Tyrrodd cant a mwy o bobl o Gymru a thu hwnt i gynhadledd bwysig ar un o gonglfeini cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru.
Trefnodd Athrofa’r Drindod Dewi Sant gynhadledd arbennig ar Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu ar ei champws yng Nghaerfyrddin Ebrill 6-7.
Dyma gynulliad Ymchwil mewn Addysg cyntaf yr Athrofa, a rhoddodd sylw blaenllaw i un o chwech ‘Maes Dysgu a Phrofiad’ yr Athro Graham Donaldson, gan drin a thrafod addysgeg, asesu ac agweddau at amlieithrwydd.
Un o’r cyfranwyr mwyaf ysbrydoledig oedd Yr Athro Piet Van de Craen, newro-ieithydd o Brifysgol Vrije ym Mrwsel a ddatgelodd yn glir fanteision gwybyddol dwy ac aml-ieithrwydd.
Dangosodd Inma Muñoa, o Brosiect Ikastola Donostia/San Sebastian, mewn ffordd ymarferol sut y mae cenhedlaeth newydd o ddisgyblion tair-ieithog yn codi yng Ngwlad y Basg wedi iddynt fabwysiadu dull addysgu a adwaenir fel ‘CLIL’ (Content and Language Integrated Learning) yn yr ystafell ddosbarth.
Mae’r dull hwn, sydd wedi arwain at lwyddiant ysgubol mewn ardaloedd y tu hwnt i wledydd Ynysoedd Prydain yn caniatáu i’r ail a’r drydedd iaith ‘ddianc’ tu hwnt i ffiniau’r gwersi iaith traddodiadol a dod yn gyfrwng dysgu agweddau eraill ar y cwricwlwm.
Roedd y gynhadledd yn gyfnewidfa-syniadau fuddiol, nid yn unig rhwng staff prifysgol ac athrawon o wledydd gwahanol, ond hefyd o ardaloedd gwahanol o Gymru.
Cafwyd ymdriniaeth egnïol o waith Canolfan Iaith Gwynedd gan yr arbenigwraig, Carys Lake, a esboniodd ddull y Ganolfan o drochi newydd-ddyfodiaid yn y Gymraeg.
Datgelodd Ashley Beard, cyn-fyfyrwraig PhD YDDS, am y tro cyntaf ffrwyth ei hymchwil pwysig i ddulliau addysgu ‘Cymraeg Ail Iaith’ yn yr ysgolion cyfrwng Saesneg.
Yn seiliedig ar ymchwil manwl dros dair blynedd, cafodd ei hargymhellion groeso eiddgar gan y cynadleddwyr.
Ar ôl pob un o’r pedwar cyfraniad ar ddeg cafwyd trafodaeth frwd rhwng athrawon ysgol, darlithwyr prifysgol, cynrychiolwyr awdurdodau lleol, y llywodraeth a sefydliadau iaith, ynghyd ag unigolion eraill.
Yna, yn wledd i’r cynadleddwyr cafwyd eitem gerddorol mewn Sbaeneg, Cymraeg a Saesneg dros gyswllt fideo byw i Ysgol Llangennech, lle mae disgyblion wedi bod yn rhan o brosiect tair-ieithog Cerdd-Iaith ac wedi eu hysbrydoli gan arweinydd iaith ERW, Anna Vivian Jones.
Prosiect yw hwn sy’n bartneriaeth flaengar rhwng YDDS, ERW, Cerddorfa BBC Cymru a’r Cyngor Prydeinig yng Nghymru dan nawdd Sefydliad Paul Hamlyn.
I ategu hyn, rhoddodd pedwarawd talentog o Ysgol Bro Myrddin dan arweiniad eu hathrawes gerdd, Meinir Richards, ddatganiad godidog yn ystod swper y gynhadledd. Roedd y cynadleddwyr wedi eu swyno’n llwyr gan eu harmonïau agos.
Un o siaradwyr gwadd y swper oedd y gohebydd nodedig, Ashok Amir, o asiantaeth gyfathrebu ddwyieithog, Mela Media. Tynnodd ar ei brofiad personol o fod yn siaradwr sawl iaith – o Punjabi i Gymraeg – er mwyn pwysleisio manteision aml-ieithrwydd.
Yn gwmni iddo roedd ei dad yng nghyfraith, Dr Gareth Edwards, cyn Ddeon Cyfadran y Celfyddydau, Prifysgol Aberystwyth, a daflodd oleuni ar ddyddiau cynnar datblygu methodoleg addysgu dwyieithog gan siarad am ei brofiad o weithio yn yr un adran ag arloeswyr fel yr Athro Jac L Williams.
Meddai’r Athro Mererid Hopwood o’r Athrofa: “Mae’n braf iawn croesawu arbenigwyr o amrywiol ddisgyblaethau i ddod at ei gilydd i drafod iaith yng nghyd-destun cwricwlwm ysgol, ac i fwrw goleuni ar bosibiliadau dysgu ieithoedd i ddisgyblion yng Nghymru a thu hwnt.”
Cynhaliwyd y gynhadledd mewn cydweithrediad â Chymdeithas Addysg Ewrop Y Rhanbarthau (CAER), sydd dan gadeiryddiaeth Dr Hywel Lewis o YDDS.
Noddwyd y gynhadledd gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.