Mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol cyntaf o’r Gweithlu Addysg wedi’u cyhoeddi ac, yn ôl Gareth Evans, ni ellir eu hanwybyddu…

 

Yn erbyn cefnlen o gyllidebau’n crebachu, pryderon am atebolrwydd a ffrwd gyson o straeon negyddol yn y wasg, nid yw’n syndod efallai mai cymysg oedd yr ymateb i’r Arolwg Cenedlaethol cyntaf o’r Gweithlu Addysg.

Er hynny roedd yn ymarfer pwysig yr oedd angen ei wneud.

Trwy weld sut mae’n chwythu yn y system addysg, gallwn ddeall yn well yr heriau sylfaenol i weithredu polisi’n llwyddiannus.

Yn fyr, gallwn adnabod problemau a chwilio am atebion.

Comisiynwyd yr arolwg gan Lywodraeth Cymru a’i hwyluso gan Gyngor y Gweithlu Addysg (EWC), a rhoddai gyfle i bob ymarferydd addysg cofrestredig – rhyw 72,497 ohonynt – fynegi eu safbwyntiau, eu cwynion a’u hanghenion ar gyfer symud ymlaen o ran addysg.

A gallent wneud hynny’n ddienw, ac yn gwbl ddiduedd.

Am y rheswm hwnnw roeddwn yn siomedig mai 14% yn unig (10,408) o’r rhai oedd yn gymwys i gymryd rhan a wnaeth hynny.

Gwnaeth mwyafrif helaeth yr ymarferwyr cofrestredig wrthod y cyfle i fynegi’u llais – prawf, os oedd ei angen, bod llawer mwy i’w wneud o ran ymgysylltu’n gadarnhaol â’r proffesiwn.

Beth bynnag oedd canfyddiadau cyfunol  yr arolwg, byddai wedi bod yn dipyn anoddach i’w anwybyddu petai nifer mwy arwyddocaol wedi cymryd rhan ynddo.

Wedi dweud hynny, nid wyf o’r farn y bydd yr arolwg hwn yn cael ei anghofio’n fuan iawn.

Dyma rai o’r prif ganfyddiadau:

  • Mae 33.6% o’r athrawon ysgol yn bwriadu gadael y proffesiwn o fewn y tair blynedd nesaf;
  • Nid yw 45.4% o’r athrawon ysgol yn gyfarwydd iawn neu’n gyfarwydd o gwbl â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol;
  • Mae 37.2% o’r athrawon ysgol yn mwynhau rhoi cynnig ar ddulliau addysgu newydd ac arloesol;
  • Dywedodd 78.1% o’r athrawon ysgol mai’r llwyth gwaith oedd yr agwedd leiaf dymunol  o’u swydd;
  • Roedd 88.3% o’r athrawon ysgol yn anghytuno neu’n anghytuno’r gryf eu bod yn gallu rheoli eu llwyth gwaith cyfredol yn effeithiol;
  • Dywedodd 68.7% o’r athrawon ysgol mai cost oedd un o’r prif rwystrau i ddatblygiad proffesiynol;
  • Nid yw 38.6% o’r athrawon ysgol yn gyfarwydd iawn neu’n gyfarwydd o gwbl â chynnwys ac argymhellion adroddiad yr Athro Graham Donaldson,  ‘Dyfodol Llwyddiannus’;
  • Dywedodd yr athrawon ysgol llawn amser eu bod yn gweithio 50.7 o oriau ar gyfartaledd yn ystod wythnos waith arferol;
  • Nid oedd 57.9% o’r athrawon ysgol wedi defnyddio’r safonau ‘Athrawon wrth eu Gwaith’ cyfredol neu safonau arweinyddiaeth wrth osod amcanion, cynllunio datblygiad neu adolygu perfformiad yn ystod y 12 mis diwethaf;
  • Roedd 84.9% o’r athrawon ysgol yn eithaf hyderus neu’n hyderus iawn yn y defnydd o TGCh yn eu gwaith;
  • Roedd 93.5% o’r athrawon ysgol o’r farn mai addysgu a gweld dysgwyr yn datblygu oedd yr agwedd fwyaf dymunol o’u swydd;
  • Mae 47.3% o’r athrawon ysgol yn bwriadu parhau i ddatblygu eu hymarfer dros y tair blynedd nesaf;
  • Dywedodd 20.2% o’r athrawon ysgol nad oedd y datblygiad proffesiynol perthnasol ar gael neu nad oedd o ansawdd digonol;
  • Dywedodd 77.4% o’r athrawon ysgol mai gwaith gweinyddu a gwaith papur oedd yn effeithio fwyaf ar eu gallu i reoli eu llwyth gwaith yn effeithiol;
  • Dywedodd 52.2% o’r athrawon ysgol y byddent yn dymuno cael rhagor o amser i allu trafod gwaith gyda dysgwyr a dywedodd 51.8% eu bod yn dymuno cael  rhagor o amser i gynllunio a pharatoi gwersi;
  • Dywedodd 17.8% o’r athrawon ysgol eu bod yn addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig neu yn bennaf, tra bod 76.6% yn addysgu trwy gyfrwng y Saesneg yn unig neu yn bennaf.

Yn ôl yr Ysgrifennydd dros Addysg, Kirsty Williams, roedd mynediad at ddysgu proffesiynol a hyder wrth gyflwyno a defnyddio TGCh yn elfennau cadarnhaol a ddeilliai o’r arolwg.

Ond, heb os nac oni bai, bydd pryderon ynghylch llwyth gwaith athrawon a’r ffaith nad ydynt yn gyfarwydd â’r diwygiadau i’r cwricwlwm a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol newydd.

Mae’r ffaith bod traean o’r athrawon yn bwriadu cefnu ar y proffesiynol yn ystod y tair blynedd nesaf yn rhybudd i ni i gyd.

Mewn rhai ffyrdd ni allai cyhoeddi’r arolwg fod wedi digwydd ar adeg waeth.

Yn ddiweddar lansiwyd ymgyrch genedlaethol newydd dan arweinyddiaeth pedwar consortiwm addysg rhanbarthol Cymru yn galw ar weithwyr proffesiynol i ‘Ddarganfod Addysgu’, ac nid ystadegau’r wythnos diwethaf yw’r hysbyseb orau i weithio mewn ysgolion.

Ond nid oes byth amser da i orfod wynebu’r gwir – ac roedd angen trafod arfarniad onest a phlaen o realiti gweithio yn y byd addysg yng Nghymru.

Am y rheswm hwnnw mae Ms Williams a’i swyddogion yn haeddu cryn dipyn o glod.

Byddai elfennau o’r arolwg yn ddarllen anodd unrhyw bryd.

Heb os, byddai ambell sgerbwd yn y cwpwrdd a thrwy agor y drws i ddadansoddiad beirniadol, mae Llywodraeth  Cymru wedi taflu goleuni ar nifer o ddiffygion pwysig.

Mae digon i gnoi cil arno a dylid canmol Ms Williams am fentro gwneud rhywbeth na welodd ei rhagflaenwyr yn dda i’w wneud.

Ond mae nifer o’r canfyddiadau wedi’u nodi o’r blaen, fel y gwnaeth Prif Weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg, Hayden Llewellyn yn glir ar y diwrnod y rhyddhawyd yr adroddiad.

Meddai: “Mae’r canlyniadau hyn yn codi’r llen ar nifer o’r heriau proffesiynol mae ein staff mewn ysgolion ac AB yn eu hwynebu ac yn cynnig data cadarn i ategu rhai o’r straeon a glywn yn aml.”

Mewn gwirionedd, cydnabu Ms Williams yr wythnos diwethaf yn ystod cyfarfod o Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad nad oedd Llywodraeth Cymru wedi dod o hyd i’r ateb i “broblem barhaus y llwyth gwaith” a’i bod yn “agored i awgrymiadau”.

Ond mae ei dadleniad bod ‘Prosiect Biwrocratiaeth’  ar waith – “profi ein hunain i wneud yn siŵr nad ydym ni’n mynnu gan y proffesiwn bethau nad ydynt wir yn ychwanegu gwerth at addysgu a dysgu” – yn rhywbeth calonogol ac yn brawf bod gwneuthurwyr polisi yn barod i addasu.

Eto i gyd mae llawer mwy o waith i’w wneud ac mae’n hanfodol fod Ms Williams yn ceisio cywiro’r hyn sydd, ym marn ein gweithlu addysg, yn mynd o chwith.

Mae’r diwylliant o gydweithio y mae Ms Williams wedi ceisio’n ddewr i’w feithrin ers ei phenodiad fis Mai diwethaf i’w weld yn eang ar draws holl agweddau datblygu polisi.

Ac mae’n seiliedig ar y cynsail ein bod ni i gyd yn bartneriaid yn y “genhadaeth genedlaethol” i godi safonau.

Bellach mae ganddi ar flaen ei bysedd sylfaen dystiolaeth i adeiladu ei hagenda diwygio.

Nid oes budd mewn cuddio rhag ystadegau ac mae’n rhaid i safbwyntiau’r gweithlu fod yn flaenllaw a chanolog wrth i ni barhau â’n taith i sicrhau gwelliant.

  • Gareth Evans yw Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi Addysg yn Yr Athrofa, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant