Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau’n ddiweddar i leihau nifer y disgyblion sy’n sefyll eu harholiadau TGAU yn gynnar wedi cynnydd amlwg yn nifer y rhai sy’n gwneud hynny. Yma, gan ysgrifennu’n benodol ar gyfer yr Athrofa, mae Ysgrifennydd y Cabinet Kirsty Williams yn esbonio pam…
Yr haf hwn gwelwyd cynnydd anferth yn nifer y bobl ifanc oedd yn sefyll eu harholiadau TGAU flwyddyn yn gynnar.
Mae hyn yn dilyn tueddiad diweddar lle mae rhai grwpiau cyfan ym Mlwyddyn 10 wedi bod yn sefyll arholiadau a hwythau ddim ond wedi astudio hanner y maes llafur.
Oherwydd hyn, gofynnais i’r rheoleiddiwr annibynnol, Cymwysterau Cymru, adolygu’r arfer hwn.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r amryw weithwyr o fyd addysg a gefnogodd y gwaith hwn, ynghyd â’r holl athrawon, rhieni a dysgwyr wnaeth gysylltu â mi am y mater. Dyma rai o brif gasgliadau Cymwysterau Cymru:
- Mae’r defnydd eang a pharhaus o gofrestru dysgwyr i sefyll arholiadau TGAU yn gynnar a mwy nag unwaith yn peri risg i fyfyrwyr ac i’r system, ac nid yw’n hawdd cyfiawnhau hynny;
- Mae’n annog agwedd o “addysgu ar gyfer yr arholiad” ar draul datblygu gwybodaeth ehangach am y pwnc;
- Gwariwyd dros £3.3m gan ysgolion ar gofrestru dysgwyr i sefyll arholiadau TGAU yn gynnar yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
Fel Ysgrifennydd Cabinet, rwy’n gweld codi safonau, lleihau’r bwlch o ran cyrhaeddiad, a sicrhau system y mae gan y cyhoedd hyder ynddi, yn elfennau canolog o’n cenhadaeth genedlaethol.
Gan ganolbwyntio ar hynny, mae’n glir imi nad yw’r defnydd parhaus o gofrestru dysgwyr i sefyll arholiadau’n gynnar yn fuddiol i’n dysgwyr.
Rwy’n derbyn y gall cofrestru’n gynnar fod yn fanteisiol i gyfran fach o ddysgwyr mewn amgylchiadau penodol, er enghraifft dysgwyr sy’n barod i ddangos dealltwriaeth ehangach o’r pwnc ac sy’n dymuno dysgu mwy amdano.
Ond, yn syml, mae gormod o ddisgyblion yn cael eu hamddifadu o’r cyfle i gyrraedd eu llawn botensial.
Er enghraifft, fe wnaeth bron 9,500 o ddisgyblion sefyll arholiad TGAU Mathemateg-Rhifedd yn gynnar ym mis Tachwedd 2016 a chael gradd A neu is. Ni chafodd y rhain eu hail-gofrestru i sefyll yr un arholiad yr haf canlynol.
O’r disgyblion hynny, fe gafodd 30% radd C. I siarad yn blaen, mae’n syndod mawr na chafodd y disgyblion hyn gyfle i wella eu marciau. Derbyn canlyniadau yw hyn, yn hytrach nag ymdrechu i’w gwella.
Mae Cymwysterau Cymru hefyd yn tynnu sylw at y defnydd amhriodol o asesiadau TGAU at ddibenion ffurfiannol. Nid dyma ddiben TGAU.
Dylai fod gan ysgolion ffyrdd o asesu cynnydd dysgwyr a chynllunio dulliau addysgu a dysgu parhaus heb ddibynnu ar arholiadau TGAU allanol, sy’n bwysig ac yn gostus.
Er bod safbwyntiau gwahanol, mae’n amlwg bod amser addysgu yn mynd tuag at baratoi at arholiadau TGAU. Mae tystiolaeth bod llwyth gwaith yr athrawon a’r dysgwyr yn uwch, bod cynnydd yn y gwaith asesu, a mwy o debygrwydd y bydd dysgwyr yn blino ar arholiadau.
Mae Cymwysterau Cymru’n argymell yn glir y dylid newid mesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4 fel mai dim ond y canlyniad cyntaf sy’n cyfrif. Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn yn llawn. I fod yn glir: nid gwahardd ysgolion rhag cofrestru dysgwyr i sefyll arholiadau’n gynnar ydw i.
Bydd ysgolion yn parhau i allu dewis cofrestru dysgwyr yn gynnar. Fodd bynnag, bydd yn annog ysgolion i gofrestru dysgwyr pan fônt yn hyderus ac yn barod i gael y canlyniad gorau posibl.
Bydd ein pobl ifanc yn parhau i allu defnyddio eu canlyniad gorau. Dim ond o ran perfformiad ysgolion y bydd y newid yn cael effaith. Bydd hyn yn rhan o’n fframwaith asesu a gwerthuso ehangach y byddwn yn ei gyhoeddi’r flwyddyn nesaf.
Rwyf hefyd wedi derbyn safbwynt Cymwysterau Cymru y dylai ysgolion allu cofrestru dysgwyr i sefyll arholiadau Cymraeg a Saesneg Iaith am y tro cyntaf ym mis Tachwedd. Dim ond ar gyfer y ddau arholiad TGAU Mathemateg y mae modd gwneud hyn ar hyn o bryd.
Bydd hyn yn rhoi dewisiadau priodol a hyblyg i ysgolion o ran cofrestru dysgwyr yn gynnar os ydynt o’r farn y byddai hynny’n fanteisiol iddynt, yn enwedig o ran y rheini sy’n debygol o golli diddordeb neu sy’n barod i symud ymlaen at ddysgu pellach.
Mae’r amserlen ar gyfer y newidiadau yn bwysig. Pan gyhoeddwyd penderfyniad tebyg yn Lloegr, gorfodwyd ysgolion i ymateb i’r newidiadau o fewn ychydig ddyddiau, a hynny hanner ffordd drwy’r flwyddyn ysgol.
Yn wahanol i hynny, dw i wedi gwrando ar bryderon yr ysgolion. Dw i’n cydnabod bod angen amser ar ysgolion i gynllunio eu haddysgu, eu dysgu, a’u hymagwedd o ran TGAU.
O ganlyniad, ni fydd y newidiadau i’r mesurau perfformiad yn dod i rym nes adroddiadau haf 2019. Golyga hyn y bydd cyfrifiadau diwygiedig mesurau perfformiad ysgolion yn seiliedig ar ganlyniadau’r dysgwyr hynny sydd newydd ddechrau ym Mlwyddyn 10.
Penderfyniad y rheoleiddiwr fydd caniatáu sefyll arholiadau Cymraeg a Saesneg Iaith am y tro cyntaf yng nghyfres arholiadau mis Tachwedd, ond rwy’n deall eu bod yn bwriadu i’r opsiwn hwn fod ar gael i ysgolion yn y flwyddyn academaidd nesaf.
I gefnogi gwaith ysgolion o wneud penderfyniadau, bydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi canllawiau diwygiedig yn ddiweddarach yn y flwyddyn academaidd hon ynghylch pryd y gall sefyll arholiadau’n gynnar fod yn fanteisiol i ddysgwyr penodol, a phryd nad yw’n fanteisiol iddynt.
Mae’r newidiadau yr wyf wedi’u cyhoeddi’n rhan o’n trefniadau pontio ar gyfer atebolrwydd, a byddant yn helpu ysgolion i weithredu er lles y dysgwyr.
Mae TGAU yn arholiadau sydd wedi eu cynllunio i’w sefyll ar ôl dwy flynedd o addysgu, nid un. Bydd y newidiadau hyn yn sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael mynediad at gwricwlwm eang a chytbwys, sy’n canolbwyntio ar yr hyn sydd orau i’n pobl ifanc.
Os ydym yn ymrwymo i roi’r dysgwyr yn gyntaf bob amser, a sicrhau eu bod yn gallu cyrraedd eu potensial, yna gallwn fod yn hyderus y byddwn, gyda’n gilydd, yn parhau i godi safonau a lleihau’r bwlch o ran cyrhaeddiad.
- Kirsty Williams yw Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg