Er cyffro llafur diwygio’r cwricwlwm, mae Natalie Williams yn esbonio pam na ddylem golli golwg ar y darlun ehangach…

 

Bu’n bleser gen i ddarllen yn rheolaidd am y derbyniad cadarnhaol i argymhellion adroddiad Donaldson. Wedi treulio dros ddegawd mewn cyhoeddi adnoddau cynhaliol i ddiwygio cwricwlwm yn y DU a thramor, mae’r her a ddaw gyda diwygio’r cwricwlwm yn amlwg i mi.

Yn ogystal â’r galw ar adnoddau ariannol a dynol, yn aml iawn bydd ansicrwydd ynghylch gwir oblygiadau unrhyw newidiadau a sut i’w gweithredu, sgiliau set ac addasrwydd y gweithlu addysg, ystyriaethau ynghylch yr amser ar gyfer paratoi, ffynonellau adnoddau cynhaliol… mae’r rhestr yn faith.

Wrth gwrs, bydd her wrth unrhyw newid ar y fath raddfa, ond fel cymuned addysg mae’n amlwg bod modd i ni yng Nghymru godi’n golygon y tu hwnt i’r her ac edrych ar y darlun cyfan – y cyfle i ddatblygu system addysg i’r dyfodol sy’n gwneud synnwyr ac sydd hefyd yn arloesi.

Mae cyfle i ni yn y blynyddoedd nesaf i atgoffa’r byd y gall gwlad fechan feddu ar addysg flaengar, ac i estyn llaw i alluogi cenedlaethau’r dyfodol i ragori ac ymuno yn y reng flaen ym mha faes bynnag. Ac eto, gyda hyn oll o fewn cyrraedd, rhaid wrth fanylder tra yn blaenaru’r tir ar gyfer dysgu ein cwricwlwm newydd.

Cyhoeddwyd fis diwethaf y bydd gohirio pellach ar weithredu dysgu’r cwricwlwm newydd, a fydd erbyn hyn yn cychwyn yn 2022 er mwyn gwarantu amser digonol ar gyfer ei ddatblygu. Mae hyn yn gydnabyddiaeth o’r angen i fuddsoddi er mwyn sicrhau canlyniadau.

Eto, mae’r her yn parhau’n sylweddol, hyd yn oed ar ragolwg pum mlynedd – yn y cyfnod hwnnw, bydd rhaid i’r holl adnoddau cynhaliol yn ogystal â’r cwricwlwm newydd fod yn barod ac yn eu lle.

Ym mis Hydref 2017, cafwyd cyfarfod ar y cyd rhwng cyfranddalwyr ar gyfer seminar diwygio’r cwricwlwm, a thrafodwyd beth a gyflawnwyd hyd yn hyn. Roedd yn gyfle pwysig a defnyddiol i wrando ar sylwadau amrywiaeth o unigolion a sefydliadau sydd (neu a fyddant) yn chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y cwricwlwm newydd.

O ddiddordeb arbennig i mi oedd clywed cynrychiolaeth ysgol arloesol yn trafod ‘Dyfodol Llwyddiannus‘ a’i oblygiadau ymarferol. Roedd hi’n ysbrydoliaeth hefyd i glywed Graham Donaldson yn trafod cyfundrefn addysg wedi’i chreu ar gyfer dyfodol na fedrwn ni eto ei ddychmygu, a sut y mae’r broses ei hun yn addysg i bob un ohonom.

Clywsom gan Donaldson, fel y pwysleisiodd Gareth Evans o’r Athrofa yn ei gyflwyniad yntau (sydd hefyd ar gael ar y blog yma), am yr her wrth gamu o’r nod dilychwin i weithredu’n ymarferol, a’r risg a ddaw gyda hynny o golli golwg ar y weledigaeth yng nghanol y bwrlwm beunydd.

Y bwrlwm hynny yw ein realiti ni, wrth gwrs. Codwyd cwestiynau call ac ymarferol – pryd fydd y cwricwlwm ar gael? Sut caiff yr holl ddiwygio ei ariannu? Pa ffurf fydd ar ddeunyddiau hyfforddi a chynhaliol i athrawon? Pryd fydd y deunyddiau hyn ar gael? Beth am yr isadeiledd? Sut gall asesu weithio o blaid, yn hytrach nag yn erbyn, y weledigaeth?

A phwy ŵyr beth arall a drafodwyd dros baned o goffi!

Mae diwygio’r cwricwlwm yn broses gymhleth a llafurus. Cynsail i’r cwricwlwm newydd yw meddwl am ein dinasyddion a’u dyfodol mewn modd sy’n cyfannu – mewn modd holistig – a dyna fydd raid wrth baratoi’r cwricwlwm. Bydd rhaid ateb yr holl gwestiynau yn gynt nag yn hwyrach.

Nawr yw’r amser i’r sawl sydd am gyfrannu – ymchwilwyr, arbenigwyr digidol, hyfforddwyr athrawon, aseswyr, cyhoeddwyr ac yn y blaen – er mwyn lledaenu meddyliau (a phyrth!) a dod at ein gilydd ar gyfer 2022 gan arwain drwy esiampl. Wedi’r cyfan, anaml iawn y daw’r fath gyfle i gydweithio fel cymuned ar raddfa mor eang.

Estyn allan, rhannu syniadau, meddwl i’r dyfodol, parhau i drafod! Byddwn ar drothwy newid cyffrous iawn cyn pen dim, felly dewch i ni baratoi amdano.

  • Natalie Williams yw Cyfarwyddwraig Gwasg Prifysgol Cymru

Leave a Reply