Dyma Gareth Evans yn ystyried pwysigrwydd cyfathrebu cadarnhaol wrth gyflwyno ‘cenhadaeth genedlaethol’ Cymru dros addysg…

 

Mae’n deg dweud bod system addysg Cymru wedi gwrthsefyll cryn dipyn o newid dros y blynyddoedd diwethaf.

Y cyn Weinidog Addysg, Leighton Andrews a roddodd gychwyn ar yr agenda ddiwygio, gan ddadwneud ac ailwampio llawer o drefn y gorffennol.

Gellir ystyried ei alwad arloesol i’r gad yn gynnar yn 2011 – a’r ‘cynllun 20 pwynt’ yn sgil hynny – yn achos o ailgychwyn system addysg Cymru ar ôl datganoli ac mae effeithiau ei ymyrraeth i’w teimlo o hyd heddiw.

Achosodd dadansoddiad digalon y gweinidog a’i alwad heriol ar system “hunanfodlon” drafodaeth frwd o fewn y proffesiwn addysg.
Ond ar ôl mynnu dull newydd o weithredu, roedd llawer mwy o gwestiynau nag atebion.

O edrych yn ôl, roedd yn broses hanfodol; roedd Mr Andrews wedi taflu goleuni ar ein diffygion ac roedd angen amser arnom ni i fyfyrio. Roedd asesiad trylwyr o ble roeddem a ble roedd angen i ni fynd nesaf yn hanfodol.

Roedd yn amser i bwyso a mesur; myfyrio ar ein hanes diweddar, ystyried ein harfer cyfredol a chynllunio llwybr newydd ar gyfer ein dyfodol.

Cafodd pawb gyfle i ddweud eu dweud ac mae’r sgwrs, i amrywiol raddau, wedi parhau am yn agos at ddegawd. Ond dim ond hyn a hyn y gallwn ei gyflawni trwy drafod.

Ar ryw bwynt, mae’n rhaid i’r gwaith caled o weithredu a gwneud polisi addysg ddod i’r amlwg. Os na wnawn ni hynny, rydym mewn perygl o droi mewn cylchoedd yn barhaus.

A bwrw ein bod, yn gyffredinol, yn gytûn ynglŷn â’r trywydd presennol – a byddai’r gefnogaeth eang gan ymarferwyr i gwricwlwm Cymru a diwygio addysg gychwynnol athrawon (AGA) yn awgrymu ein bod – mae’n bryd tynnu llinell yn y tywod a dechrau ychwanegu’r manylion.

Gwyddom i ble’r ydym yn mynd, ond rhaid i ni ganolbwyntio ar sut i gyrraedd yno wrth symud ymlaen. Fodd bynnag, nid bwriad y ddadl arbennig hon yw cyflwyno polisi.

Yn hytrach canolbwyntia ar y modd y mae polisi – a’r agenda addysg ehangach – yn cael eu mynegi i’r bobl sydd fwyaf o bwys.

Afraid dweud, er mwyn i bolisi newydd weithio, ei bod yn rhaid cael cefnogaeth helaeth gan y rhai ar flaen y gad ym maes addysg.

Mae cyfathrebu â gweithwyr addysg proffesiynol a’r gweithlu ehangach yn hanfodol; mae partneriaethau cadarnhaol yn allwedd i lwyddiant.

Mae meithrin cyfalaf cymdeithasol trwy ddeialog agored ac onest o fudd i bawb a gall hwyluso’r gweithredu ar y cyd sydd ei angen i esgor ar welliant ar draws systemau.

Ys dywed y gwyddonydd cymdeithasol Robert Putnam (2000): “Whereas physical capital refers to physical objects and human capital refers to the properties of individuals, social capital refers to connections among individuals – social networks and the norms of reciprocity and trustworthiness that arise from them.”

Egwyddor ganolog cyfalaf cymdeithasol yw bod gwerth i rwydweithiau cymdeithasol, ac ni ddylid, yn fy marn i, ddiystyru eu gwerth.

Fel cyn-newyddiadurwr addysg, mae wedi bod yn drawiadol i mi dros y chwe mis diwethaf faint o’r gweithlu addysg sydd heb ymwybyddiaeth o agenda ddiwygio Llywodraeth Cymru ac sydd, mewn nifer o achosion, wedi troi cefn yn llwyr ar yr agenda honno.

Gwelais fy mod wedi camgymryd yn fawr wrth ddisgwyl y byddai’r rhan helaeth o randdeiliaid yn gyfarwydd â’r rhaglen gyfredol o ddiwygio.

Rwyf wedi cwrdd â phenaethiaid nad ydynt yn ymwybodol o’r cynllun i ailwampio AGA yng Nghymru a nifer o rai eraill sydd â fawr ddim gwybodaeth am gynlluniau’r Athro Graham Donaldson ar gyfer cwricwlwm cenedlaethol newydd.

