Mae strategaeth addysg newydd Llywodraeth Cymru wedi’i lansio gan yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams. Yma, mae Gareth Evans yn adfyfyrio ar gynnwys y ddogfen a gweledigaeth hir-dymor newydd Cymru ar gyfer addysg…
Erbyn hyn, bydd athrawon, gwneuthurwyr polisïau, arweinwyr undebau a chwaraewyr allweddol eraill sydd ar y sîn addysg yng Nghymru wedi cael maddeuant am chwysu’n oer wrth gerdded i mewn i’r Amgueddfa Genedlaethol nos Fawrth ddiwethaf.
Oherwydd dyma’r lle y cyflwynwyd yr araith ddrwg-enwog ‘Mae Addysgu’n Gwneud Gwahaniaeth’ a lle dadorchuddiwyd cynllun gwella afrosgo 20-pwynt Llywodraeth Cymru.
Wrth i mi eistedd yn Theatr Reardon Smith, roedd brathau pigog Leighton Andrews yn dal i ganu yn fy nghlustiau.
Mae chwe blynedd a hanner wedi mynd heibio ers galwad ddiarbed y cyn Weinidog Addysg i’r gâd – ond gwnaiff gymryd llawer yn hirach na hynny i’w ddileu o’m cof.
Amser i Kirsty Williams gyflwyno ei gweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru oedd hi y tro hwn, a gyda’r weledigaeth hon, safbwynt mwy optimistaidd ynglŷn â’r heriau sydd o’n blaenau.
Mae llawer i’w groesawu yn ‘Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl’, heb sôn am y newid amlwg yn y dôn.
Ynddo, mae, Ms Williams yn dyfynnu’r “sylfeini cadarn” y mae ei chynllun gweithredu yn seiliedig arnynt, a’i hyder ein bod “ni’n symud i’r cyfeiriad cywir”.
Ychwanega “Mae’n gyfnod cyffrous i fyd addysg yng Nghymru”.
Cymharwch hwn â geiriau Mr Andrews, pan wnaeth e’ gyfeirio yn 2011 at “system hunanfodlon” sy’n wynebu “argyfwng”.
Mae’r rhain yn amseroedd gwahanol iawn.
Gwn yr hyn sydd yn eich meddwl – gweinidog newydd, strategaeth addysg newydd arall. Wel, ie a nage.
Mae’r ddogfen wedi cael ei hail-frandio gyda theitl a slogan newydd.
Ond i bob pwrpas, mae’r cynnwys mwy neu lai’r un peth – ond yn fwy caboledig, ac yn fy marn i, yn fwy credadwy.
Yr hyn y mae Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl yn ei wneud, nad yw’r ddogfen flaenorol Cymwys am Oes (2014) yn gwneud, yw troi’r geiriau yn weithred.
Yn lle rhestr o ymyriadau diamser, ceir cynllun gweithredu diriaethol, sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Mae’n ymddangos fel petai mwy o gydlynu rhwng y gwahanol ‘amcanion galluogi’, ac mae Llywodraeth Cymru, heb os, wedi mireinio ei naratif.
Dro ar ôl tro, rydym ninnau yng Nghymru wedi cael ein cyhuddo o ddiffyg gweledigaeth o ran addysg.
Gwnaeth y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) dylanwadol Organisation for Economic Co-operation and Development (OECD) grisialu’r hyn a ystyrir yn un o’n problemau mwyaf yn ei adroddiad ar Gymru yn 2014.
Yn syml, dywedodd “mae cyflymdra’r diwygio wedi bod yn uchel, ond mae diffyg gweledigaeth hir-dymor, isadeiledd gwella ysgolion digonol, a strategaeth weithredu glir y gall yr holl randdeiliaid eu rhannu”.
Mae Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl yn cynrychioli cais Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phryderon yr OECD.
Ceir diffiniad mawr ei angen o’r ‘system hunan-wella’ a sefydliadau dysgu (y cyntaf, hyd y gwn i, yn y cyd-destun Cymreig) – yn ogystal ag eglurhad o rolau a chyfrifoldebau’r holl randeiliaid allweddol.
Ond hefyd, ceir addasiadau mwy cynnil.
Ac er ei bod hi’n swnio’n rhyfedd, mae’n hawdd iawn mewn strategaethau addysg uchel eu cloch i golli golwg o’r pethau sydd fwyaf pwysig.
Gall gwneuthurwyr polisïau ymglymu eu hunain yn y broses a’r dasg sydd ar waith heb roi ystyriaeth deilwng i’r dysgwyr eu hunain.
Yr hyn sydd orau gennyf o ran Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl yw gweledigaeth Ms Williams ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc.
