Mae’r dorf o newidiadau sy’n digwydd i system addysg Cymru yn ddigon i ddanto hyd yn oed yr athro mwyaf profiadol – felly dychmygwch sut beth fyddai trafod diwygio’r cwricwlwm i’r sawl sydd newydd ymuno â’r proffesiwn. Yma, mae Elaine Sharpling yn annog sgwrs agored a gonest rhwng addysgwyr ar bob lefel er mwyn paratoi pawb ar gyfer yr heriau sydd yn ein hwynebu…
Lawer o flynyddoedd yn ôl, dechreuais yn frwdfrydig fy hyfforddiant fel Nyrs Gofrestredig yn ysbyty Selly Oak, Birmingham, sydd bellach wedi’i ddymchwel.
Wrth feddwl yn ôl, roedd yr hyfforddiant hwnnw’n adlewyrchu llawer o agweddau ar daith darpar athro, sef treulio adegau yn yr Ysgol Nyrsio a leolwyd mewn rhan ddiflas o’r ysbyty a oedd unwaith yn dloty, a’i ddilyn gan nifer o brofiadau ar wahanol wardiau.
Nid oedd unrhyw fentoriaid ar y cyfryw, ac yn bendant nid oedd unrhyw ddealltwriaeth ffurfiol o’r rôl honno chwaith, ond roedd un arwydd gweladwy i ddangos fy mod yn nyrs newydd a dibrofiad nad oedd efallai ganddi’r atebion.
Yr arwydd hwnnw oedd un streipen lydan goch ar ein capiau. Roedd gan fyfyrwyr mwy profiadol un, dwy neu dair streipen las tywyll a oedd yn adlewyrchu eu lefelau o astudio.
Rhoddwyd i ni’r enw ‘streipiau cochion’ gan ein cydweithwyr, y cleifion a’r ymwelwyr, gan wybod mai camau cynnar oedd y rhain yn natblygiad ein sgiliau. Cofiaf yn glir iawn fy mod wedi gallu mesur tymheredd, gwneud gwelyau a chreu corneli fel newydd i ddillad gwely’r ysbyty ond roeddwn yn hollol ddigalon pan ofynnid i mi fesur pwysedd gwaed rhywun.
Wrth gwrs, dros gyfnod, datblygodd fy ngwybodaeth a’m sgiliau, ac roeddwn yn gallu gofalu am y claf mewn ffordd gyfannol gan roi’r unigolyn yn gyntaf ac edrych y tu hwnt i’r technegau meddygol gofynnol. Hysbysir bob amser y datblygiad hwn gan arbenigedd nyrs arall, a goruchwyliwyd yn agos y ‘streipiau cochion’ tan iddynt gyrraedd eu hannibyniaeth.
Mewn cyferbyniad i hyn, nid yw darpar athrawon yn gwisgo unrhyw fath o blât dysgu ‘D’ – a dweud y gwir, ni fyddai hyn yn arwydd defnyddiol i’r dysgwyr maent yn eu haddysgu. Ond i’r sawl ohonom sy’n ymwneud ag addysg athrawon, rhaid i ni gydnabod mai dyma union yr un sefyllfa y mae ein myfyrwyr yn ei phrofi yn yr ystafell ddosbarth.
Yn y llyfr Beginner Teachers’ Learning (2014), mae’r awduron yn ein hannog i gydnabod cymhlethdod addysgu a’r heriau y bydd rhaid i ddarpar athrawon eu hwynebu. O’r diwrnod cyntaf yn yr ystafell ddosbarth, mae angen ar ein darpar athrawon newydd iawn ddealltwriaeth o weithredu’r canlynol yn drwyadl:
- Cynllunio
- Strwythuro
- Dyfeisio
- Dod o hyd i adnoddau
- Gwahaniaethu ar gyfer disgyblion niferus
- Darparu adborth effeithiol
- Creu perthnasau ystyrlon.
Er i mi fesur tymheredd y claf a throi at nyrs arall i gofnodi’r pwysedd gwaed, ni all y darpar athro ddim ond dewis ymgymryd â’r agweddau uchod wrth addysgu gwers; rhaid iddo jyglo pob elfen er mwyn creu rhyw fath o daith ddysgu gydlynol, gyda chymorth cydweithwyr mwy profiadol.