Gallai’r diffyg dealltwriaeth hwn o’r prif bolisïau sydd ar waith fod ag oblygiadau difrifol ac mae’n annhebygol y byddwn yn esgor ar newid i’r system gyda niferoedd helaeth o’r proffesiwn ar yr ymylon.

Fel y dywedodd George Bernard Shaw unwaith: “The single biggest problem in communication is the illusion that it has taken place.”

Yn amlwg wnewch chi ddim perswadio pawb bod yr hyn rydych yn ei wneud yn iawn ac fe fydd rhai’n mynd ati’n fwriadol i wrthsefyll ymdrechion i’w hysbysu a’u diweddaru.

Ond gallwn wneud yn well o lawer wrth fynegi ein ‘cenhadaeth genedlaethol’ gyffredin o blaid diwygio addysg a mynd i’r afael â’r diffyg cytundeb rhwng gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr ar bob lefel.

Mae’r amrywioldeb mawr yn yr hyn mae pobl yn ei wybod a’i ddeall yn wrthgynhyrchiol – ac mae gan y gymuned addysg gyfan ran bwysig i’w chwarae wrth lunio neges gadarnhaol.

Mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom i rannu’r feddylfryd ddiweddaraf gyda chydweithwyr, rhieni a myfyrwyr.

Ond dim ond hyn a hyn y gallwn ei gyflawni drwy hynny a byddwn i’n cefnogi strategaeth gyfathrebu genedlaethol i’n helpu ar ein ffordd.

Mae angen rhywbeth hollgynhwysol y gellir ei ddefnyddio i estyn allan ac ymgysylltu â phawb sydd â rhan yn ein system addysg; cynllun wedi’i dargedu’n benodol at gryfhau perthnasau a chodi momentwm.

Felly pa gamau ymarferol allai Llywodraeth Cymru eu hystyried?

• Yn gyntaf, mae angen iddi fod â neges glir a naratif cydlynol i gyd-fynd â’i hagenda wella gyfan. Byddai cyfyngu ar y blaenoriaethau a chael nifer bach o gamau allweddol yn haws o lawer i’w drosglwyddo i bawb dan sylw.

Sicrhau cymorth hyrwyddwyr oddi mewn i’r proffesiwn ac o amgylch. Bydd athrawon yn fwy tebygol o wrando ar ac ymddiried mewn cydweithwyr sydd â phrofiad uniongyrchol o fywyd yn y dosbarth. Dros y misoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi secondio nifer o arweinwyr ysgol i’r ochr weinyddol a hynny’n effeithiol.

• Cynnwys athrawon yn y broses benderfynu. Mae angen i athrawon gredu yn y polisïau maent yn gyfrifol am eu gweithredu a bod â pherchnogaeth ohonynt. Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio’n galed i oresgyn rhwystrau a meithrin perthnasau, ond mae’n ddyddiau cynnar o hyd a gellir gwneud mwy.

Targedu’r genhedlaeth nesaf o athrawon. Mae blaengynllunio’n hanfodol a byddai ymgysylltu â darpar athrawon yn ystod eu hyfforddiant yn helpu chwalu mythau ac ennill cefnogaeth gynnar. Gellir defnyddio athrawon newydd gymhwyso fel cyfrwng i uwchsgilio a rhoi egni newydd i’r proffesiwn ehangach.

• Ystyried y cyfryngau yn rhan o’r ateb, ac nid yn rhan o’r broblem. Mae cyflwr gwybyddus cyfryngau Cymru yn her i ni i gyd, ond er hynny mae newyddiadurwyr yn chwarae rhan bwysig. Mae angen sefydlu perthnasau cadarnhaol ac archwilio’r posibilrwydd o ymgyrchoedd ar y cyd.

• Bod yn ddigon dewr i gyfleu newyddion drwg mewn modd mor effeithiol â newyddion da. Bydd cau llygaid ar ddiffygion ac anwybyddu methiant yn esgor ar sgeptigaeth. Trwy onestrwydd yn unig y gellir meithrin ymddiriedaeth.

• Peidio â thybio bod pobl yn gwybod am beth rydych chi’n sôn. Darparu cyd-destun ac egluro beth mae polisi’n ei olygu’n ymarferol. Byddai diweddariad ar y broses ddiwygio – yn cwmpasu pob llinyn allweddol o’r gwaith – yn ddefnyddiol.

• Siarad mewn iaith gyffredin, ddi-jargon. Adnabod eich cynulleidfa ac ysgrifennu mewn arddull a fydd yn sicrhau’r derbyniad mwyaf.

• Defnyddio Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg fel arweinydd mewn enw. Yn gam neu’n gymwys, nid oes i wleidyddion yr enw gorau. Gallai neges gan Kirsty Williams helpu gwrthsefyll stereoteipiau negyddol. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried llythyr neu e-bost personol i bob athro yng Nghymru, yn amlinellu ei blaenoriaethau ac yn atgyfnerthu rhan hanfodol y proffesiwn wrth wella ysgolion.

• Kirsty’n Cysylltu? Yn yr un modd, gallai Ysgrifennydd y Cabinet ystyried sioe deithiol genedlaethol o ddigwyddiadau ymgysylltu, lle mae’n meithrin cysylltiadau’n uniongyrchol â’r cyhoedd. Dwy awr gyda’r nos; gwahoddiad agored a chyfle i athrawon, rhieni, llywodraethwyr a disgyblion ddweud eu barn yn uniongyrchol wrth Ms Williams. Byddai cyfres o sesiynau holi ac ateb, ddim yn annhebyg i’r rhai a gynhaliwyd gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn gymorth i godi pontydd.

• Manteisio ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r rhyngrwyd yn arf arbennig o bwerus ac wedi’i sefydlu’n gadarn yn brif ffynhonnell gwybodaeth – felly mae’n ddyletswydd arnom i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o’i ddefnyddio. Roedd digwyddiad diweddar Ms Williams ar Twitter, ‘Ask Kirsty’ yn ddatblygiad i’w groesawu – ond mae llawer mwy o bosibiliadau i ryngweithio. Gall y cyfryngau cymdeithasol helpu Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â grwpiau oedran sy’n anos eu cyrraedd, yn enwedig rhieni a disgyblion iau.

• Gwefan hawdd ei defnyddio. Mae gwefan gyfredol Llywodraeth Cymru braidd yn ffurfiol, sydd yn ddealladwy i raddau. Mae potensial ar gyfer is-wefan gysylltiedig sydd wedi’i hanelu’n fwy at rieni a disgyblion – a’r materion sydd o’r diddordeb mwyaf iddyn nhw. Gellir ei defnyddio i gynnwys adnoddau a chasglu adborth ar faterion byw.

• Dathlu arfer da. Yn sicr mae rhywfaint o wirionedd yng nghred yr OECD nad yw Cymru’n ddigon da o ran dathlu’r hyn y mae’n ei wneud yn dda. Mae cyflwyno gwobrau addysgu cenedlaethol newydd yn ddechrau da, ond mae cyfle i hyrwyddo’n well y gwaith sector-arweiniol sy’n digwydd yn ysgolion Cymru. Gellir defnyddio hyrwyddwyr lleol i ledaenu negeseuon allweddol.

• Datblygu rhwydwaith. Sefydlu cysylltiadau a datblygu cynghreiriau gyda’r rhai a all eich cefnogi yn eich ymdrechion. Ymhlith cynghreiriaid posibl y ‘genhadaeth genedlaethol’ yn y gymuned mae sefydliadau anllywodraethol, sefydliadau’r bobl, grwpiau hunangymorth a swyddogion gweithredol llywodraeth leol. Gall y rhwydweithiau hyn ganiatáu i gymunedau fanteisio i’r eithaf ar adnoddau cyfyngedig at lefel lle bydd eu mewnbwn yn cael llawer mwy o effaith. Mae partneriaethau o fewn ac ar draws llywodraeth yr un mor bwysig.

• Ymgyrch farchnata genedlaethol. Byrddau poster, slotiau ar y radio, taflenni, hysbysebion teledu; ni fyddai ymgyrch Cysylltiadau Cyhoeddus (PR) ar draws Cymru’n rhad, ond gallai ennyn diddordeb a helpu codi momentwm.

• Cofio’r gynulleidfa fewnol. Gwneud yn siŵr fod pawb o fewn yr Adran Addysg, a thu hwnt lle bo angen, yn gyfarwydd â’r datblygiadau diweddaraf. Byddai fforymau neu newyddlenni staff yn lle da i ddechrau.

Er clod iddi, mae Llywodraeth Cymru dros y misoedd diwethaf wedi cymryd camau cadarnhaol i wella’r wybodaeth mae’n ei rhyddhau ac mae eisoes yn gweithredu ar nifer o’r camau uchod.

Ond mae’n mynd i gymryd llawer o amser ac egni i chwalu’r rhwystrau sefydledig rhwng gwneuthurwyr polisi a’r bobl maent yn eu gwasanaethu. Nid tasg hawdd mo newid barn pobl ac mae angen newid diwylliant yn ogystal â strwythurau.

Bydd angen ffordd newydd o weithio i sicrhau ymgysylltu cadarnhaol yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn i addysg yng Nghymru.

Fodd bynnag, rwy’n hyderus bod gennym yn Ms Williams Ysgrifennydd Cabinet sy’n barod i fynd yn groes i’r graen.

Bydd y manteision yn sicr yn werth yr ymdrech os llwyddir i gael pawb yn gytûn.

  • Gareth Evans yw Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi Addysg yn yr Athrofa Addysg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Leave a Reply