Mae’r Athrofa: Partneriaeth Dysgu Proffesiynol wedi cyflwyno ger bron Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) dair rhaglen addysg gychwynnol athrawon i’w hachredu.
Wrth wneud hynny, mae Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA) wedi rhoi arwydd o’i bwriad i fod yn rhan o arlwy AGA newydd a chyffrous sy’n ystyried cyfres o bolisïau addysg newydd a gaiff eu cyflwyno fesul cam gan Lywodraeth Cymru.
Roedd gan Bartneriaethau a leolir yng Nghymru tan Ragfyr 1af i gyflwyno eu rhaglenni AGA arfaethedig, yn unol â meini prawf manwl a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y rhaglenni newydd yn weithredol o fis Medi 2019, ac maent wedi’u llunio gan gadw mewn golwg ofynion y cwricwlwm cenedlaethol newydd a’r Safonau Addysgu Proffesiynol.
Cyhoedda datblygiad PDPA ymagwedd newydd ac arloesol at addysg athrawon, gyda’r Athrofa a’r ysgolion partner yn gyd-gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno’r holl raglenni AGA.
Am hynny, mae PDPA yn cyfuno arbenigedd y sector ysgolion a’i holl brofiad ymarferol ag arbenigedd y sector addysg uwch (AU), o’r ddealltwriaeth o sut i gynllunio a chyflwyno ymchwil yn ofalus i’r grefft tra medrus o dysgu athrawon a darpar athrawon.
Gyda’i gilydd, mae gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a’r ysgolion partner hanes hir a chadarn o dysgu a mentora myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yn llwyddiannus ar raglenni sydd wedi gwrthsefyll traul amser.
Meddai’r Athro Dylan Jones, Deon Yr Athrofa: “Er mwyn paratoi athrawon dan hyfforddiant ar gyfer y newidiadau sydd i ddod i‘r system addysg yng Nghymru, cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd buddiol, gan gynnwys staff yr Athrofa a dros 150 o ysgolion, gyda’r bwriad o ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o’r rhaglenni addysg athrawon hynny sy’n perfformio orau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
“Canlyniad net y datblygu ar y cyd eang hwn oedd datblygiad cwricwlwm craidd cynhwysfawr sy’n rhychwantu’n casgliad o raglenni AGA, gan gynnig diffiniad clir o rolau a chyfrifoldebau’r ysgolion a’r brifysgol.
“Mae hyn yn sicrhau bod PDPA mewn sefyllfa gadarn i ddarparu rhaglenni AGA sydd yn ymarferol drwyadl ac yn heriol yn ddeallusol.”
Wrth graidd model AGA PDPA mae’r ddealltwriaeth fod ysgolion a phrifysgolion yn bartneriaid cyfartal a bod ganddynt ill dau ran annatod i’w chwarae yn natblygiad addysg athrawon, trefn lywodraethol y bartneriaeth a’r prosesau sydd eu hangen ar gyfer sicrwydd ansawdd trwyadl.
Dywedodd Russell Dwyer, pennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas, Abertawe: “Fel rhywun sydd wedi gweithio’n agos gyda’r Athrofa, fel partner cyfartal wrth ddatblygu ar y cyd raglenni PDPA, rwy wrth fy modd gyda’r cyflwyniadau terfynol.
“Maent yn uchafbwynt misoedd lawer o gydweithio didwyll rhwng y brifysgol ac ysgolion, ac mae’r ymagwedd bartneriaeth effeithiol hon wedi bod yn gryfder mawr i’r broses.
“Mae’r cyfle i ysgolion fod yn ganolog i’r broses o ddatblygu, gyda’r brifysgol, gyfeiriad AGA i’r dyfodol, wedi bod yn ysbrydoledig iawn, ac mae mynd â’r bartneriaeth hon ymhellach fel ysgol arweiniol wedi fy nghynhyrfu.”
Ychwanegodd yr Athro Jones: “Mae gan PCYDDS draddodiad hir o addysg athrawon. Hwn yw un o bileri ein cenhadaeth, ac rydym wedi ymrwymo i’r broses o adeiladu cyfalaf proffesiynol.
“Rydym yn falch iawn o’r hyn yr ydym wedi’i greu ar y cyd gyda’r ysgolion ac mae’r cyfleoedd sydd o’n blaenau yn ein cynhyrfu.”
- Cynhelir ym mis Ionawr ‘sioe deithiol’ fechan o ddigwyddiadau rhagarweiniol wedi’u cynllunio er mwyn arddangos gweledigaeth gyffredin PDPA ar gyfer AGA. Bwriedir defnyddio’r digwyddiadau anffurfiol hyn yn bennaf i dargedu llywodraethwyr, staff ysgolion ac unrhyw un arall nad yw’n hollol ymwybodol o ddatblygiadau PDPA. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â partnership@uwtsd.ac.uk os gwelwch yn dda.