Her arall yw bod yr athro profiadol, sy’n gallu, mae’n debyg, ystyried pob un o’r agweddau hyn yn ei dro, yn gwneud hynny’n ddigrybwyll mewn ffordd a allai fod yn anweladwy neu heb ei hesbonio i’r darpar athro. Mae’r diffyg gwelededd ac esboniad hwn yn gadael myfyrwyr mewn perygl o fethu deall y ‘pam’ sydd y tu cefn i benderfyniadau athrawon.
Heb y ddealltwriaeth ddofn hon, gall arfer darpar athrawon fod naill ai wedi’i seilio ar gamsyniadau neu hyd yn oed ar ddynwared yr athro dosbarth profiadol. Ni fydd y naill ymagwedd neu’r llall o unrhyw fudd wrth iddynt ddatblygu eu hunaniaeth eu hunain fel athrawon.
Mae’r broblem hon yn gofyn i ni fel addysgwyr athrawon i adfyfyrio ar ein dulliau wrth gynorthwyo dysgu darpar athrawon. Er enghraifft, rydym yn aml yn defnyddio arsylwi fel ffordd o ddeall byd cymhleth yr ystafell ddosbarth ac yn anfon myfyrwyr i wylio amrywiaeth fawr o wahanol athrawon sydd ag enw am fod yn arbenigwyr mewn rhai agweddau ar arfer.
Ond rydym yn cydnabod bod y dasg o arsylwi ar natur ddigrybwyll a chymhleth addysgu yn un amhosibl, ac ar ei gorau caiff myfyrwyr eu gadael yn dyfalu’n annigonol am yr hyn a ddigwyddodd.
Mae angen i ni fod yn llawer mwy cadarn wrth ofyn i’n hunain – ‘sut ydym yn cynorthwyo ein darpar athrawon i ddysgu am natur addysgu?’
Un ymagwedd ddefnyddiol yw bod darpar athrawon yn cael sgyrsiau gydag athrawon profiadol am benderfyniadau a wnaed yn yr ystafell ddosbarth. Nid yw’n dasg hawdd oherwydd mae rhannu a siarad am arbenigedd a dweud y gwir yn eithaf anodd wrth ystyried rhediad cyflym a natur gymhleth yr ystafell ddosbarth.
Caiff hyn ei waethygu’n bellach gan gyflwr yr ansicrwydd presennol wrth roi’r cwricwlwm newydd ar waith. Mae rhannu arbenigedd â myfyrwyr yn ddigon anodd ar gyfer cwricwlwm sefydledig gyda llwybrau cyfarwydd parthed sut caiff pethau eu cynllunio, eu haddysgu a’u hasesu; o fewn tirlun o ddiwygio, mae hyd yn oed yn fwy anodd.
Yn ei hanfod, er mwyn dysgu sut i addysgu, mae angen bod darpar athrawon yn cael sgyrsiau ystyrlon cyfredol gydag athrawon profiadol am sut caiff penderfyniadau eu gwneud yn yr ystafell ddosbarth. Ond mae’r cyfnod hwn yn un pan fydd y proffesiwn cyfan efallai yn teimlo’n ansicr iawn am y byd newydd.
Un ffordd ymlaen yw bod holl lefelau’r system, o ddarpar athro i’r sawl sy’n arwain, yn hyderus wrth agor trafodaethau am ddewisiadau addysgegol gan ardystio bod gan addysgwyr hunaniaeth unigryw, sef maent yn ddysgwyr ac yn athrawon.
Mae’r mantra ‘rydym yn dysgu i gyd a dysgu o hyd’ yn galonogol iawn i ddarpar athrawon ac a dweud y gwir, mae’n cofleidio priodweddau’r gallu a’r uchelgais.
Ni ddylid cynnal y math sgyrsiau yn ôl yr angen ond mae angen eu hymgorffori’n systematig mewn trafodaethau am arferion cwricwla’r dyfodol. Mae cyfleoedd cynlluniedig sy’n galluogi athrawon a darpar athrawon i rannu ac adfyfyrio ar syniadau yn fenter wir fuddiol.
Er bydd darpar athrawon bob amser yn ‘streipiau cochion’ a bydd gan athrawon profiadol gyfoeth o brofiad i’w ddefnyddio, nid oes cyfnod mwy hanfodol wedi bod erioed ar gyfer annog sgyrsiau gonest am y cwricwlwm a sut y gallai ei wireddu fod o fudd i bawb.
- Elaine Sharpling yw Cyfarwyddwr Addysg Gychwynnol Athrawon, Yr Athrofa: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant