Croesawodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, i’w champws yng Nghaerfyrddin i drafod y cyfleoedd sydd ar gael drwy gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a’r sector addysg uwch.

Cytunwyd y gallai Llywodraeth Cymru a’r Brifysgol, trwy weithio gyda’i gilydd, sicrhau’r defnydd gorau posibl o adnoddau a meithrin gwell dealltwriaeth o’r amodau sydd eu hangen i godi safonau.

Yn benodol, bu Mr Davies ac uwch staff y Drindod Dewi Sant yn ystyried yr angen i ymateb yn gyflym ac effeithiol i Gynllun Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Llywodraeth Cymru a Chynllun Gweithredu’r Cyfnod Sylfaen.

Yn gysylltiedig â hyn, fe’i hystyriwyd yn hanfodol cael y blociau adeiladu perthnasol yn eu lle mor gynnar â phosibl yn natblygiad plentyn er mwyn gwireddu uchelgais Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Cafodd Mr Davies olwg ar waith y brifysgol sy’n arwain y sector addysg blynyddoedd cynnar, a chyfarfu ag academyddion sy’n arbenigo ym maes plentyndod cynnar.

Mae’r darlithwyr yn yr Ysgol Blynyddoedd Cynnar yn y Drindod Dewi Sant yn meddu ar ystod amrywiol o arbenigedd o’u gyrfaoedd blaenorol, ac yn cynnwys staff sydd wedi gweithio mewn ysgolion meithrin a chynradd, perchnogion a rheolwyr meithrinfeydd, swyddogion amddiffyn plant yr heddlu, swyddogion datblygu plentyndod cynnar ac ymchwilwyr.

Hefyd, mae’r darlithwyr yn cadw mewn cysylltiad agos â’r sector plentyndod cynnar er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn cael y cyfle i gysylltu’r hyn a ddysgant yn y Brifysgol â materion go iawn yn y gweithle.

Cynhaliwyd ymweliad Mr Davies yn dilyn lansio Yr Athrofa, sef Athrofa Addysg y Brifysgol, yn ddiweddar ac ystyriwyd y potensial ar gyfer cydweithio pellach rhwng Llywodraeth Cymru a phartneriaid mewn addysg uwch i ddatblygu atebion ar y cyd i flaenoriaethau cenedlaethol.

Meddai Jane Waters, Deon Cynorthwyol Ymchwil a Throsglwyddo Gwybodaeth yn y Gyfadran Addysg a Chymunedau yn y Drindod Dewi Sant:  “Roeddem wrth ein bodd i groesawu Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i’n campws yng Nghaerfyrddin, a dangos iddo ein gwaith ym maes hollbwysig addysg blynyddoedd cynnar.

“Rydym yn rhannu yn ymrwymiad y gweinidog i gydweithio, a thrwy weithio gyda’n gilydd gallwn sicrhau bod pob punt sy’n cael ei gwario’n cael ei gwario’n dda a bod pob rhan o’r system addysg yn gweithio’n effeithiol gyda’i gilydd er y budd mwyaf posibl.

“Trwy gydweithio, gallwn wneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn gwybod beth yw rhagoriaeth ac yn cynllunio i gyrraedd y meincnod hwn yn gyson.

“Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych ymlaen at chwarae rhan lawn a gweithgar yn natblygiad addysg a hyfforddiant y blynyddoedd cynnar yng Nghymru yn y dyfodol, wrth i ni geisio gwireddu uchelgais Llywodraeth Cymru.”

Meddai Mr Davies:  “Dylai sicrhau datblygiad gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol iach plant ifanc fod yn brif flaenoriaeth i bob llywodraeth, sefydliad, cymuned, teulu ac unigolyn cyfrifol.

“Rwy’n llawn edmygedd o’r gwaith mae’r brifysgol wedi’i gyflawni ar draws nifer o feysydd polisi allweddol – mae eu cyfraniadau’n hanfodol wrth i ni fynd ati i ddatblygu a chyfoethogi addysg yng Nghymru.”

Leave a Reply