Yn ystod ei hymweliad diweddar â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, cyflwynwyd i’r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams ymagwedd newydd radical at addysg athrawon.

Bu’r Is-Ganghellor, yr Athro Medwin Hughes a’r Athro Dylan Jones, cyfarwyddwr Yr Athrofa,  yn amlinellu eu gweledigaeth uchelgeisiol i rymuso athrawon ac i gefnogi ysgolion i ddatblygu’r gweithlu addysg.

Cyflwynodd yr Athro Jones dri llinyn craidd Yr Athrofa – y Bartneriaeth Dysgu Proffesiynol; Canolfannau Ymchwil ac Arloesi; a Chomisiwn Addysg Cymru – sy’n adeiladu ar hanes balch addysg athrawon yn Ne-orllewin Cymru.

Cafodd y Bartneriaeth Dysgu Proffesiynol, a luniwyd ar sail parch cydradd a chyd-atebolrwydd, ei sefydlu gyda grŵp o 120 o ysgolion ledled Cymru ac mae wedi ail-ddiffinio’r modd y gellir darparu addysg gychwynnol athrawon (AGA) a dysgu proffesiynol.

Y canlyniad clir fydd datblygu cwricwlwm AGA newydd, gyda’r brifysgol ac ysgolion partner yn gyfrifol ar y cyd am lunio a darparu’r holl raglenni hyfforddi.

Mae’n wyriad radical oddi wrth ddulliau addysg athrawon mwy traddodiadol ac mae’n dilyn cyfarwyddyd clir gan Ms Williams bod angen i system AGA Cymru newid.

Meddai’r Athro Jones: “Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi galw am ailwampio AGA yng Nghymru ac rydym yn cydnabod rôl bwysig prifysgolion, mewn partneriaeth ag ysgolion, o ran codi safonau.
“Mae’n hanfodol fod gan athrawon y presennol a’r dyfodol y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i ddarparu cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru – a bydd gwella ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant sydd ar gael yn hanfodol.

“Ceir potensial aruthrol yn system addysg Cymru ac rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan i ysgogi newid cadarnhaol a grymuso ysgolion er lles yr holl ddysgwyr.

“Mae’r Bartneriaeth Dysgu Proffesiynol wedi ymateb yn gadarnhaol i gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio’r cwricwlwm ac AGA, gydag ysgolion wrthi’n cynllunio cwrs newydd a chyffrous ar gyfer athrawon y presennol a’r dyfodol.”

Gwahoddwyd Chris Parry, pennaeth Ysgol Lewis, Pengam, Caerffili, i rannu ag Ysgrifennydd y Cabinet ei ran ef yng ngwaith Yr Athrofa.

Mae Mr Parry yn un o sefydlwyr y Bartneriaeth Dysgu Proffesiynol, sy’n cynnwys ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion arbennig mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg a Saesneg.

Meddai’r Athro Hughes: “Roedd yn bleser croesawu Ysgrifennydd y Cabinet i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac i roi trosolwg iddi o’n cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol.

“Mae’r brifysgol yn falch o’i hanes cyfoethog mewn addysg athrawon a, thrwy ein Hathrofa newydd, edrychwn ymlaen at adeiladu gwaddol newydd a chyffrous.

“Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau – ac ystyriwn mai ein cenhadaeth genedlaethol yw defnyddio’r cryfder sy’n bodoli yn system addysg Cymru a’r tu hwnt er budd yr holl ddysgwyr.

“Mae pobl ifanc Cymru’n haeddu’r addysg orau ac mae athrawon Cymru yn haeddu’r gefnogaeth orau bosibl. Dyna fydd flaenllaw yn ein meddyliau wrth inni symud ymlaen at ein pennod nesaf.”

Leave a Reply