiaeth i’w gyrfaoedd.

Yn fy marn i, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn haeddu llawer o barch.

Drwy fynd ymlaen â chynlluniau gwleidydd o’r Blaid Lafur – dewch i ni beidio ag anghofio mai Huw Lewis a roddodd y mwyafrif helaeth o’r polisi cyfredol ar waith – gwrthsafodd Ms Williams y temtasiwn i’w rwygo ac ailddechrau.

Rhoddodd anghenion y system o flaen ei hanghenion ei hun.

Wrth wneud hynny, rhoddodd i’r sector y cyfle i anadlu, ac os bydd Dyfodol Llwyddiannus yn arwain at y system addysg chwyldroadol y mae pob un ohonom ni’n dyheu amdani, bydd hi wedi chwarae rhan fawr yn y broses o wneud i hynny ddigwydd.

Yn ôl y doethion, ni fydd Kirsty Williams yn y swydd pan aiff y cwricwlwm yn fyw. Felly, mae’n bosib mai parhad yw ei hetifeddiaeth, ac nid ymyrryd er mwyn ymyrryd.

Ac am hynny, dylem ni i gyd fod yn ddiolchgar.

  • Mae Gareth Evans yn gyfarwyddwr gweithredol polisi addysg yn yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Dyma ddarn o’i araith fel prif siaradwr yng nghynhadledd  Fforwm Polisïau Cymru: Camau Nesaf ar gyfer Diwygio’r Cwricwlwm a gynhali.

Leave a Reply