Mae clymblaid flaenllaw o arbenigwyr wedi rhoi eu cynigion ar sut orau i wella system addysg Cymru.
Yn ei adroddiad sefydlu i’r sector, gwnaeth Comisiwn Addysg Cymru annog gweinidogion i ystyried y ‘strwythurau ymarferol’ sydd eu hangen ar gyfer cefnogi gwella ysgolion, gan argymell datblygu “ fframwaith arweiniol” er mwyn tanategu amcanion cenedlaethol.
Meddai’r Comisiwn, sy’n dod â meddylwyr addysgol at ei gilydd o bob rhan o’r byd, bod meithrin gallu o fewn system addysg Cymru yn “anhepgor” os ydym am weithredu’n llwyddiannus agenda diwygio uchelgeisiol Llywodraeth Cymru.
Mae’r adroddiad yn dilyn yn sgil cyhoeddi canlyniadau rhyngwladol ‘Pisa’, a wnaeth restru addysg yng Nghymru y gwannaf yn y D.U. am y pedwerydd gwaith yn olynol.
Mae Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams wedi croesawu cyfraniad y Comisiwn, gan ddweud bod dysgu sydd wedi’i seilio ar arfer gorau rhyngwladol yn ganolog i waith Llywodraeth Cymru.
Yn ei adroddiad, gwnaeth y Comisiwn ystyried ‘Cymwys am Oes’ – cynllun gwella addysg Llywodraeth Cymru ar gyfer plant rhwng tair a 19 mlwydd oed yng Nghymru, hyd at 2020.
Gwnaeth hefyd groesawu ymrwymiad Ms Williams i ddatblygiad “system hunan-wella” ond gwnaeth ofyn am sicrwydd y byddai ysgolion yn cael eu cefnogi’n iawn.
Dywedodd yr adroddiad “Pwysleisiwyd gan y Comisiwn byddai meithrin gallu o fewn y gweithlu yn hanfodol pe baem yn disgwyl bod athrawon yn mabwysiadu rôl fwy sylfaenol wrth ddatblygu a chyflwyno system hunan-wella go iawn.”
“Gwnaeth yr aelodau amau trylwyredd a chysondeb y ‘sgaffaldio’ sy’n bodoli ar gyfer cynorthwyo athrawon i yrru ymlaen newid i’r system addysg yng Nghymru.”
Sefydlwyd Comisiwn Addysg Cymru gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) er mwyn helpu hwyluso gwelliannau mewn addysgu a dysgu.
Gofynnwyd i aelodau, pob un ohonynt â’i gofnod o lwyddiant rhagorol yn ei faes arbennig, i roi eu sylwadau ar y polisi addysg sydd eisoes yn bodoli, a chynnig awgrymiadau ar sail eu profiad a’u harbenigedd rhyngwladol.
Mae’r Comisiwn yn cynnwys Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru; Carol Campbell, Athro mewn Addysg OISE ym Mhrifysgol Toronto; Yr Athro Trevor Gale, Deon Ysgol Addysg Prifysgol Glasgow; Laura Perille, Prif Weithredwr EdVestors, sydd wedi ei leoli yn Boston; Mick Waters, Athro mewn Addysg ym Mhrifysgol Wolverhampton; David Woods, Athro mewn Addysg ym mhrifysgolion Warwig a Llundain; Yr Athro Jim Ryan, Deon Ysgol Addysg Prifysgol Harvard ar gyfer Graddedigion, Cambridge, Massachusetts.
Mae’r Comisiwn, a fydd yn cwrdd tair gwaith y flwyddyn i ystyried pob cyfnod o addysg, yn llinyn allweddol o Athrofa Addysg PCYDDS, sydd newydd gael ei sefydlu.
Yn ei adroddiad cyntaf, a gyhoeddwyd yr wythnos hon, awgrymwyd gan y Comisiwn y dylai Llywodraeth Cymru ystyried ychwanegu at ei hamcanion er gwelliant meini prawf llwyddiant penodol ar gyfer pob blaenoriaeth.
Meddai “Unwaith y cytunir ar y targedau, yna byddai strategaeth gyfathrebu glir yn sicrhau bod pawb sy’n ymwneud â’r cyflwyno yn ymwybodol o’r cyfeiriad teithio arfaethedig.”
“Awgrymwyd y dylid anfon crynodeb gweithredol o gynllun gwella Llywodraeth Cymru at bob sefydliad sydd yng Nghymru gyda neges gan Ysgrifennydd y Cabinet.”
“ Disgwylir y byddai’r cynlluniau mwy lleol a gafodd eu llunio gan y consortia rhanbarthol, yr awdurdodau lleol a’r ysgolion eu hunain yn alinio â’r weledigaeth genedlaethol gyffredinol hon.”
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Comisiwn yn Stadiwm SWALEC Caerdydd, ac yno, gwnaeth Ms Williams amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer system addysg i Gymru mewn araith bwysig i’r rhanddeiliaid allweddol.
Dywedodd yr Athro Dylan Jones, Deon yr Athrofa ac ysgrifennydd y Comisiwn, byddai dysgu wrth bartneriaid ar draws y byd o fudd enfawr i Gymru.
Meddai: “Mae’r cyfoeth o arbenigedd rhyngwladol yr ydym wedi dod i Gymru yn ein galluogi ni i adfyfyrio yn feirniadol, mewn ffordd arloesol, ar y datblygiadau a fydd yn briodol ar gyfer ein system addysg ni.”
“Rwy wrth fy modd gyda’r gefnogaeth a’r cymorth a ddarperir gan y grŵp hwn o unigolion enwog, pob un ohonynt, drwy ei waith ei hun, wedi ennill parch anferth am ei gyfraniad at wella addysg.”
“Yn ei gyfarfod sefydlu, gwnaeth y grŵp nifer o arsylliadau diddorol a fydd, rwy’n gobeithio, o les i Lywodraeth Cymru, wrth iddi barhau ar ei thaith ddiwygio uchelgeisiol.
“Mae Ysgrifennydd Addysg y Cabinet wedi galw am ‘gyfeillion beirniadol’ i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a helpu gyrru ymlaen newid cadarnhaol. Mae’n bleser gan y Comisiwn ateb y galw hwnnw.”
Meddai Ms Williams: “Mae dysgu sydd wedi’i seilio ar dystiolaeth ryngwladol a’r arfer gorau yn ganolog i’n diwygiadau addysgol. Mae’n amser cyffrous i fod yn rhan o godi safonau ac uchelgeisiau o fewn addysg yng Nghymru.”
“Felly, rwy’n croesawu cyfarfod ac adroddiad cyntaf Comisiwn Addysg Cymru, sydd wedi dod ag addysgwyr enwog at ei gilydd er mwyn rhannu nifer o syniadau a chynigion diddorol. Gwnaf barhau i groesawu eu mewnbwn a’u syniadau, y rhai a ddaw o gartref yn ogystal â’r rhai a ddaw o dramor, wrth i ni barhau gyda’n diwygiadau.”
Cliciwch yma: Adrodiad y Comisiwn