Anogir athrawon sydd â diddordeb mewn datblygiad proffesiynol ysgogiadol i gofrestru am ddau gyfle dysgu proffesiynol cyffrous.

Mae’r Rhaglen Athrawon Rhagorol (Outstanding Teacher Programme – OTP) a’r Rhaglen Athrawon sy’n  Gwella (Improving Teacher Programme – ITP) yn gyrsiau rhyngweithiol ac ymarferol sydd wedi’u cynllunio’n bwrpasol ar gyfer codi datblygiad proffesiynol mewn addysg i lefel uwch.

Mae gan y ddau gwrs hanes cadarn o lwyddiant mewn ysgolion, gyda mwy na 200 o athrawon wrth eu gwaith yng Nghymru yn manteisio yn barod oherwydd ymagwedd gydweithredol unigryw’r rhaglenni hyn.

Drwy weithio gydag athrawon eraill, caiff cyfranogwyr eu cynorthwyo i herio’r ffordd maent yn meddwl am addysgu a dysgu o fewn amgylchedd cefnogol ac adfyfyriol.

Bydd Junnine Thomas-Walters o Athrofa Addysg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gweithio mewn partneriaeth gydag ysgolion ac OLEVI, y Ganolfan Ddysgu ac Addysgu Ryngwladol, er mwyn cyflwyno’r rhaglenni OTP ac ITP.

Hyd yn hyn, mae’r brifysgol wedi hwyluso rhaglenni ar gyfer cydweithwyr yn Abertawe, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Powys a Cheredigion – ond mae lle ar ôl i ymestyn ymhellach, ac mae hwyluswyr yn awyddus i weithio gyda phartneriaid ledled y wlad.

Wedi’u dylunio gan OLEVI, a’u hwyluso gan athrawon a darlithwyr profiadol, defnyddiwyd y rhaglenni OTP ac ITP yn effeithiol ym mhrosiectau Her Llundain a’r Dinasoedd mawr eu parch, a chânt eu cefnogi gan y National College, a leolir yn Lloegr.

Mae’r rhaglenni yn arbennig o effeithiol, oherwydd nid yn unig y maent yn cynorthwyo’r athrawon a’r arweinwyr gyda’u datblygiad proffesiynol, maent hefyd yn darparu mecanweithiau a fframwaith sy’n rhoi’r grym iddynt i sicrhau bod y gwelliant yn gyson ac yn gynaliadwy.

Mae’r rhaglen OTP yn cynnwys tri diwrnod cyfan a thri hanner diwrnod dros gyfnod o ddeng wythnos, sy’n golygu cyflwyno sesiynau grŵp mewn ysgol letyol, ynghyd ag ‘ymarfer yn yr ysgol’ a gaiff ei gynnal yn ysgolion cartref y cynrychiolwyr, yn ogystal ag ysgolion partner.

Drwy gydol y rhaglen, gall cynrychiolwyr gymhwyso eu dysgu ac ymgymryd ag arsyllu ar gymheiriaid.

Gwnaiff cyfranogwyr ganolbwyntio ar ystod o agweddau addysgu a dysgu, megis herio, ymgysylltu, asesu, gwahaniaethu, holi, cynllunio a hyfforddi.

Mae’r ITP yn cynnwys chwe gwers dros gyfnod o chwe wythnos, gyda’r cynrychiolwyr wedi’u grwpio mewn triawdau er mwyn galluogi profiad dysgu a chynorthwyo dwys sy’n canolbwyntio ar anghenion yr unigolyn. Mae’r sesiynau yn cynnwys arsylliadau, gweithgareddau ymarferol, adborth a mentora cydweithwyr.

Bydd hefyd gyfle i redeg y rhaglen ‘Power of Coaching’, a gaiff ei chynnal o fewn yr OTP, fel rhaglen ar wahân.

Mae’r gyfres nesaf o raglenni, y gellid ei rhedeg naill ai drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, yn dechrau yn ystod tymor y gwanwyn, ac rydym yn awr ar agor i dderbyn ceisiadau.

Meddai Ms Thomas-Walters, arweinydd strategol  OTP/ ITP yr Athrofa:  “Rwyf wrth fy modd ein bod wedi cael cymaint o lwyddiant hyd yn hyn o ran hwyluso’r rhaglenni OTP ac ITP. Maent yn rhaglenni sy’n enghreifftio ansawdd a chyfanrwydd, gan alluogi athrawon i ragori  mewn ffordd gyson a chynaliadwy.

“Mae’r adborth a ddaw yn sgil y rhaglenni bob amser yn ardderchog, ac mae ymgysylltu’r athrawon ar y ddwy raglen yn ysbrydoledig.

“Rwyf wrth fy modd ein bod wedi llwyddo i greu ein hysgol gyflwyno bwrpasol gyntaf, sef Ysgol Gymunedol Cwmtawe, a wnaeth gydnabod potensial y rhaglenni o ran y staff ac er lles y disgyblion, ac a oedd hefyd am wneud gwahaniaeth i athrawon eraill.”

Meddai Lee Hitchings, pennaeth Ysgol Gymunedol Cwmtawe, Castell-nedd Port Talbot: “Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda PCYDDS am y ddwy flynedd ddiwethaf gan gyflwyno rhaglenni OTP ac ITP OLEVI ledled ardal ERW.

Hyd yn hyn, mae 50% o’n staff addysgu wedi derbyn hyfforddiant, ac mae’r ddwy raglen wedi cael effaith arwyddocaol ar ein hysgol. Maent wedi codi ansawdd yr addysgu a’r dysgu; gan ddarparu’r staff â strategaethau a sgiliau, a magu’r hyder i fod yn fwy arbrofol wrth gynllunio.

“Mae’r elfen gynllunio sy’n seiliedig ar driawdau wedi bod yn llwyddiannus dros ben, gyda’r staff yn ymgysylltu â chydweithwyr y tu allan i’w maes pwnc, yn cymryd perchenogaeth o wersi ei gilydd ac yn sgwrsio yn fanwl am gynllunio effeithiol a chreadigol. Mae’r adborth ar sesiynau arsyllu ar wersi wedi amlygu ymhellach welliant mewn ansawdd ac hunan-adfyfyrio craff.

“Hefyd, mae cynllunio gan ddefnyddio triawdau wedi hyrwyddo ethos ‘drws agored’, lle mae staff yn fodlon cael eu harsyllu er mwyn cynorthwyo datblygiad proffesiynol eu cydweithwyr.”

Mae’r rhaglenni yn costio rhwng £590 (ITP) a £620 (OTP), ac am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r gweinyddwr dysgu proffesiynol Leslie Morgan, os gwelwch yn dda, gan ddefnyddio lesleymorgan@uwtsd.ac.uk neu 01792 482070.