Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi llofnodi partneriaeth strategol gydag un o brif sefydliadau dysgu digidol y DU.
Bydd y Big Learning Company (BLC) yn cynorthwyo cynlluniau’r Athrofa ar gyfer addysg athrawon ac yn cyfoethogi ymhellach y cyfleoedd sydd ar gael i ysgolion partner a staff Yr Athrofa.
Rhagwelir y bydd Athrofa’r brifysgol yn gweithio gyda BLC i ddarparu cynnwys addysgol digidol newydd, rhaglenni datblygu athrawon a thechnoleg addysg o’r radd flaenaf.
Bydd y bartneriaeth hefyd yn gweld Yr Athrofa: Caerdydd yn cael ei chreu, canolfan ategol ar gyfer gwaith yr Athrofa ym mhrifddinas Cymru.
Lleolir Yr Athrofa: Caerdydd ym mhencadlys BLC yn Tramshed Tech, yn agos at orsaf reilffordd Caerdydd Canolog.
Mae BLC a’r Brifysgol eisoes wedi cyhoeddi partneriaeth mewn perthynas â’r Egin, clwstwr cyfryngau creadigol a digidol y Brifysgol a leolir ar gampws Caerfyrddin.
Mae BLC yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn ehangu nifer y ‘Clybiau Codau’ yng Nghymru ac wedi denu clod uchel oddi wrth y Gweinidog Addysg Kirsty Williams.
Croesawodd Yr Athro Dylan Jones, Cyfarwyddwr Yr Athrofa, y bartneriaeth a’r posibiliadau lu sydd yn dod yn ei sgil.
Meddai: “Mae BLC wedi datblygu enw cryf fel arweinydd ym maes dysgu digidol a thechnoleg ac rydym wrth ein boddau i weithio mor agos gyda nhw.
“Bydd eu harbenigedd yn amhrisiadwy wrth i ni edrych ar ddatblygu ymhellach ein Partneriaeth Dysgu Proffesiynol mewn ysgolion ar draws Cymru ac rydym yn archwilio nifer o brosiectau cyffrous i gefnogi’n darpariaeth addysg athrawon newydd.
“Bydd safle parhaol i’r Athrofa yng Nghaerdydd yn agor drysau newydd i ni ym mhrifddinas Cymru fel rwy’n siŵr y bydd cydweithwyr yng Nghaerfyrddin yn elwa drwy gael presenoldeb BLC yno.
“Mae’r rhain yn amserau cyffrous i’r Athrofa ac mae llofnodi’r cytundeb hwn yn dystiolaeth bellach o’n huchelgais aruthrol ar gyfer addysg athrawon yng Nghymru.”
Meddai Louise Harris, Prif Weithredwr BLC: “Rydym wrth ein boddau i gael y cyfle hwn i gryfhau’n perthynas sefydlog gyda PCYDDS – un o brif sefydliadau addysg uwch Cymru ym maes addysg a hyfforddiant – i ddatblygu addysg athrawon a’r sector technoleg addysg yn gyffredinol yng Nghymru.
“Drwy weithio ar y cyd gydag Athrofa’r brifysgol ar wasanaethau digidol arloesol, cynhyrchion technoleg a chynnyrch digidol lefel uchel ar draws y sector addysg cyfan, bydd y bartneriaeth strategol hon yn creu ystod o bosibiliadau cyffrous i’r ddwy ochr: drwy greu Athrofa: Caerdydd ym mhencadlys BLC yng nghanol prifddinas Cymru yn Tramshed Tech; a thrwy weithio’n agos gydag Athrofa yng Nghaerfyrddin i gyflwyno gwasanaethau hyfforddiant ac addysg digidol.
“Mae amserau cyffrous ar y ffordd i addysg Cymru!”