Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cryfhau ei datblygiad ym maes hyfforddi athrawon ac ymchwil trwy lofnodi partneriaeth strategol gydag un o brif sefydliadau addysg y Deyrnas Unedig.

Mae’r Athrofa yn y Drindod Dewi Sant yn cydweithio’n agos â’r Ysgol Addysg uchel ei bri ym Mhrifysgol Glasgow i wella’i darpariaeth a helpu bodloni gofynion cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru.

Mae’r bartneriaeth yn cynnwys y prosiect Cyfnewid Gwybodaeth Cymru (KEW) sydd â’r nod o feithrin gallu i gynllunio, datblygu a chyflawni ymchwil addysgol.

Bydd y gwaith hwn yn cefnogi datblygu partneriaethau seiliedig ar ymchwil rhwng y prifysgolion a’r ysgolion wrth ddarparu addysg gychwynnol athrawon a dysgu proffesiynol.

Dan arweiniad uwch staff o Brifysgol Glasgow a’r Athrofa, mae KEW yn cyfrannu at Brosiect CAMAU, cynllun pwysig a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i fapio’r camau dilyniant a’r strategaethau asesu sy’n ofynnol fel sail ar gyfer gweithredu canllawiau’r Athro Graham Donaldson i ddiwygio’r cwricwlwm.

Mae’r bartneriaeth strategol yn seiliedig ar yr amcanion cyffredin o weithredu cwricwlwm a threfniadau asesu newydd; dulliau arloesol o gyflwyno addysg gychwynnol athrawon a dysgu proffesiynol; mesurau atebolrwydd newydd i ysgolion; ac ymrwymiad i wella gallu i gynnal newid ar draws y system.

Mae Ysgol Addysg Prifysgol Glasgow ar y brig yn y Deyrnas Unedig yn ôl y Times Good University Guide ac yn ail yn ôl y Complete University Guide.

Bydd staff o’r Athrofa, dan arweiniad ei Chyfarwyddwr, yr Athro Dylan Jones, yn ymweld â Phrifysgol Glasgow yr wythnos hon.

Meddai’r Athro Jones: “Mae Prifysgol Glasgow yn enwog am ei haddysg gychwynnol athrawon a’i hymchwil addysgol ac felly mae’n bleser gweithio mor agos â’n gilydd.

“Mae’n bwysig bod addysgwyr yng Nghymru yn dysgu o arfer gorau ar draws y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol – ac eisoes mae ein partneriaeth â Phrifysgol Glasgow yn talu ar ei ganfed, wrth i gydweithwyr yn y ddau sefydliad rannu syniadau a dealltwriaeth o’r heriau sydd yn ein hwynebu.

“Yn ogystal â gwrando ar ein gwaith ac ymateb iddo, mae cydweithwyr yn Glasgow yn cefnogi datblygiad ein rhaglenni addysg gychwynnol athrawon a dysgu proffesiynol newydd – yn ogystal â chryfhau gallu ymchwil Yr Athrofa.

“Edrychwn ymlaen at berthynas hir a ffrwythlon, gyda buddiannau gorau system addysg Cymru a’i disgyblion yn greiddiol iddi.”

Meddai’r Athro Trevor Gale, Pennaeth yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Glasgow: “Mae’n gyffrous cael gweithio gyda’r Athrofa yn y Drindod Dewi Sant, sydd yn datblygu i fod yn arloesydd ac yn arweinydd mewn addysg athrawon yng Nghymru.

“Mae partneriaethau cryf, llawn parch rhwng ysgolion a phrifysgolion yn greiddiol i’w dull newydd. Dyna sy’n ein hysgogi ninnau hefyd. Rydym yn adnabyddus am hynny.

“Ymchwil yw’r allwedd ar gyfer creu ffyrdd newydd o baratoi athrawon o ansawdd at y dyfodol ac felly mae’n gyffrous cael gweithio ochr yn ochr â’n cydweithwyr yn y Drindod Dewi Sant i lunio agendâu cydweithredol.

“Edrychwn ymlaen hefyd at groesawu ein cydweithwyr yn yr Athrofa i Glasgow ym mis Mai ar gyfer ein fforwm cenedlaethol ar Adeiladu Partneriaethau mewn Addysg Athrawon.”

Leave a Reply