Mae gan athrawon yng Nghymru ganfyddiadau cyferbyniol ynglŷn â thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) sy’n effeithio ar y ffordd mae’r pwnc yn cael ei addysgu mewn ysgolion, yn ôl adroddiad newydd.
Cynhaliodd ymchwilwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd astudiaethau achos gydag athrawon mewn tair ysgol wahanol a gwelwyd bod amrywiad yn y canfyddiad o allu mewn TGCh ac arfer addysgegol.
Yn ôl yr ymchwilwyr mae’r amrywiad rhwng ysgolion yn awgrymu y gallai canfyddiad athrawon o allu mewn TGCh amrywio o gontinwwm o is-sgiliau neu is-dechnegau yn bennaf, i uwch-sgiliau yn bennaf yn cynnwys metawybyddiaeth.
Gwelwyd continwwm tebyg mewn perthynas â strategaeth addysgegol, yn amrywio o ddull athro-ganolog, mecanistig i ddull datrys problemau disgybl-ganolog.
Nododd yr adroddiad y gallai continwwm o ganfyddiad ynghylch gallu mewn TGCh ac arfer wrth addysgu TGCh fod â goblygiadau i ddilyniant dysgwyr yn y pwnc.
Meddai: “Mae’r amrywiad mewn canfyddiad rhwng gallu technegol a metawybyddol mewn TGCh yn awgrymu bod dysgwyr ar draws Cymru yn debygol o brofi ffocysau gwahanol o fewn gwersi TGCh.
“Dangosodd yr astudiaethau achos fod athrawon a dybiai fod gallu mewn TGCh yn rhywbeth sy’n seiliedig ar offer yn defnyddio dull mwy mecanistig i’w haddysgu, tra bod y rhai a dybiai fod gallu mewn TGCh yn gofyn am ddefnyddio sgiliau metawybyddol yn tueddu addysgu gan ddefnyddio dull datrys problemau sy’n caniatáu datblygu’r sgiliau hynny.
“O safbwynt addysgu, gallai hyn olygu y bydd rhai disgyblion yn parhau i ddisgwyl cyfarwyddyd uniongyrchol a chael eu ‘bwydo’ fel oedd yn amlwg yn y dull mecanistig, oherwydd dyma’r ffordd maen nhw’n gyfarwydd â chael eu haddysgu yn y pwnc.
“Ymhellach, mae disgyblion a addysgir yn y modd yma’n debygol o ystyried TGCh yn syml fel offeryn. Mewn cyferbyniad, mae disgyblion eraill sydd wedi cael profiad o ddull datrys problemau o ddatblygu gallu mewn TGCh yn fwy tebygol o allu’i ddefnyddio fel modd o ddatrys problemau a chreu datrysiadau yn y gweithle.
Cynhaliwyd yr astudiaeth – Investigating Teacher Perceptions of Teaching ICT in Wales – gan Dr Jan Barnes, o’r Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a Dr Steve Kennewell, o Brifysgol Metropolitan Caerdydd.
Nododd fod disgyblion 11 i 14 oed yng Nghymru yn profi “amrywiad eang yn y wybodaeth a’r sgiliau fel sylfaen ar gyfer datblygiad pellach o fewn cyrsiau arholiad”, sydd â “goblygiadau ar gyfer cyflogadwyedd a chreu gweithlu â gallu digonol mewn TGCh”.
Yn ôl yr adroddiad, un o’r prif ddadleuon sy’n cefnogi’r angen am newid yn y cwricwlwm yw “nad yw’r ddarpariaeth bresennol yn creu digon o sgiliau datrys problemau a metawybyddiaeth ar ddiwedd eu haddysg i adeiladu gweithlu economaidd sydd â’r gallu i gynorthwyo Cymru i gystadlu mewn byd digidol”.
Mae casgliadau’r adroddiad yn seiliedig ar ddata a gasglwyd ym mhob ysgol dros gyfnod o naw mis.
Cynhaliwyd cyfweliad cychwynnol gydag athro ym mhob ysgol , arsylwyd arno ef/hi’n addysgu gwers a chafwyd deialog adfyfyriol. Yna cafwyd cyfnod arsylwi ac adfyfyrio arall gyda chyfweliad arall i gloi.
- Gellir gweld yr astudiaeth yn llawn yma: Investigating_Teacher_Perceptions+of_teaching-ICT_in_Wales