Medd Ms Williams “Bydd ein dysgwyr yn gydnerth, yn ddychmygus, yn dosturiol ac yn uchelgeisiol – byddant yn anelu’n uchel ac yn cyflawni eu nodau.
“Rhaid i rieni a gofalwyr ledled y wlad fod yn hyderus bod eu plant yn mynychu ysgolion sy’n eu paratoi’n dda ar gyfer y dyfodol, o dan arweiniad athrawon talentog sy’n llawn brwdfrydedd, ac sy’n cyflwyno cymwysterau sy’n eu grymuso ar gyfer heriau a chyfleoedd personol, cenedlaethol a rhyngwladol.
“Mae angen unigolion tosturiol a chyflawn ar ein cenedl, unigolion sydd nid yn unig yn meddu ar ddealltwriaeth dda o lythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, ond hefyd y sgiliau meddwl beirniadol, y dychymyg a’r cydnerthedd i ragori yn swyddi newydd y dyfodol, a chreu’r swyddi hynny hefyd. Rhaid i ni sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed ac nad yw’r un plentyn yn cael ei adael ar ôl.”
Mae Ms Williams yn mynegi’n glir ei disgwyliadau uchel ar gyfer dysgwyr sy’n rhan o system addysg Cymru.
Ac ni ddylent gael eu cyfaddawdu gan “ddaearyddiaeth, amddifadedd na phrofiadau plentyndod”.
Pennawd mawr y ddogfen, wrth gwrs, yw’r oedi yn llinellau amser arfaethedig y cwricwlwm – ond mae gweithredu yn raddol, fesul tipyn, i’w weld yn hollol synhwyrol.
Mae diwygio’r cwricwlwm, sydd wedi’i arwain yn bennaf gan y proffesiwn, yn broses organig na ellir ei rhuthro.
Mae’n llawer gwell cymryd ein hamser er mwyn sicrhau ein bod yn cael Dyfodol Llwyddiannus yn iawn yn hytrach na’i wthio trwodd a’i gael yn anghywir – byddai’r canlyniadau o wneud hynny yn annirnadwy.
Y problemau nad oes neb eisiau eu trafod yw cyllid – a’r effaith y gwnaiff straen ar arian cyhoeddus ei chael ar weithredu – a PISA – sydd heb ei drafod rhyw lawer o ystyried y bri gwleidyddol enfawr sydd ganddo.
Heblaw am gyhoeddi Cerdyn Adrodd Addysg Cymru yn flynyddol (roedd yr un diwethaf yn darllen fel pamffled hyrwyddo gwenieithus), nid yw hi’n glir iawn sut y caiff gwneuthurwyr polisïau eu dal yn atebol am y gweithredu.
Er hynny, mae Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl yn ddogfen llawer mwy cytbwys na’r rhai blaenorol, a thrwy gydol y darn ceir dro ar ôl tro yr un thema, sef teimlad newydd o undod.
Nid oes unrhyw deimlad o ‘ni a nhw’ ac mae Ms Williams yn mynnu “drwy ddysgu gyda’n gilydd gallwn ddatblygu Cymru well”.
Mae hyn yn rhywbeth symbolaidd ar sawl lefel, gan fod Llywodraeth Cymru’n derbyn nad oes ganddi’r atebion i gyd ac na all, ar ei phen ei hun, gyflawni’r lefel o newid sydd ei hangen.
Personolwyd hyn gan Ysgrifennydd y Cabinet a wnaeth gymryd yr amser ar ôl lansio’r ddogfen i gymysgu gyda’r gwesteion a oedd wedi ymgynnull.
Ni wnaeth ruthro, fel y mae gweinidogion blaenorol wedi’i wneud, i mewn i gar a yrrwyd gan chauffeur a oedd yn aros amdani.
Mae’r ffaith ei bod hi wedi cymryd yr amser i anfon copi caled o’i chynllun gweithredu at yr ysgolion – yn ogystal â’r fersiwn e-bost arferol, yn gydnabyddiaeth bellach o’i dymuniad i ymgysylltu’n ystyrlon â’r proffesiwn.
Mae hyd yn oed y pethau lleiaf yn gallu gwneud gwahaniaeth.
Felly, wrth i ni ymlwybro allan o’r Amgueddfa Genedlaethol, roedd yna deimlad cadarnhaol diffuant, a’r gobaith ein bod ni ar drothwy cyfnod newydd a llewyrchus o addysg yng Nghymru.
A dyna’r rheswm i mi wrthod gwahoddiad i’r arddangosfa ddinosoriaid newydd.
Daliwn ati i gredu y gwnaiff Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl oroesi ei hynafiaid – dyn a ŵyr, mae gan addysg yng Nghymru ddigon o sgerbydau yn ei chwpwrdd yn barod.
- Gareth Evans yw Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi Addysg yn yr Athrofa Addysg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant